Ymateb gwell na'r disgwyl wrth i 14 côr newydd gamu ar lwyfan y Steddfod

Côr Garth Olwg Ffynhonnell y llun, Luned Bedwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae côr cymunedol Garth Olwg wedi ei sefydlu yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd

Eleni mae cystadleuaeth newydd wedi ei sefydlu i "ddenu corau newydd a lleol" i'r Eisteddfod Genedlaethol.

Mae disgwyl i 14 o gorau gystadlu yn y gystadleuaeth benodol hon gyda thros 70 o gorau yn cystadlu yn y brifwyl.

Gyda'r Eisteddfod yn annog corau newydd, mae un côr wedi dod ynghyd gydag ond chwarter yr aelodau yn medru siarad Cymraeg.

Dywedodd Steffan Prys, Rheolwr Cystadlu yr Eisteddfod Genedlaethol, fod yr ymateb "wedi bod yn uwch na’r disgwyl, ac rydyn ni a’r pwyllgor lleol wrth ein boddau".

Dyma'r tro cyntaf i Mari ac Awen o Ysgol Garth Olwg gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae'r ddwy yn cystadlu fel rhan o gôr cymunedol yr ysgol.

Dywedodd Mari: "Fi'n joio bod yn rhan o gymuned yr ysgol" a'i fod yn "deimlad rili neis pan ni'n clywed y côr yn canu gyda'i gilydd, ni'n joio hwnna".

Gobaith y bydd y corau yn parhau wedi’r Ŵyl

Er hyn roedd o'r farn nad oes digon o gyfleoedd i bobl ifanc yr ardal i ganu mewn corau.

"Sain credu bod digon o gyfleoedd yn yr ardal yma, yr unig gorau ni'n aelodau ohonyn nhw yw rhai yn yr ysgol.

"Dyw Only Girls Aloud ddim yn neud lot o ymarferion nawr a ni wedi stopio Bro Taf achos ein hoed."

Mae'n gobeithio felly y bydd y côr yn parhau wedi'r Eisteddfod.

Dywedodd fod "lot o bobl yn y côr sy'n canu am y tro cyntaf. Mae’n neis i weld pobl sydd byth wedi canu mewn côr o'r blaen, yn enwedig rheiny sydd ddim yn siarad Cymraeg".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mari (ar y dde) ac Awen (ar y chwith) yn aelodau o gôr cymunedol Ysgol Garth Olwg

Yn wahanol i Mari, dyw Awen erioed wedi bod i'r Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd fod y ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i'w hardal yn "gyffrous, mae'n neis a dyw e ddim yn mynd i ddigwydd am ages nawr".

Dywedodd ei bod yn "neis i weld yr amrywiaeth o bobl" yn y côr ac i "gwrdd â phobl wahanol o’r gymuned chi heb siarad â nhw o’r blaen".

Fel un sydd erioed wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd fod y gystadleuaeth yn "syniad da achos mae'n annog pobl i ddechrau corau newydd".

Annog siaradwyr newydd i gystadlu

I gôr Lleisiau'r Fro, sy'n cystadlu am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod, dim ond chwarter aelodau'r côr sy'n siarad Cymraeg.

Dywedodd Elyn Hannah, aelod o'r côr mai "dyma'r tro cyntaf i ni ganu yn Gymraeg yn unig" gan ychwanegu ei fod yn "gyfle arbennig i ganu a siarad yn Gymraeg".

Dot Connell yw sylfaenydd ac arweinydd Lleisiau'r Fro. Dywedodd eu bod "wedi cael lot o hwyl yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod."

"Ma' lot o'r cantorion heb fod i'r Eisteddfod o'r blaen, felly mae'n hyfryd i weld nhw'n codi eu hyder,” meddai.

Aeth ymlaen i ddweud fod "lot o ddiddordeb yn yr ardal i ddysgu Cymraeg" ond dywedodd "y broblem yw ymarfer a defnyddio’r Gymraeg, mae’n anodd achos ma' pobl yn meddwl nad ydych chi'n siarad Cymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dot Connell eu bod "wedi cael lot o hwyl yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod"

Er bod Delyth Curry yn un sydd wedi mynychu a chystadlu mewn sawl Eisteddfod, dywedodd ei bod yn "wych" fod "o leiaf tri chwarter y côr yn Gymry di-Gymraeg a "rhai ohonyn nhw yn ddi-Gymraeg yn hollol".

Aeth ymlaen i ddweud fod yr "Eisteddfod yn mynd i fod yn brofiad tra gwahanol i rai" gan ychwanegu eu bod am "gal eu trochi yn y Gymraeg".

I Mitchell Jones, sy'n cystadlu yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf, mae camu ar y llwyfan am fod yn "foment sbesial".

"Mae jyst am fod yn wych sefyll ar y llwyfan gyda phobl sydd eisiau gwybod mwy am y Gymraeg ac eisiau dysgu'r iaith yn yr Eisteddfod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o Gôr Lleisiau'r Fro yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf

Dywedodd Steffan Prys, Rheolwr Cystadlu yr Eisteddfod Genedlaethol, mai "pwyllgor cerdd yr Eisteddfod eleni gyflwynodd y gystadleuaeth hon" gyda'r gobaith y bydd yn parhau yn y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd fod yr ymateb "wedi bod yn uwch na’r disgwyl, ac rydyn ni a’r pwyllgor lleol wrth ein boddau!"

"Ein her nesaf fydd annog y corau newydd sy’n perfformio gyda ni eleni i ddychwelyd atom yn Wrecsam y flwyddyn nesaf, a phan fyddwn ni’n dychwelyd wedyn i’r de yn 2026,” meddai.

Pynciau cysylltiedig