Newidiadau hwyr i ras seiclo oherwydd rheol 20mya
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr ras seiclo'n dweud eu bod wedi gorfod gwneud newidiadau hwyr i'r llwybr eleni oherwydd y terfyn cyflymder 20mya.
Mae Taith Iau Cymru, sy'n dechrau ddydd Gwener ac yn parhau am bedwar diwrnod, fel arfer yn llwybr 237 milltir.
Ond oherwydd newidiadau i'r terfyn cyflymder mewn sawl ardal, mae trefnydd y ras, Richard Hopkins, yn dweud ei fod wedi gorfod addasu tri o’r pum cymal rasio, sy’n golygu bod y llwybr eleni o dan 230 milltir.
Mae'r newidiadau'n golygu na fydd y ras yn gorffen yn Nantgaredig, tref enedigol Emma Finucane, wnaeth ennill tair medal Olympaidd ym Mharis eleni.
Dywedodd Mr Hopkins: "Mae cynllun Llywodraeth Cymru i alluogi rasys seiclo i reoli diogelwch y ras a'r cyhoedd trwy barthau 20mya wedi methu, ac wedi ein gadael ni â phroblem fawr.
“Er mai dim ond saith milltir o 20mya oedd ar draws y ras 237 milltir, pedwar diwrnod, a hyd yn oed wedyn wedi’i rhannu’n nifer o adrannau byr iawn, ni allem warantu rheoli pob un ohonynt yn ddiogel.
“Y broblem yw na fydd y cerbydau cymorth a diogelwch yn gallu aros gyda’r beicwyr, sy’n gallu reidio uwchlaw'r terfyn hwnnw.”
Mae Taith Iau Cymru yn ras flynyddol a ddechreuodd yn 1981, ac sydd wedi gweld beicwyr o bob rhan o'r byd yn cymryd rhan.
Mae Geraint Thomas, y Pencampwr Olympaidd Tom Pidcock, a Josh Tarling o Aberaeron ymhlith yr enwau mawr sydd wedi cwblhau'r ras yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bydd 100 o feicwyr yn dechrau'r ras ym Mrynmawr, Blaenau Gwent ddydd Gwener, gan fynd trwy Bowys ddydd Sadwrn, cyn mynd i Barc Gwledig Pen-bre ddydd Sul.
Daw'r ras i ben gyda'r cymal olaf trwy Sir Fynwy i gopa Mynydd y Tymbl ddydd Llun.
'Colli rhannau eiconig y llwybr'
Dywedodd Mr Hopkins ei fod yn gobeithio y byddai'r ras yn mynd yn ei blaen fel y cynlluniwyd ar ôl i'r newidiadau gael eu gwneud, ond fe gyfaddefodd y gallai rhai o'r beicwyr fod yn siomedig o golli allan ar rai o rannau eiconig y llwybr.
"Yn y broses rydym wedi colli rhan fawr o’r cymeriad a’r her y mae’r digwyddiad yn enwog amdani – gan gynnwys ddiwedd y llwyfan yn Nantgaredig, pentref cartref pencampwr Olympaidd Cymru, Emma Finucane, yn ogystal â dringo’r Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin.
“Mae’n dorcalonnus, ar ôl rhoi cymaint o ymdrech i geisio gwneud y ras yn ei chyfanrwydd yn bosib ac mae hefyd yn fy ngadael yn pendroni beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf, oherwydd bob tro rwy’n meddwl efallai ein bod ni mewn lle da, mae rhywbeth arall yn digwydd i'w guro'n ôl."
Dywedodd Melanie Phillips-Rees, perchennog Gwesty’r Railway yn Nantgaredig, y byddai peidio â gorffen y ras yn y dref yn cael effaith ar fusnes.
“Mae’n siomedig na fydd y ras yn gallu dilyn ei llwybr arferol gan ei fod wastad wedi bod yn atyniad sydd wedi tynnu sylw a chefnogaeth y gymuned leol.
"Mae gennym ni nifer o feicwyr ifanc yn yr ardal ac mae cwblhau'r ras yma yn caniatáu iddyn nhw weld digwyddiad anhygoel, cyfle a fydd yn cael ei golli nawr.
“Fel busnes mae’n amlwg yn cael effaith arnom ni gan ei fod yn gasgliad o bobl sydd am gael eu colli."
'Diogelwch yw'r flaenoriaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Y flaenoriaeth ar gyfer unrhyw ras bob amser yw sicrhau ei bod yn ddiogel i bawb sy'n cymryd rhan ac i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd yn unol â gofynion yr heddlu/Awdurdodau Priffyrdd. Nid yw cyflwyno 20mya yn newid y sefyllfa hon.
"Rydym wedi gweithio gyda threfnwyr y ras i ddatblygu opsiynau amrywiol er mwyn sicrhau y gall y ras fynd yn ei blaen."
Dywedodd Beicio Cymru: "Rydym yn cefnogi gosod y cyflymder rhagosodedig yng Nghymru ar 20mya gan fod hyn bellach wedi'i brofi i wella diogelwch ar y ffyrdd, sy'n hynod bwysig i feicwyr.”
“Fodd bynnag, mae hyn wedi cyflwyno rhai heriau o ran darparu rasys ffordd, gan gynnwys Taith Iau Cymru. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i’w datrys, fel y gallwn barhau i ddatblygu talent yn ogystal â hybu economïau lleol drwy rasio.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst
- Cyhoeddwyd9 Awst
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf