Gemau Olympaidd: Medal aur i'r rhwyfwr Harry Brightmore

Tîm wythawd dynionFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Y llywiwr Harry Brightmore ar ei draed wrth ddathlu medal aur tîm wythawd dynion Prydain

  • Cyhoeddwyd

Mae'r rhwyfwr Harry Brightmore wedi ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd ym Mharis, fel rhan o dîm wythawd dynion Prydain.

Mae Brightmore wedi cynyrchioli Cymru yn y gorffennol fel llywiwr ac mae ei nain a'i daid o Gymru.

Gyda 500m yn weddill, fe symudon nhw i'r safle cyntaf yn y ras 2000m, gan lwyddo i gadw digon o bellter rhyngddyn nhw a'r Iseldiroedd a ddaeth yn ail.

Fe wnaethon nhw orffen y ras mewn pum munud o 22.8 eiliad, gyda 1.08 eiliad o fantais.

Dyma'r 10fed medal aur i dîm Prydain yn y Gemau eleni.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jeremiah Azu ei ddiarddel o'r ras 100m am ddechrau'n rhy gynnar

Roedd 'na siom i'r gwibiwr 23 oed o Gaerdydd, Jeremiah Azu.

Cafodd ei ddiarddel am ddechrau'n rhy gynnar ond mae'n gobeithio bod yn rhan o ras gyfnewid can metr y dynion yr wythnos nesaf.

Dywedodd: "Fe wnes i ymateb i ryw fath o sŵn.

"Mae'n biti na wnaethon nhw adael i mi redeg."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eve Stewart (yn y canol yn y cefn) yn rhan o'r wythawd rhwyfo i ferched

Roedd 'na fedal efydd i Eve Stewart gyda'r wythawd rhwyfo i ferched.

Romania gipiodd y fedal aur a Canada gipiodd yr arian.

Cafodd Stewart ei geni yn yr Iseldiroedd ac mae ei mam o Gymru.

Ar ôl dechrau rhwyfo i'r Iseldiroedd, fe symudodd Stewart i Brydain a dechrau rhwyfo yma.

Ar ôl dod yn drydydd dywedodd eu bod nhw'n hapus gyda'r ffordd y gwnaethon nhw berfformio.

Dywedodd: "Rydw i wrth fy modd. Does gen i ddim geiriau ar hyn o bryd i fod yn onest!"

Pynciau cysylltiedig