ASau yn pleidleisio o blaid rhoi cymorth i farw

Bu pobl o ddwy ochr y bleidlais yn protestio yn San Steffan ddydd GwenerFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Ymgyrchwyr yn San Steffan yn dathlu ar ôl cyhoeddiad y bleidlais brynhawn Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid caniatáu i oedolion sy'n derfynol wael gael cymorth i ddod â'u bywydau eu hunain i ben.

Fe bleidleisiodd 330 o ASau o blaid gyda 275 yn erbyn, yn dilyn dadl a barodd tua phump awr yn San Steffan ddydd Gwener.

Nid yw'r bleidlais yn golygu bod y mesur wedi dod yn gyfraith, ond mae'n caniatáu iddo barhau ar gyfer craffu seneddol pellach.

Cafodd y gwleidyddion bleidlais rydd, sy'n golygu mai nhw oedd yn cael dewis fel unigolyn yn hytrach na chael arweiniad gan eu plaid wleidyddol.

Mae hon wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar, gyda nifer yn cymharu arwyddocâd y bleidlais â digwyddiadau fel cyfreithloni erthyliad neu ddileu’r gosb eithaf.

Claire Yardley Williams
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Claire Yardley Williams o Ddyffryn Nantlle golli ei gŵr, Terry i gyflwr Motor Niwron dair blynedd yn ôl

Un oedd yn cefnogi’r mesur oedd Claire Yardley Williams o Ddyffryn Nantlle a gollodd ei gŵr, Terry Williams, i gyflwr Motor Niwron (MND) yn 46 oed dair blynedd yn ôl.

"O'n i'n ista’ ar y ffens ar y dechrau oherwydd dwi'n gweld y ddwy ochr i'r ddadl, achos ma' bywyd yn beth pwysig iawn a ma’ isio byw bywyd i'r llawn yn hytrach na'i ddifa fo," meddai.

“Ond dwi'n teimlo os ‘di rhywun hefo salwch hirdymor neu yn dioddef a bod y corff yn cau lawr, neu bo' nhw hefo salwch difrifol... bo' ganddyn nhw'r hawl i neud be ma’ nhw isio 'lly.

Cafodd Terry Williams ei daro'n wael yn ystod y pandemig, ac wedi blwyddyn a hanner o salwch, roedd ei gyflwr yn dirywio yn raddol.

"Doedd o methu neud dim byd o'r gwddw i lawr, o'dd ganddo fo splints ar ei ddwylo, splints ar ei goesau, a doedd o methu bwyta," esboniodd Claire.

"Roedden ni'n gorfod rhoi cynllun yn i le i benderfynu lle o'dd o isio marw, os oedd o isio marw adra neu mynd i hosbis... Ac wedyn o'dd o’n gorfod sgwennu ei ddymuniadau lawr a fi'n nodi nhw.

"O'dd o 'di deud os 'sa fo'n mynd yn sâl ac yn gorfod mynd i'r ysbyty, yna 'sa fo ddim isio dod 'nôl yn fyw."

'Rhaid i bobl wrando ar y claf'

Yn ôl Claire, roedd clywed hynny gan ei gwr yn ofnadwy, ond fe ddaeth hi i ddeall ei safbwynt: “Mi oedd hynny’n anodd, achos o'n i’n meddwl 'ma gen ti bob dim i fyw ar ei gyfer o', 'dwi ddim yn cytuno hefo fo'.

“Ond o'dd o'n deud 'dwi methu neud dim byd Claire', dwi'n teimlo fatha cabbage, dwi methu neud dim byd felly gad i fi neud penderfyniadau fel hyn'.

“Wedyn nes i gefnogi o hefo'r llythyr a chefnogi bod o isio mynd i hosbis i farw. Ond marw yn ysbyty nath o yn y diwedd ‘lly yn Glan Clwyd.

“Da chi’n cael yr hawl i benderfynu lle 'da chi’n cael eich claddu a sut, ac i ddeud os 'da chi isio dod 'nôl yn fyw - i gael eich ressusitatio neu ddim.

