Ffydd ym mhrosesau diogelu plant Gwynedd wedi'i 'thanseilio'

Neil FodenFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden, cyn-bennaeth ysgol yng Ngwynedd, ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr wedi clywed fod ffydd y cyhoedd ym mhrosesau diogelu plant Gwynedd wedi ei “thanseilio” yn sgil achos prifathro a gafwyd yn euog o gam-drin plant yn rhywiol.

Yn gynharach yn y mis cafodd Neil Foden ei ddedfrydu i 17 mlynedd o garchar.

Yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, fe’i cafwyd yn euog o 19 o gyhuddiadau gan gynnwys cam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Dros y misoedd nesaf bydd Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol yn ystyried rôl yr asiantaethau a pha wersi sydd i’w dysgu.

Ond yn ystod trafodaeth am brosesau diogelu plant, clywodd cynghorwyr sir yng Ngwynedd fod “ffydd y cyhoedd yn y system wedi ei thanseilio”.

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn “cydnabod ac yn llwyr ddeall pryderon rhieni”, ac y byddai’r awdurdod yn “cydweithio’n llawn” gyda’r adolygiad.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr yn ystod achos Neil Foden fod ganddo bryderon mawr am brosesau adran addysg y cyngor

Yn ystod yr achos daeth i’r amlwg fod nifer o bobl wedi codi pryderon ynglŷn ag agosatrwydd Foden ag un plentyn yn 2019.

Cafodd y rhain eu codi ar e-bost gyda phennaeth addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson.

Dywedodd Foden wrth Mr Jackson fod y pryderon yn "or-ddramatig" a ni chynhaliwyd ymchwiliad ffurfiol.

Ond yn ystod yr achos dywedodd y barnwr fod ganddo bryderon mawr am brosesau adran addysg y cyngor.

Dywedodd Mr Jackson, fel Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd, fod diogelu yn “flaenoriaeth allweddol” ac y byddai’n cydweithredu’n llawn â’r adolygiad.

“Yn sgil yr adolygiad hwn byddai’n amhriodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd, heblaw dweud bod gan ysgolion o fewn Cyngor Gwynedd weithdrefnau clir mewn lle i adrodd pryderon diogelu drwy eu swyddog diogelu dynodedig i’r Gwasanaethau Plant.

“Mewn amgylchiadau prin lle codwyd pryderon yn uniongyrchol gyda mi, rhoddais wybod amdanynt i’r swyddog priodol y byddwn yn dilyn ei gyngor fel y gwnes yn yr achos hwn.”

Gyda swyddogion addysg wedi eu gwahodd i drafod trefniadau diogelu gyda’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, dywedodd y deilydd portffolio, Beca Brown, ei fod yn faes sydd “wedi derbyn cryn sylw yn ddiweddar am resymau amlwg”.

Dywedodd Gwern ap Rhisiart, pennaeth addysg y sir, fod diogelu yn “flaenoriaeth” i’r adran.

Ond roedd galwadau ar yr awdurdod i wneud eu prosesau diogelu yn gliriach ac yn fwy amlwg i’r cyhoedd.

Dywedodd Sharon Roberts, cynrychiolydd rhieni a llywodraethwyr Arfon ar y pwyllgor, “Fuasech yn ystyried rhoi infographic interactive at ei gilydd a chyfeirio ato pan mae cyfle, fe fuasai hynny’n amlygu bod 'na broses eitha robust yn ei lle bellach.

“A hefyd derbyn cyn lleied o hyder sydd allan yna ymysg rhieni dwi’n siarad hefo, mae pawb wedi cael sioc am beth sydd wedi digwydd.”

Yn ddiweddarach, ychwanegodd cadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Cai Larsen, fod aelodau wedi cael sicrwydd fod “trefn robust yn ei lle” a bod sylwadau’r swyddogion wedi “ychwanegu at yr hyder”.

Ond aeth ymlaen i ddweud: “Gwnaed sylw fod ffydd y cyhoedd yn y system wedi ei thanseilio yn anffodus, ac mae hynny’n wir dydi? Waeth i ni heb â chelu oddi wrth hynny.

“Mae’n ddigon posib fyddan ni’n edrych ymhellach ar hyn yn y dyfodol agos iawn.”

'Deall pryderon rhieni'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn “cydnabod ac yn llwyr ddeall pryderon rhieni”.

“Fel cyngor, rydym yn pwysleisio fod diogelu plant a phobl ifanc yn brif flaenoriaeth i ni a’n bod yn adolygu ein prosesau a’n protocolau yn barhaus.

“Yn dilyn yr achos troseddol, ble cafwyd Neil Foden yn euog o droseddau dychrynllyd, mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi dechrau ar y gwaith o gynnal Adolygiad Ymarfer Plant, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Caiff yr adolygiad ei arwain gan gadeirydd annibynnol a dau adolygwr profiadol.

“Bydd yr adolygiad yn tynnu sefydliadau megis Cyngor Gwynedd, yr ysgol a chyrff eraill at ei gilydd i adnabod pa wersi sydd i’w dysgu a pha welliannau sydd angen eu cyflwyno i sicrhau diogelwch a llesiant plant bregus ac atal achosion tebyg rhag digwydd eto.

“Rydym wedi datgan yn glir y bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio’n llawn â’r adolygiad ac rydym eisoes wedi cyflwyno nifer sylweddol o ddogfennau a gwybodaeth i’w sylw.

“Byddwn yn parhau i droi pob carreg i sicrhau fod y bwrdd yn cael darlun llawn o weithredoedd a threfniadau ein gwasanaethau a byddwn yn ymateb yn syth i unrhyw argymhellion neu wersi sy’n cael eu hamlygu.”

Pynciau cysylltiedig