Arestio dynes wedi ymosodiad honedig yn ystod gêm bêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ymosod yn dilyn digwyddiad yn ystod gêm bêl-droed dros y penwythnos.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig am tua 16:20 ddydd Sul mewn gêm rhwng clwb pêl-droed Tonyrefail Welfare Ladies a chlwb pêl-droed Merched Goetre.
Cafodd y gêm yn Nhonyrefail ei gohirio wedi'r digwyddiad a chafodd un o chwaraewyr yr ymwelwyr ei chludo i'r ysbyty.
Dywedodd Heddlu'r De fod dynes 25 oed o Donyrefail wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ymosod a'i bod wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Mewn datganiad ar-lein, dywedodd clwb pêl-droed Merched Goetre eu bod wedi eu "ffieiddio" gan y digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024