Ffordd yn y gogledd sydd ar gau ers blynyddoedd i ailagor

Mae'r B5605 yn cysylltu pentrefi Newbridge a Pentre yn Sir Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i ffordd sydd wedi bod ar gau am dros bedair blynedd a hanner, ar ôl disgyn mewn tywydd garw, ailagor ddydd Sadwrn.
Cafodd ffordd y B5605 yn Newbridge, Sir Wrecsam, ei chau ym mis Ionawr 2021 ar ôl Storm Christoph - pan ddisgynnodd rhan o'r ffordd a llithro i lawr llethr.
Mae'n cysylltu pentrefi Newbridge a Pentre, ac yn ehangach mae'n cysylltu'r Waun a Chefn Mawr
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Wrecsam eu bod wedi gweithio'n drylwyr a manwl gyda pheirianwyr o gwmni Jones Bros i drwsio'r llwybr, gan ailagor "cyswllt pwysig rhwng y cymunedau".
- Cyhoeddwyd20 Awst 2021
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd23 Awst 2023
Dywedodd busnesau fod cau'r ffordd wedi gadael effaith, gan eu bod wedi colli masnach oedd yn teithio heibio.
Dywedodd ysgol gynradd Gymraeg Min y Ddôl yng Nghefn Mawr eu bod wedi colli disgyblion oherwydd y dargyfeiriad naw milltir roedd yn rhaid gwneud i'w gyrraedd.
Cafodd y cyngor £2.8m gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2022, i drwsio'r ffordd.
Yn ôl y cyngor, roedd y gwaith adfer yn "fawr a chymhleth".
"Pan fyddwch chi'n gyrru ar hyd y ffordd, mae popeth yn edrych yn debyg iawn i'r hyn oedd yno o'r blaen ac mae'n anodd gweld maint ac ehangder y peiriannu sydd wedi digwydd," medd llefarydd.
"Ond o dan yr wyneb, mae yna lawer iawn o waith wedi digwydd, a pheirianneg gymhleth iawn."

Bydd y gwaith trwsio "rhagorol" yn sicrhau dyfodol hirdymor y ffordd, medd Frank Hemmings
Mae'r cynghorydd lleol, Frank Hemmings, yn croesawu ailagor y ffordd.
"Mae wedi bod yn bedair blynedd rwystredig, sydd wedi effeithio ar drigolion mewn sawl ffordd - o'r rhai sy'n mwynhau'r tawelwch, i'r mwyafrif sydd wedi gorfod gyrru o amgylch yr A483 gydag oedi hir yn aml, ar adegau prysur pob dydd."
Ychwanegodd Mr Hemmings y bydd y gwaith trwsio "rhagorol" yn sicrhau dyfodol hirdymor y ffordd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.