Cyn-gadeirydd BBC yn gwybod amgylchiadau arestio Edwards cyn ei ganmol

Elan Closs Stephens
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyfeiriodd Y Fonesig Elan Closs Stephens at Huw Edwards fel "Huw druan" ar raglen Beti a'i Phobol

  • Cyhoeddwyd

Roedd cyn-gadeirydd y BBC wedi cael ei briffio ar amgylchiadau arestio Huw Edwards cyn canmol y cyflwynydd yn gyhoeddus ar Radio Cymru.

Y Fonesig Elan Closs Stephens oedd cadeirydd dros dro'r gorfforaeth pan arestiwyd y cyflwynydd ym mis Tachwedd y llynedd.

Dydd Gwener diwethaf, fe gadarnhaodd ei bod yn ymwybodol i Edwards gael ei arestio pan gyfeiriodd ato fel "Huw druan" ar raglen Beti a'i Phobol recordiwyd ar 2 Gorffennaf eleni.

Dywedodd hefyd nad oedd hi'n ymwybodol o'r "manylion ofnadwy" a ddaeth i'r amlwg yn y llys a'i bod wedi ei "harswydo gan yr holl beth".

Roedd hi wedi gwrthod ateb a oedd hi'n ymwybodol o natur ymchwiliad yr heddlu.

Ond mewn datganiad byr i raglen Newyddion S4C, mae'r BBC wedi cadarnhau: "Cafodd y cadeirydd dros dro ei briffio ar arestio Mr Edwards gyda'r wybodaeth a roddwyd i'r BBC gan yr heddlu."

Disgrifiad o’r llun,

Plediodd Edwards yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant

Mewn cyfweliad yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd Tim Davie bod y gorfforaeth yn gwybod i'r cyflwynydd gael ei arestio dros y categori mwyaf difrifol o ddelweddau anweddus o blant.

Dywedodd: "Roedden ni'n gwybod bod e'n ddifrifol, doedden ni ddim yn gwybod unrhyw fanylion penodol, heblaw am gategori'r troseddau posibl."

Dywedodd nad oedd rheolwyr yn gwybod beth oedd oedran y plant yn y delweddau.

Fe amddiffynnodd y modd mae'r BBC wedi delio â'r mater, gan ddweud i'r heddlu ofyn iddyn nhw gadw'r manylion yn gyfrinachol a phwysleisio nad oedd Edwards wedi ei gyhuddo'n ffurfiol cyn ymddiswyddo o'i rôl gyda'r BBC.

Yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher diwethaf, plediodd Edwards yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.

Cyfaddefodd bod ganddo 41 delwedd anghyfreithlon ar ei ffôn symudol, gyda saith o'r rheiny yn y categori mwyaf difrifol, a dwy o'r rheiny o blentyn rhwng rhyw saith a naw oed.

Ffynhonnell y llun, EPA-EFE/REX/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Huw Edwards yn cyrraedd Llys Ynadon Westminster ar 31 Gorffennaf

Does dim awgrym bod Elan Closs Stephens yn ymwybodol i Edwards gael ei gyhuddo'n ffurfiol gan yr heddlu pan oedd hi'n siarad ar Beti a'i Phobol.

Ar y rhaglen honno, fe gyfeiriodd at y cyflwynydd fel "Huw druan" wrth sôn am honiadau ym mhapur newydd The Sun ynglŷn â'i fywyd personol.

Roedd yr honiadau yna ar wahân i'r achos troseddol diweddar ac ni arweiniodd y rheiny at erlyniad.

Aeth ati wedyn i ganmol "cyfraniad enfawr" y cyflwynydd.

Mewn ymateb i gais am ymateb i ddatganiad y BBC, dywedodd Elan Closs Stephens: "Fel y dywedais, roedd y manylion a ddaeth allan yn y llys yn frawychus ac yn sioc enfawr i mi fel i weddill pobl Cymru."