'Gwarth' byddai dod â chwrs ieithoedd modern yn y brifddinas i ben

Dywedodd yr awdures Bethan Gwanas, sy'n gyn-athrawes Ffrangeg, y byddai dod â chwrs ieithoedd modern ym Mhrifysgol Caerdydd i ben yn "chwerthinllyd"
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd fod sefyllfa ieithoedd modern yng Nghymru yn "drychinebus".
Daw wedi'r newyddion y gallai'r cwrs ieithoedd modern ym Mhrifysgol Caerdydd ddod i ben.
Mae'n un o'r adrannau allai gael ei chau wrth i'r brifysgol geisio arbed arian a thorri tua 400 o swyddi.
Mae'r brifysgol yn pwysleisio eu bod nhw'n dal i ymgynghori ar y syniad o gau'r adran, a nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud.
'Trychinebus'
Mae Ceri James yn gyn-gyfarwyddwr CILT Cymru, canolfan oedd yn hybu'r defnydd o ieithoedd tramor yng Nghymru.
Dywedodd: "Fel pwnc, mae'r sefyllfa'n drychinebus nawr, dwi ddim yn gweld sut all pethe fynd lot yn waeth heb ddiflannu'n llwyr.
"Mae'n rhwystredig iawn, dyw hwn ddim yn newyddion newydd, ma' hwn wedi bod yn digwydd ers degawdau.
"Roedd 'na bolisi mewn lle - 'Ieithoedd sy'n cyfri' - alle fod wedi gwella pethe petai Llywodraeth [Cymru] wedi parhau gyda fe."
- Cyhoeddwyd15 Ionawr
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
Roedd yr awdures, Bethan Gwanas, yn athrawes Ffrangeg ar un adeg ac mae hi'n feirniadol iawn o gynllun Prifysgol Caerdydd i gau'r adran Ieithoedd Modern.
"Dwi'n mynd am y gair trasiedi, mae'n torri 'nghalon i," meddai.
"Nes i astudio Ffrangeg flynyddoedd yn ôl yn fy ugeiniau a dyna'r peth gore nes i yn fy myw.
"Nid yn unig ti'n dysgu gymaint yn rhan o'r cwrs, dysgu iaith arall ond mae'n sgil anhygoel a ma' pobl y wlad hon wedi anghofio pa mor bwysig yw dysgu iaith arall, achos mae'n agor gymaint o ddrysau.
"Tasa nhw'n stopio fo yng Nghaerdydd o bob man, mi fasa'n warth ac yn chwerthinllyd yn fy marn i."

Dywedodd Laura Jones sy'n gyfieithydd Ffrangeg a Sbaeneg y byddai cau'r adran yng Nghaerdydd yn "siom enfawr"
Prifysgol Caerdydd yw'r darparwr mwyaf o gyrsiau ieithoedd modern israddedig yng Nghymru.
Mae meddwl y gallai'r adran gau yn poeni myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr fel ei gilydd.
Dywedodd Lucie Williams, myfyriwr Ffrangeg ac Eidaleg sydd yn ei phedwaredd flwyddyn: "Dwi'n meddwl bod cwrs fel hyn yn 'neud i bobl ddeall diwylliannau gwahanol y byd, ieithoedd gwahanol y byd.
"'Da ni angen deall ein gilydd i allu gweithio efo'n gilydd yn fyd eang a mae Cymru - wel Caerdydd - yn dweud wrthan ni bod dwyieithrwydd neu bod un iaith yn ddigon, a dydi o ddim."
Yn ôl Laura Jones sy'n gyfieithydd Ffrangeg a Sbaeneg fu'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r ysgol ieithoedd fodern yng Nghaerdydd yn 'neud lot yng Nghaerdydd, ar wahân i ddysgu ieithoedd i fyfyrwyr.
"Ma' nhw'n cynnig cyrsiau ieithoedd yn y nos i oedolion.
"Ma' nhw'n cynnig saith iaith i gyd, gan gynnwys Portiwgaleg a Siapaneaidd, a petaen nhw'n cau'r adran fydde'r ieithoedd yna'n diflannu o Gymru a byddai'n siom enfawr."
'Cynigion yw'r rhain'
Fe fyddai toriadau posib yn golygu mai Cymru yw'r unig wlad ddatblygiedig heb gwrs ieithoedd modern yn ei phrifddinas.
Wrth ymateb i'r feirniadaeth ynglŷn â'r diffyg cyfleoedd i ddysgu iaith fodern yn yr ysgol gynradd, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dysgu iaith ryngwladol yn yr ysgol gynradd yn orfodol a gall pob dysgwr ddysgu o leiaf un iaith ryngwladol.
"Mae cyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol gynradd yn gam pwysig i ddatblygu dysgwyr iaith y dyfodol.
"Rydym hefyd yn cynnig cymhellion ariannol i ddenu mwy o fyfyrwyr i ddod yn athrawon ieithoedd rhyngwladol ac yn ariannu teithiau cyfnewid rhyngwladol ar gyfer dysgu drwy ein rhaglen Taith."
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Mae'n bwysig i ni bwysleisio mai cynigion yw'r rhain ar hyn o bryd, mae ffordd bell i fynd cyn gwneud penderfyniad terfynol.
"Yn y tymor byr, fydd yr argymhellion ddim yn effeithio ar fyfyrwyr ieithoedd modern a'u gallu i gwblhau eu hastudiaethau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Chwefror
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl