Teulu'n dwyn achos yn erbyn Cyngor Gwynedd dros Neil Foden
- Cyhoeddwyd
Mae teulu sy'n honni fod y cyn-brifathro Neil Foden wedi cam-drin eu plentyn yn emosiynol ac yn gorfforol yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Cyngor Gwynedd.
Cafwyd Foden, 66, ddedfryd o 17 mlynedd o garchar ddechrau Gorffennaf wedi i lys ei gael yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros bedair blynedd.
Roedd y cyhuddiadau'n cynnwys 12 achos o weithred rhyw gyda phlentyn a dau achos o weithred rhyw gyda phlentyn tra mewn safle o gyfrifoldeb.
Mae'r camau sy'n cael eu dwyn yn erbyn Cyngor Gwynedd yn ymwneud â phlentyn nad oedd yn rhan o'r achos llys.
- Cyhoeddwyd17 Mai
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd16 Mai
Fe ymunodd Foden, o Hen Golwyn, ag Ysgol Friars, Bangor, yn 1989 a dod yn bennaeth yno yn 1997.
Roedd hefyd am gyfnod yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.
Clywodd yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug bod pryderon wedi cael eu codi gyda chyfarwyddwr addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson, ynghylch cyfarfodydd Neil Foden gydag un o'i ddioddefwyr, ond doedd dim ymchwiliad ffurfiol o ganlyniad gan y cyngor.
Roedd Foden hefyd wedi ei gael yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol yn 2020 wedi i banel y Cyngor Gweithlu Addysg glywed honiadau yn ei erbyn gan dri aelod staff.
Mae cwmni cyfreithiol sy'n arbenigo mewn ymchwilio i gamdriniaeth plant a hawlio iawndal ar ran dioddefwyr nawr yn apelio i glywed gan unrhyw un a ddioddefodd unrhyw fath o gamdriniaeth gan Foden.
Mae'r achos, medd y gyfreithwraig Katherine Yates, "yn codi llawer o gwestiynau".
"Mae'n ymddangos bod hanes hir o gwynion yn erbyn Foden," dywedodd, "felly pam na chafodd dim ei wneud yn gynt?"
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod troseddau Foden wedi eu "brawychu" a bod eu "meddyliau'n parhau gyda'r dioddefwyr a'u teuluoedd", ond bod dim modd gwneud sylw tra bod adolygiad yn cael ei gynnal i'r achos.
"Yn dilyn yr achos troseddol a'r euogfarn, mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi dechrau'r gwaith o gynnal Adolygiad Ymarfer Plant, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru," meddai.
"Mae'r Adolygiad dan arweiniad cadeirydd annibynnol a dau adolygydd profiadol.
"Bydd yr Adolygiad yn dod â chyrff ynghyd fel Cyngor Gwynedd, ysgolion perthnasol a chyrff eraill i ganfod pa wersi sydd i'w dysgu a pha welliannau sydd angen eu cyflwyno i sicrhau diogelwch a lles plant bregus ac i atal achosion tebyg rhag digwydd eto.
"Hyd nes fydd yr adolygiad annibynnol yma wedi ei gwblhau, ni fyddai'n briodol i Gyngor Gwynedd wneud sylw pellach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf