Cymorth i farw: 'Angen ystyried anghenion siaradwyr Cymraeg'

Ymgyrchwyr yn San Steffan yn dathlu ar ôl i Aelodau Seneddol bleidleisio o blaid y mesur ym mis Tachwedd
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o feddygon wedi galw ar Aelodau Seneddol Cymreig i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried mewn mesur dadleuol allai roi'r hawl i bobl sydd â salwch angheuol i gael cymorth i farw.
Ym mis Hydref y llynedd, fe bleidleisiodd Aelodau Seneddol o blaid mesur oedd yn cynnig rhoi'r hawl i bobl sydd â salwch angheuol i ddewis dod â'u bywyd i ben.
Nid yw'r bleidlais yn golygu bod y mesur wedi dod yn gyfraith, ond mae'n caniatáu iddo barhau ar gyfer craffu seneddol pellach.
Mae llythyr, sydd wedi'i arwyddo gan dros 90 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, wedi'i anfon at ASau Cymreig yn gofyn iddyn nhw ystyried "anghenion penodol siaradwyr Cymraeg" wrth drafod y mesur.
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
Mae'r llythyr yn nodi y "dylai fod yn ofynnol i'r meddyg gyd-drefnu â'r meddyg annibynnol i holi am ddewisiadau iaith y person".
"Yn aml nid yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Saesneg yn ymwybodol o'r heriau y mae siaradwyr Cymraeg yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ofal iechyd yn Saesneg."
Mae'r llythyr hefyd yn nodi: "Mae profiad cyson yn dangos nad yw'n bosibl i asesu gallu siaradwyr Cymraeg i wneud penderfyniadau yn eu hail iaith heb amheuaeth, h.y. yn Saesneg.
"Mae sgyrsiau arwynebol yn Saesneg yn aml yn methu dangos bod siaradwyr Cymraeg â phroblemau iechyd sylweddol, wedi'i ddrysu neu nad oes ganddynt ddealltwriaeth dda o'u cyflwr iechyd a'r opsiynau triniaeth sydd ar gael."
Mae'r llythyr hefyd yn nodi "nad yw'n bosib" asesu os yw person yn cael ei orfodi i wneud y penderfyniad "os bydd y meddygon yn cael y sgyrsiau angenrheidiol yn Saesneg gyda siaradwr Cymraeg".
Bu Sian Wright yn siarad gyda BBC Cymru ym mis Hydref, ar ôl i'w mam deithio i'r Swistir er mwyn dod â'i bywyd i ben
Ym mis Tachwedd, pleidleisiodd Aelodau Seneddol o blaid caniatáu i oedolion sy'n derfynol wael gael cymorth i ddod â'u bywydau eu hunain i ben.
Fe bleidleisiodd 330 o ASau o blaid gyda 275 yn erbyn, yn dilyn dadl a barodd tua phump awr yn San Steffan.
Mae'n fesur dadleuol, gyda nifer yn cymharu arwyddocâd y bleidlais â digwyddiadau fel cyfreithloni erthyliad neu ddileu'r gosb eithaf.
Mae Cymru Fyw hefyd wedi clywed gan bobl sy'n credu y dylai pobl fod â'r hawl i gael cymorth i farw yng Nghymru.
Ddiwedd Hydref, pleidleisiodd Aelodau o Senedd Cymru yn erbyn cynnig symbolaidd i gefnogi cyfraith newydd a fyddai'n caniatáu'r hawl i ddewis cael marw.
'Anodd iawn asesu yn eu hail iaith'
Un sydd wedi arwyddo'r llythyr ydy Dr Gwen Davies, sy'n ymgynghorydd gofal lliniarol yn ardal Abertawe.
Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd: "Does 'na ddim byd yn y bil ar y foment i wneud hi'n ofynnol bod yr iaith Gymraeg yn rhan o'r bil.
"Er hawliau'r iaith yng Nghymru, does dim byd yn y bil sy'n dweud bod o'n ofynnol i bobl sy'n gofyn am gymorth i farw gael asesiad be ydy eu hiaith a gwneud yn siŵr bod yr asesiadau yn cael eu gwneud drwy'r iaith Gymraeg a gwybodaeth drwy'r iaith Gymraeg."
Yn ôl Dr Davies mi "ddyle fe fod yn ofynnol eu bod yn cael y sgwrs yn yr iaith Gymraeg... dim jyst gofyn a wyt ti'n gallu siarad Cymraeg a Saesneg a cwmpo i siarad Saesneg".
Wrth siarad am ei phrofiad hi fel ymgynghorydd gofal lliniarol, dywedodd ei fod "yn anodd iawn asesu nhw [cleifion] yn eu hail iaith, yn enwedig wrth edrych mas am broblemau iechyd ac iechyd meddwl".
"Bydde fe'n anodd iawn i bobl asesu gorfodaeth gan y teulu os yw'r teulu yn siarad Cymraeg i gyd a'r meddyg neu'r panel yma a ddim yn siarad Cymraeg a rhoi mwy o risg i'r bobl yna."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021