Ed Davey 'ddim yn difaru' galw ar Jane Dodds i ystyried ei rôl

Jane Dodds yw unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd ar hyn o bryd
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud nad yw'n difaru galw ar arweinydd y blaid yng Nghymru i ystyried ei sefyllfa y llynedd.
Dywedodd Syr Ed Davey ym mis Tachwedd y dylai Jane Dodds "fyfyrio" dros y modd y gwnaeth hi ddelio ag achos o gam-drin rhywiol pan oedd hi'n gweithio i Eglwys Loegr.
Daeth y sylwadau hynny wrth iddo gael ei holi am adroddiad o 2021 a nododd fod Ms Dodds wedi gwneud "camgymeriad dybryd" drwy beidio trefnu cyfarfod i drafod achos penodol o gamdriniaeth tra roedd hi'n gweithio i'r Eglwys.
Wrth ymateb i sylwadau Syr Ed ar y pryd, fe wnaeth Ms Dodds ymddiheuro a dweud ei bod hi'n cydnabod bod "diffygion" wedi bod.
- Cyhoeddwyd15 Awst
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
Bron i flwyddyn yn ddiweddarach, dywedodd Syr Ed ei fod e'n falch bod Dodds wedi ymddiheuro, a'i bod yn "ymddangos" taw hi fyddai'n arwain y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig i etholiad nesaf Senedd Cymru.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru fore Mawrth, ar drothwy cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol y penwythnos hwn, dywedodd Ed Davey ei fod wedi siarad gyda Dodds ddiwethaf "yn gynharach eleni".
Pan ofynnwyd iddo oedd e'n falch ei fod wedi galw ar Dodds i ystyried ei sefyllfa y llynedd, dywedodd: "Yn sicr. Mae'n bwysig bod pobl yn cael eu dwyn i gyfrif ble bynnag maen nhw ac mae hi wedi ymddiheuro."
Yna, pan ofynnwyd iddo ai Jane Dodds oedd y person cywir i arwain y blaid yng Nghymru i etholiad nesa'r Senedd, dywedodd: "Mae hi'n mynd i'n harwain ni i etholiad nesa Senedd Cymru, mae'n ymddangos."
Y blaid yn 'hyderus' gyda phleidleisio cyfrannol
Fe enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol un sedd Gymreig yn yr etholiad cyffredinol y llynedd ac yn ôl Syr Ed mae'r "gwynt yn hwyliau'r blaid" wrth edrych ymlaen at etholiad nesa'r Senedd.
Dywedodd fod y blaid yn hyderus o wneud "yn dda iawn" gyda'r drefn bleidleisio gyfrannol fydd yn cael ei defnyddio ym mis Mai.
Ychwanegodd y byddai'r blaid yn canolbwyntio ar faes gofal cymdeithasol.
"Dydy pobl ddim yn cael y gofal maen nhw ei angen ac mae hynny'n achosi i bethau bentyrru yn ein hysbytai," meddai.
Jane Dodds yw unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn Senedd Cymru ar hyn o bryd ac mae'r arolygon barn yn tueddu i awgrymu y bydd yr etholiad nesa'n un anodd i'r blaid.
Ond gydag un sedd ers 2016, mae'r blaid wedi cael cryn ddylanwad gyda'r cyn-arweinydd Kirsty Williams yn derbyn gwahoddiad i ymuno â Llywodraeth Cymru, ac yna Dodds yn dod i gytundeb gyda'r llywodraeth yn gynharach eleni gan alluogi'r llywodraeth i basio'i chyllideb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.