“So dwin meddwl dyla chi gael yr hawl i neud be ‘da chi isio hefo corff chi'ch hun. Dim o dan orfodaeth na dim pwysau, ond os 'da chi yn eich llawn bwyll ac yn gallu gwneud penderfyniadau felly."

Ychwanegodd Claire ei bod hi'n bwysig trafod y mater gydag annwyliaid: "Dwi 'rioed 'di trafod dim byd fela hefo'n rhieni i na 'mhlant i - sut dwi isio mynd ‘lly - nac wedi neud ewyllys.

“Ond pan oedd Terry'n sâl, odda ni’n gorfod trafod a bod yn agored... Ma’r pwnc yn un anodd a sensitif ofnadwy, ond dwi'n teimlo bo’ rhaid i bobl fod yn agored a gwrando ar be ma’r claf isio.”

Ymgyrchwyr yn erbyn y mesur yn ymateb ddydd GwenerFfynhonnell y llun, PA Media

Roedd nifer o bobl y tu allan i’r Senedd i leisio'u barn ar ddwy ochr y ddadl ddydd Gwener.

Yn eu plith roedd Angela Kilenyi, sy’n wreiddiol o Gaerffili ond sydd bellach yn byw yn Llundain, a ddywedodd ei bod yn cefnogi’r mesur.

"Rwyf yma heddiw oherwydd fy mod yn credu'n angerddol mewn cymorth i farw. Gwelais fy ngŵr yn marw'n ofnadwy ac fe wnaeth hynny fy argyhoeddi hyd yn oed yn fwy pa mor bwysig yw hi i gael dewis ar ddiwedd bywyd," meddai.

Tra dywedodd Seb Roach, o Gaerdydd sy'n byw ar hyn o bryd yn Llundain lle mae'n fyfyriwr, ei fod yn gwrthwynebu.

"Rwy'n meddwl bod y mesur hwn yn eithaf brawychus a dweud y gwir," meddai.

"Rwy'n Gristion fy hun, rwy'n credu bod gan bawb werth waeth beth fo'u hanabledd, oedran neu ddisgwyliad oes."

Disgrifiad,

Ymateb AS Bangor Aberconwy, Claire Hughes i ganlyniad y bleidlais brynhawn Gwener

Wrth ymateb i ganlyniad y bleidlais, dywedodd AS Bangor Aberconwy, Claire Hughes fod y ddadl wedi bod yn un "emosiynol".

"Dwi'n falch o allu symud ymlaen gyda'r sgwrs yma am farwolaeth a be ydi marwolaeth dda," meddai.

"Dwi'n falch y bydd mwy o amser rŵan i scrwteneiddio'r mesur yn y Bill Committee, mae hynny'n bwysig iawn er mwyn edrych ar bethau fel sut y bydd y mesur yn gweithio gyda Chymru... mae'r pethau hynny'n bwysig ond dwi'n teimlo'n dda bod digon o amser i wneud hynny'n iawn.

"Dwi wedi gwrando ar lot fawr o bobl yn yr etholaeth, ac mae gen i brofiad personol efo fy mam. Dwi'n teimlo'n gryf fod rhaid i ni ymgyrchu ar gyfer gofal lliniarol gwell, ond dyw gofal lliniarol ddim yn helpu bob person."

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Gyda'r ASau wedi pleidleisio o blaid y newid, bydd misoedd o graffu a bydd yn rhaid iddo basio sawl cam arall cyn y gall ddod yn gyfraith.

Nid yw’n glir eto a fyddai angen pleidlais gydsynio yn Senedd Cymru ar gyfer y mesur hefyd.

Ym Mae Caerdydd fis diwethaf, pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd yn erbyn cynnig symbolaidd i gefnogi cyfraith newydd a fyddai'n caniatáu'r hawl i ddewis cael marw.

Pynciau cysylltiedig