Dim manylion am gau Porthladd Caergybi yn sgil hawliad yswiriant
- Cyhoeddwyd
Mae'r cwmni sy'n berchen ar borthladd Caergybi yn dweud na all roi unrhyw fanylion am y digwyddiadau a orfododd iddyn nhw gau'r porthladd am fwy na mis oherwydd hawliad yswiriant.
Cafodd y porthladd ei gau yn gyfan gwbl ar ôl i ddau angorfa gael eu difrodi ddechrau Rhagfyr yn ystod Storm Darragh.
Dywedodd uwch reolwr Stena Line wrth Aelodau Seneddol yn San Steffan na allai roi unrhyw fanylion heb ragfarnu hawliad yswiriant.
Ymatebodd yr AS Llafur Ruth Jones ei bod yn "rhwystredig iawn" nad oedd modd rhannu unrhyw fanylion.
Incwm wedi 'disgyn oddi ar glogwyn'
Mae ASau ar y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn ymchwilio i effaith economaidd y cau o 7 Rhagfyr y llynedd i 16 Ionawr.
Dywedodd Ian Davies, pennaeth porthladdoedd Stena Line yn y DU wrth ASau: "Ar y 6ed a'r 7fed o Ragfyr roedd dau ddigwyddiad yn yr angorfeydd ym mhorthladd Caergybi yn golygu bod y terfynellau fferi yn anweithredol ac ni wnaeth y terfynfeydd fferi hynny ailagor yn rhannol tan yr 16eg o Ionawr."
Ychwanegodd: "Mae'r digwyddiadau hynny bellach yn destun hawliad yswiriant ac ni allaf roi unrhyw fanylion pellach heb ragfarnu hynny mae gen i ofn."
Dywedodd Ruth Jones, AS Llafur Gorllewin Casnewydd sy'n cadeirio'r pwyllgor: "Mae hynny'n rhwystredig iawn i ni ond yn amlwg rydyn ni'n deall."
Dywedodd Mr Davies y byddai Stena yn cynnal adolygiad i'r hyn ddigwyddodd.
Pan ofynnodd AS Ynys Môn, Llinos Medi, iddo pa gymorth sydd wedi'i gynnig i fusnesau a gollodd incwm tra bod y porthladd ar gau gan Lywodraeth y DU, dywedodd arweinydd y cyngor lleol Gary Pritchard: "Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw gefnogaeth."
Dywedodd fod trafodaethau wedi dechrau gyda chwmnïau lleol i ddarparu "tystiolaeth" o effaith yr aflonyddwch.
Ond ychwanegodd "rwy'n credu bod y busnesau wedi cael eu heffeithio mewn ffordd enfawr" a bod eu hincwm "wedi disgyn oddi ar glogwyn".
"Dim ond am naw neu 10 mis yr oedd rhai busnesau wedi bod mewn busnes, yn edrych ymlaen at y Nadolig fel yr hwb yna i'w blwyddyn gyntaf," meddai.
"Yna caeodd y porthladd yn ystod yr wythnos gyntaf honno ym mis Rhagfyr a disgynnodd eu derbyniadau oddi ar glogwyn."
Dywedodd Dr Edward Jones, uwch ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor, nad oedd ychwaith yn ymwybodol o unrhyw gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i gwmnïau "na pha drafodaethau sy'n mynd ymlaen ynglŷn â hynny".
Galwodd hyn yn "syndod" oherwydd yn Iwerddon "rwy'n gwybod bod trafodaeth rhwng y llywodraeth a'r Irish Road Haulage Association ar ba gefnogaeth ariannol sydd ei angen arnynt nawr oherwydd y costau cynyddol y maen nhw wedi'u hysgwyddo".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2024