Dysgwyr y Flwyddyn 2025: Cwrdd â Lucy Cowley

Mae Lucy Cowley yn ymddiddori mewn creu gemwaith
- Cyhoeddwyd
Mae'n annhebygol y bydd Lucy Cowley yn mynd ar goll ar y ffordd i Faes yr Eisteddfod yn Wrecsam eleni.
Cafodd Lucy ei magu dafliad carreg i ffwrdd ym mhentref Isycoed ar gyrion Wrecsam.
Mae hi'n un o bedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni, ac mae Cymru Fyw yn cael cyfle yr wythnos hon i gwrdd â'r ymgeiswyr.
Yn 45 oed a bellach yn byw yn Llangollen, mae Lucy yn gweithio fel athrawes yn Ysgol Gynradd Holt.
Dysgwyr y Flwyddyn 2025: Dewch i adnabod Lucy Cowley
Ond wedi ysgogi ei hun i ddysgu'r Gymraeg yn 2019, mae bellach yn chwarae rôl hollbwysig yng nghalon cymuned Gymraeg Llangollen.
"Dwi'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd rŵan, yn yr ysgol hefo'r plant a bob pythefnos dwi'n trefnu clwb trafod yn y bar gwin yn Llangollen a 'da ni'n siarad llawer iawn o Gymraeg," meddai.
"Dwi 'di trio creu awyrgylch Cymraeg i helpu pobl sy'n dysgu ac i ddefnyddio'r Gymraeg heb bwysau.
"'Da ni'n cael llawer o hwyl yn mynd i gigs, neu ar dripiau... a chydig bach o win hefyd, mae pobl yn siarad yn well ar ôl dipyn bach o win dwi'n meddwl!"

Gyda'r clwb yn gyfle i drafod yn y Gymraeg yn ardal Llangollen, mae Maureen Jones (dde, cefn) wedi nodi "brwdfrydedd" Lucy
Yn ôl Maureen Jones o'r Bala, sy'n mynychu'r clwb trafod, mae brwdfrydedd Lucy dros y Gymraeg yn "wych i weld".
"Dwi 'rioed 'di gweld neb sydd mor hapus o allu siarad y Gymraeg," meddai.
"Pan aethon ni yna gyntaf oedd 'na rhyw chwech yn y grŵp trafod, a rŵan mae 'na grŵp Whatsapp ac mae hi'n gadael pawb wybod be sy'n mynd ymlaen a lle mae'r gigiau Cymraeg a hyn a llall.
"Mae 'na 46 o aelodau rŵan!"
Dysgwyr y Flwyddyn 2025
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd Non ap Emlyn, a oedd yn diwtor Cymraeg i Lucy, bod ei datblygiad wedi bod yn "anhygoel".
"Daeth hi fewn yn 2019 prin yn dweud unrhyw beth yn y Gymraeg," meddai.
"Roedd hi'n frwdfrydig iawn yn y dosbarth ac yn ymroi i bob tasg yn ardderchog, hefo llawer o hiwmor ac mae hi wedi gwella a gwella a bellach yn rhugl."

Mae Non ap Emlyn yn dweud fod datblygiad Lucy wedi bod yn "anhygoel"
Ychwanegodd: "Dwi mor falch ohoni ac mae'n rhoi hwb i ni fel tiwtoriaid hefyd cofiwch.
"Iddi hi mae'r Gymraeg yn fwy na iaith, mae'n ffordd o fyw ac mae hi eisiau rhannu hwnna hefo pobl eraill."
Ond ers sawl blwyddyn mae Lucy hefyd wedi ymddiddori mewn creu gemwaith, ac yn yr Eisteddfod eleni bydd cyfle iddi gyfuno ei chreadigrwydd a'i sgiliau ieithyddol.
"Mae 'na lot o bethau yn agored i mi rŵan," meddai.
"Heb y Gymraeg fyswn methu gwneud y stondin ond rŵan fydda i'n siarad bob dydd hefo pobl ac yn y dyfodol bydda i'n gwneud gwersi [creu gemwaith] yn y Gymraeg hefyd."

Lucy wrth ei gwaith yn creu gemwaith
Mae'n cydnabod mai prin oedd y cyfleon i ddefnyddio'r Gymraeg pan yn tyfu i fyny mor agos i'r ffin, a bod croesawu'r Eisteddfod i'r ardal yn gyffrous.
"Dwi'n edrych ymlaen i fynd, bydda i'n aros gyda'n rhieni ac yn seiclo bob dydd i'r stondin yn yr Eisteddfod!
"Dwi eisiau diolch i bawb, fy nhiwtoriaid a ffrindiau a phawb sydd wedi'n enwebu."
Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher, 6 Awst, gan dderbyn tlws Dysgwr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300.
Fe fydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.