Y BBC yn gofyn i Huw Edwards ddychwelyd £200,000
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC wedi ysgrifennu at Huw Edwards yn gofyn iddo ddychwelyd dros £200,000 a gafodd ei dalu iddo ar ôl cael ei arestio am greu delweddau anweddus o blant.
Mewn llythyr at staff dywedodd Cadeirydd y BBC, Samir Shah fod Edwards wedi ymddwyn yn anonest, gan ddweud bod y gorfforaeth yn credu ei fod wedi cymryd ei gyflog er ei fod yn gwybod ei fod am bledio’n euog i’r troseddau.
Mae'r BBC hefyd wedi cyhoeddi y bydd adolygiad annibynnol i ddiwylliant y gweithle.
Mae'r gorfforaeth hefyd yn credu fod y digwyddiadau wedi tynnu sylw at faterion anghydbwysedd pŵer yn y gweithle.
Daeth cadarnhad ddydd Iau fod Edwards wedi'i ddiarddel o Orsedd Cymru gan Lys yr Eisteddfod.
Mae'r cyn-gyflwynydd hefyd wedi colli anrhydeddau a roddwyd iddo gan sawl prifysgol.
'Huw Edwards oedd y drwg yn y caws'
Mewn neges at staff y BBC, dywedodd Mr Shah bod hi'n "sioc i ddarganfod bod Huw Edwards yn byw bywyd dwbl".
"Ar y wyneb, roedd yn ddarlledwr mawr iawn ei barch yr oedd y BBC wedi ymddiried ynddo i gyflwyno'i phrif raglen newyddion a llywio darllediadau digwyddiadau cenedlaethol, ond bradychodd ymddiriedaeth staff a'n cynulleidfaoedd yn y ffordd fwyaf dychrynllyd bosib," dywedodd.
"Gadewch i mi fod yn glir: Huw Edwards yw'r drwg yn y caws yn yr achos hwn; y dioddefwyr yw'r plant hynny yr oedd Huw Edwards yn rhan o'r farchnad am eu darostyngiad."
Dywedodd Mr Shah bod y BBC wedi ymateb i "sefyllfa anodd a chymhleth" mewn ffordd "resymol" o ystyried y wybodaeth oedd ar gael ar y pryd.
Roedd y Rheolwr Gyfarwyddwr Tim Davie a'i dîm, meddai, wedi gwneud pob penderfyniad "yn ddidwyll" tra bod Edwards "wedi ymddwyn yn anonest".
Ychwanegodd: "Gydol yr amser hwn, roedd Mr Edwards yn gwybod beth roedd wedi ei wneud ond parhaodd i gymryd gwerth cannoedd o filoedd o bunnoedd o arian y ffi drwydded.
"Mae'r Bwrdd yn cefnogi'n gyfan gwbl benderfyniad y Gweithgor, sydd wedi ysgrifennu at Mr Edwards i ddychwelyd yr arian."
- Cyhoeddwyd8 Awst
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf
Cafodd Edwards ei ddiarddel o'i waith fis Gorffennaf y llynedd a'i arestio ym mis Tachwedd, ond fe dderbyniodd gyflog llawn nes ei ymddiswyddiad o'r BBC ym mis Ebrill.
Dydy'r BBC heb gadarnhau a fydd yn cymryd camau cyfreithiol pe bai Edwards yn gwrthod ad-dalu'r arian.
Mae Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Lisa Nandy, wedi croesawu'r penderfyniad i gynnal adolygiad annibynnol "yn dilyn achos Huw Edwards a'i weithredoedd ffiaidd".
Dywedodd bod hi'n "hanfodol" bod y cyhoedd yn gallu ymddiried yn y gorfforaeth a bod staff "yn gallu teimlo'n ddiogel yn y gweithle" ac yn hyderus bod rheolwyr yn delio â chwynion yn "deg ac yn bendant".
Colli anrhydeddau
Yn y cyfamser, mae Edwards wedi ymddiswyddo o'i ddwy rôl er anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Fe wnaeth y brifysgol gadarnhau ddydd Iau nad oedd Edwards bellach yn athro er anrhydedd na'n gymrawd er anrhydedd.
Dywedodd Prifysgol Abertawe a'r Coleg Cerdd a Drama'u bod wedi diddymu ei gymrodoriaethau er anrhydedd.
Fe wnaeth Prifysgol Bangor a Chymdeithas Ddysgedig Cymru ddweud eu bod yn adolygu eu hanrhydeddau nhw i'r cyn-gyflwynydd.