Rhoi gwersi cynhyrchu bwyd ar ôl rhybudd bod plant 'ddim yn dallt'

Erin McNaught
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwlch rhwng plant a'r ffermydd sy'n cynhyrchu eu bwyd yn lledaenu, meddai Erin McNaught

  • Cyhoeddwyd

Mae miloedd o blant ysgol wedi cael gwersi i ddysgu am ffermio ac amaeth wrth i undeb ddweud ei bod hi'n "gwbl hanfodol" bod disgyblion yn gwybod o ble mae eu bwyd yn dod.

Roedd dros 20,000 o blant oed cynradd wedi cofrestru ar gyfer y gwersi dwyieithog gan NFU Cymru, er mwyn ehangu eu gwybodaeth o'r diwydiant.

Yn ôl yr undeb, mae cyfran o blant Cymru sydd "ddim yn cael y cyfle i fynd ar ffermydd" a gweld sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, ond mae gobaith y gallai ddenu rhai i yrfa yn y maes yn y dyfodol.

Daw wrth i wleidyddion yn San Steffan glywed tystiolaeth gan ffermwyr ddydd Mercher ynghylch yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu amaeth yng Nghymru yn y dyfodol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cwricwlwm yn cynnwys gwybodaeth am "bwysigrwydd amaethyddiaeth yng Nghymru", a'u bod yn bwriadu "cyflwyno cymwysterau Sgiliau Bywyd a Gwaith sy'n cynnwys unedau ar gynaliadwyedd a'r amgylchedd".

Targedu 20,000 o blant Cymru

Un oedd yn rhan o'r cynllun oedd Erin McNaught, sy'n ffermio ger Y Bala, a roddodd gipolwg ar y diwydiant a chyfle i blant holi cwestiynau.

"Bob blwyddyn 'da ni'n gobeithio targedu o leia' 20,000 o blant yng Nghymru," meddai.

"Mae'n hollbwysig bod disgyblion yn cael y cyfle i ddysgu am gynhyrchiant bwyd a materion gwledig, a hefyd sut i baratoi bwyd hefyd.

"'Da ni'n gweld bod y gap yn lledaenu o hyd, dydy plant ddim yn dallt be' sy'n digwydd ar fferm, ac mae'n dda rhoi'r cyfle i blant allu dysgu am hyn."

Ychwanegodd bod y sesiynau'n "interactive iawn a maen nhw'n mwynhau yn fawr achos maen nhw'n cael gweld be' sy'n digwydd ar y fferm".

Ffermwr yn godro gwarthegFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae NFU Cymru wedi dweud ei bod yn "gwbl hanfodol" bod yr undeb yn ymgysylltu gyda phlant, gan mai nhw yw'r "genhedlaeth nesaf o brynwyr".

Dywedodd Cadeirydd NFU Cymru, Aled Jones: "Yn anffodus mae 'na rai plant dyddie yma ddim yn cael y cyfle i fynd ar ffermydd, a dwi'n edrych ymlaen mewn gwirionedd - mae buddsoddiad yr NFU mewn tîm bach yn gweithio, er mwyn mynd a'r negeseuon 'ma at y plant, fel bod nhw'n cael gweld o lle mae'r bwyd wedi dod, sut mae o'n cael ei gynhyrchu.

"A hefyd yn y tymor hir, ella bod 'na yrfa iddyn nhw ddod i mewn i'r diwydiant yma."

Yn San Steffan ddydd Mercher, fe fydd ASau Cymreig yn clywed gan grwpiau amaeth, yn cynnwys mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, wrth geisio deall sefyllfa'r diwydiant.

Yn ogystal ag ymchwilio i sefyllfa allforion ers i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, fe fydd ASau hefyd yn holi am effaith cytundebau masnach diweddar, ac effeithiau posib newidiadau i dreth etifeddiant.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod plant yn "dysgu am bwysigrwydd amaethyddiaeth yng Nghymru" trwy ddysgu am "gynaliadwyedd, bwyd a maeth, ac amrywiol lwybrau gyrfa fel rhan o'r cwricwlwm".

"Gall ysgolion ddod o hyd i adnoddau am amaethyddiaeth ar Hwb, fel y rhai a ddarparwyd gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a Cyswllt Ffermio.

"Rydym ni hefyd yn bwriadu cyflwyno cymwysterau Sgiliau Bywyd a Gwaith sy'n cynnwys unedau ar gynaliadwyedd a'r amgylchedd."

Pynciau cysylltiedig