Dedfrydu dyn am yrru'n beryglus ar ôl taro maes pebyll yn Sir Benfro

Cafodd pedwar o bobl eu hanafu pan darodd car Jack Hale faes gwersylla yn Niwgwl ym mis Awst 2023
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed wedi cael dedfryd o 20 mis wedi ei gohirio am 18 mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc am achosi anaf drwy yrru'n beryglus ar ôl i'w gar daro maes gwersylla yn Sir Benfro yn 2023.
Roedd Jack Hale o Hwlffordd yn gyrru ar hyd yr A487 ddechrau Awst 2023 tuag at Niwgwl, pan wyrodd ei gar oddi ar y ffordd a tharo pobl a phebyll ar safle Newgale Campsite.
Cafodd pedwar o bobl eu hanafu'n ddifrifol ond fe lwyddodd plentyn dwyflwydd oed a babi oedd mewn dau o'r pebyll gafodd eu taro osgoi anafiadau.
Wrth ddedfrydu Hale yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, dywedodd y barnwr Huw Rees fod gyrru Hale wedi bod yn "anaddas a di-hid", a'i fod ond wedi cael ei drwydded yrru "tua tair wythnos yng nghynt".
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
- Cyhoeddwyd14 Awst 2023
- Cyhoeddwyd13 Awst 2023
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Hale, oedd yn 17 oed ar y pryd, yn gyrru car Ford Fiesta nos Sadwrn, 12 Awst 2023 pan wyrodd oddi ar yr A487 yn Niwgwl.
Roedd pum teithiwr yn y car - tri yn y sedd gefn, dau yn sedd y teithiwr blaen (un yng nghôl y llall), ynghyd â'r gyrrwr, Mr Hale.
Clywodd y llys fod y gwrthdrawiad wedi digwydd am 22:48.
Cafodd deunydd camera cylch cyfyng (CCTV) o gar Hale y noson honno ei ddangos yn y llys.
Roedd yn dangos y car yn teithio ar gyflymder o gyfeiriad Hwlffordd tuag at Niwgwl.
Mae'r terfyn cyflymder ar y rhan hon o'r ffordd o gyfeiriad Hwlffordd yn newid o 60mya i 30mya y tu allan i fynedfa'r maes gwersylla.
Yn dilyn adroddiad dadansoddi o'r deunydd CCTV, fe glywodd y llys fod y car yn teithio tua 66mya mewn ardal 60mya y noson honno.
Wrth i gar Hale gyrraedd y terfyn cyflymder o 30mya ar y tro y tu allan i'r maes gwersylla, roedd y dadansoddiad o'r deunydd CCTV yn dangos fod car Hale yn teithio ar gyflymder o oddeutu 55mya.
Cafodd pedwar o bobl anafiadau difrifol - roedd tri ohonynt yn sownd o dan y car.
Bwrw cyrb a throi ar ei ochr
Roedd un o'r teithwyr yng nghar Mr Hale, Oliver Copeland, ymysg y pedwar a gafodd eu hanafu'n ddifrifol.
Clywodd y llys fod car Hale wedi bwrw cyrb, troi ar ei ochr gan lanio ar babell, cyn teithio dros nifer o bebyll eraill.
Roedd plentyn dwyflwydd oed a babi mewn dau o'r pebyll ond ni chafon nhw eu hanafu.

Cafodd deunydd CCTV o gar Hale y noson honno ei ddangos yn y llys
Fe glywodd y llys effaith y digwyddiad ar y dioddefwyr mewn crynhoad gan fargyfreithiwr yr Erlynydd Georgia Donahue.
Dywedodd fod pob un ohonynt wedi dioddef anafiadau "amrywiol, difrifol, ynghyd â seicolegol".
Roedd Emma Lewis yn un o'r rhai oedd yn sownd o dan y car ac fe glywodd y llys fod ei phlentyn yn y babell gyda hi.
Dywedodd ei bod yn credu ei fod yn mynd i farw.
Bu'n rhaid iddi gael grafft croen yn dilyn y digwyddiad oherwydd llosg trydydd gradd.
Mae'n dal i gysgu ar fatras ar lawr ystafell wely ei mab, clywodd y llys, gan ei bod ofn ei adael.
'Dal i ddioddef poen'
Fe glywodd y llys hefyd fod y digwyddiad wedi effeithio "ar bob agwedd o fywyd" Mr Paul Warburton, a bod yn rhaid iddo gael triniaeth ar ei glun.
Gan ei fod yn hunangyflogedig nid oedd yn gallu dychwelyd i'r gwaith ar ôl y gwrthdrawiad a achosodd "straen ariannol mawr" ar ei deulu.
Clywodd y llys fod Mr Daniel Staniforth yn "dal i ddioddef poen" a "dal heb ddychwelyd i'r gwaith".
Mae'n gweld hi'n anodd gyrru a "chwblhau tasgau bob dydd" ac yn parhau i weld seicolegydd oherwydd anhwylder straen ôl-drawmatig.
Dywedodd y bargyfreithiwr Dyfed Thomas oedd yn amddiffyn Hale ei fod yn "ddyn 17 oed oedd newydd basio ei braf yrru" ac nad oedd ganddo hanes o droseddu yn y gorffennol.
Dywedodd ei fod wedi "llwyr dderbyn" ei weithredoedd y noson honno.
'Atgoffa pawb o ganlyniadau gyrru'n beryglus'
Bron i ddwy flynedd ers y digwyddiad, fe blediodd Hale yn euog i gyhuddiad o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus yn Llys Ynadon Hwlffordd fis Mehefin eleni.
Wrth ddedfrydu Hale yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, dywedodd y barnwr Huw Rees ei fod yn "gyrru'n rhy gyflym - bron i ddwbl terfyn cyflymder y ffordd".
Cyfeiriodd at y ffaith fod Hale o'r ardal ac felly'n adnabod natur y ffordd yn dda, yn enwedig y ffaith fod cerrig weithiau ar y ffordd.
Roedd rhaid iddo ystyried ffactorau serch hynny, fel y ffaith fod oedi wedi bod gyda'r achos oedd ddim yn fai ar Hale, ei oed ar y pryd, ynghyd â dim hanes o drosedd yn y gorffennol.
Cafodd Hale ddedfryd o 20 mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc wedi ei gohirio am 18 mis.
Cafodd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd a bydd yn rhaid iddo drio prawf gyrru estynedig, ynghyd â chyflawni 250 awr o waith di-dal.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed Powys: "Roedd hwn yn ddigwyddiad trawmatig iawn i'r holl ddioddefwyr ac mae'n parhau i gael effaith ddofn arnyn nhw.
"Ein gobaith yw fod y ddedfryd heddiw yn darparu elfen o gloi i'r rhai â effeithwyd ac yn atgoffa pawb o ganlyniadau gyrru'n beryglus."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.