Barbara Roberts o Aberaeron yn derbyn Tlws Coffa Aled Roberts

Barbara RobertsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Dysgodd Barbara Roberts y Gymraeg fel oedolyn, ac ers 10 mlynedd mae wedi bod yn cefnogi dysgwyr eraill

  • Cyhoeddwyd

Barbara Roberts o Aberaeron sy'n derbyn Tlws Coffa Aled Roberts eleni.

Mae'r tlws yn cael ei gyflwyno gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er cof am Aled Roberts - y gwleidydd a chyn-Gomisiynydd y Gymraeg a oedd yn wreiddiol o Rosllannerchrugog.

Mae'n cael ei roi yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i'r sector Dysgu Cymraeg.

Dysgodd Barbara y Gymraeg fel oedolyn, ac ers 10 mlynedd mae wedi bod yn cefnogi dysgwyr eraill.

Mae'n trefnu llu o weithgareddau yn ei hardal, mae'n siaradwr gwadd poblogaidd ac yn cadeirio Cymdeithas Ceredigion.

Mae Barbara hefyd yn trefnu grŵp siarad yn Llanerchaeron, yn mynychu sesiynau coffi a chlonc yn Aberaeron ac yn arwain teithiau tywys o amgylch yr ardaloedd hynny.

Mae'n gefnogwr brwd o gynllun 'Siarad' y Ganolfan Dysgu Cymraeg - cynllun sy'n paru siaradwyr Cymraeg â dysgwyr er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw sgwrsio a chymdeithasu yn Gymraeg tu allan i'r dosbarth.

Mae gan Barbara ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth, ac mae'n aelod selog o glwb darllen Rhannu Geiriau a grŵp Gwibio, sy'n trafod llenyddiaeth Gymraeg.

'Gweithio'n ddiflino i helpu eraill'

Dywedodd prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Dona Lewis: "Mae'n amlwg bod Barbara yn aelod gwerthfawr o'r gymuned Gymraeg yn ardal Aberaeron, ac mae pawb yn dweud ei bod wastad yn barod ei chymwynas mewn cymaint o feysydd.

"Mae'n angerddol dros y Gymraeg ac yn croesawu a chefnogi dysgwyr a siaradwyr Cymraeg i fwynhau llu o weithgareddau a sesiynau difyr y mae hi'n eu trefnu.

"Mae gwaith ardderchog yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad i gefnogi dysgwyr, ac mae Barbara yn enghraifft berffaith o rywun sy'n gweithio'n ddiflino yn y gymuned i helpu eraill i fwynhau dysgu a siarad Cymraeg.

"Diolch enfawr, Barbara, am eich holl waith."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.