Eluned Morgan yn gwrthod gwahoddiad i wledd gyda Trump

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod Eluned Morgan eisiau cefnogi ei chydweithwyr ar "gyfnod anodd iawn"
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi gwrthod gwahoddiad y Brenin i wledd gyda Donald Trump yng Nghastell Windsor.
Fe wnaeth Arlywydd yr Unol Daleithiau gyrraedd Llundain nos Fawrth gyda'i wraig, Melania, ar gyfer ei ail ymweliad gwladol.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod Ms Morgan eisiau cefnogi ei chydweithwyr ar "gyfnod anodd iawn" yn dilyn marwolaeth Hefin David yn ddiweddar.
Ond mae rhai aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu ei phenderfyniad, gan ddweud bod ei habsenoldeb yn dangos aflonyddwch gwleidyddol o fewn ei phlaid a "gwendid" am beidio â chynrychioli'r genedl mewn digwyddiad mawr swyddogol.
- Cyhoeddwyd19 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn awgrymu mai'r Unol Daleithiau yw partner masnach mwyaf gwerthfawr Cymru o ran gwlad unigol - er bod yr Undeb Ewropeaidd yn ei chyfanrwydd yn fwy.
Ym mis Mai, rhybuddiodd Ms Morgan y gallai Cymru gael ei tharo'n galetach na Lloegr gan dariffau'r Unol Daleithiau, o ystyried ei bod yn dibynnu'n fwy ar allforio nwyddau.
Mae trafodaethau ynghylch dileu tariffau ar ddur y DU wedi'u gohirio, gyda swyddogion yr UDA yn codi pryderon ynghylch symudiad Tata o ffwrneisi chwyth i ffwrneisi arc trydan newydd.
Fe wnaeth Ms Morgan longyfarch yr Arlywydd Trump ar ei ail-etholiad y llynedd, gan alw'r berthynas rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru yn "werthfawr iawn" - er iddi ei alw'n "wallgof" mewn cyfweliad â BBC Cymru yn 2017.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod Ms Morgan wedi ysgrifennu at y Brenin i "ddiolch iddo am ei wahoddiad caredig" ond ei bod yn teimlo bod "ei lle hi yma gyda chydweithwyr wrth iddi barhau i'w cefnogi yn ystod yr amser anodd hwn".

Fe wnaeth Donald Trump gyrraedd Llundain nos Fawrth gyda'i wraig, Melania, ar gyfer ei ail ymweliad gwladol
Nid Ms Morgan yw'r unig arweinydd plaid i wrthod gwahoddiad i'r wledd.
Ym mis Awst dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Ed Davey ei fod yn boicotio'r digwyddiad i anfon neges at yr Arlywydd Trump ynglŷn â'r argyfwng dyngarol yn Gaza.
Ond dywedodd Prif Weinidog yr Alban, John Swinney, y byddai'n mynychu'r digwyddiad yn Windsor.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ac arweinydd y blaid yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi beirniadu penderfyniad Keir Starmer i groesawu Trump gydag anrhydeddau llawn y wladwriaeth, gan rybuddio bod "ei bresenoldeb yn peryglu hybu eithafiaeth gartref a thramor".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.