'Crio a chuddio dan y bwrdd cyn mynd i'r ysgol'

DisgyblFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Roedd merch 16 oed o Wynedd yn cuddio dan fwrdd y gegin ac yn cloi ei hun yn ei hystafell wely wrth gael pyliau o orbryder cyn mynd i’r ysgol.

Fe wnaeth Elsi, nid ei henw iawn, ddechrau hunan-niweidio ar ôl i’w gorbryder cymdeithasol dyfu'n broblem gynyddol.

Dywedodd un pennaeth ysgol o Abertawe fod staff yn gyrru i gartrefi disgyblion er mwyn ceisio eu denu’n ôl i’r ysgol.

Dywedodd gweinidog addysg Cymru nad oes ateb syml ond bod mynd i’r ysgol yn “allweddol” ar gyfer iechyd meddwl plant.

Mae ffigyrau’n dangos i 40% o ddisgyblion uwchradd Cymru golli, ar gyfartaledd, gwerth prynhawn o ysgol yr wythnos y llynedd.

Mae nifer yn profi problemau iechyd meddwl sy’n dod dan faner Osgoi Ysgol am Resymau Emosiynol (EBSA).

'Plant yn gweiddi a sgrechian'

Yn ôl mam Elsi, Fflur, oedd hefyd yn awyddus i beidio a datgelu ei henw iawn, roedd ei merch yn cael pyliau gwael o orbryder cyn mynd i’r ysgol.

“‘Sa hi’n cuddio dan byrddau yn y tŷ, o'n ni’n gorfod dragio hi allan, dechra' mynd yn reit violent, crio, crynu drosta’ i,” dywedodd.

“O’dd just mynd i fewn i’r ysgol, clywed y plant yn gweiddi a sgrechian, chwara’, o’dd ei chalon hi’n mynd.

“O’dd hi just yn ca’l y panic attacks ‘ma ac anxiety. O’dd o’n afiach i weld.

“’Na’th Covid hitio. Tri mis off. A’th hi’m yn ôl yna wedyn.”

Fe waethygodd y sefyllfa i’r teulu pan ddechreuodd Elsi hunan-niweidio a dywedodd ei mam iddi gael meddyliau tywyll ynghylch hunanladdiad.

“O’dd ‘na ddau amser lle o’n ni’n goro’ mynd â hi i ‘sbyty,” dywedodd Fflur.

“O’dd hi’m isio fo i ddigwydd. Ond dwi’n meddwl o’dd hi’n teimlo o’dd dim byd arall o’dd hi’n medru ‘neud. Hwnna o’dd last resort hi.”

Fe gafodd Elsi gymorth iechyd meddwl a meddyginiaeth.

Mae'n dal i aros yn y tŷ ond yn gobeithio dechrau ar waith coleg ym mis Medi.

Simon Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Simon Davies, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe, yn dweud bod staff yn gorfod mynd i gartrefi disgyblion

Mae absenoldeb parhaus yng Nghymru nawr yn cael ei ddiffinio fel y rheiny sy’n colli 10% o seisynau ysgol.

Fis Mawrth, rooedd ffigyrau ar gyfer ysgolion uwchradd yn dangos i 40% o ddisgyblion fod yn absennol yn gyson yn 2022-23, o’i gymharu ag 17% yn 2018-19.

Staff yn mynd i gartrefi disgyblion

Er i’r ffigyrau misol diweddar ddangos rhywfaint o gynnydd, mae’r sefyllfa’n ddifrifol yn ôl un pennaeth ysgol yn Abertawe.

“Ni wedi gorfod, fi’n siŵr fel mae nifer o ysgolion eraill, lle mae ein staff ni, arweinwyr dysgu, swyddogion bugeiliol wedi gorfod mynd mas i gartrefi disgyblion er mwyn eu hannog nhw i ddod nôl mewn,” dywedodd Simon Davies, pennaeth Ysgol Gymraeg Bryntawe.

“Yn aml mae’r rhesymau yn cael eu cysylltu gydag anawsterau iechyd meddwl, problemau emosiynol.

“Beth ni wedi gweld yw fwy ohonyn nhw a mae rheina yn bethau cymhleth tu hwnt i’w datrys. Mae e’n bryder felly.”

Mark Bridgens
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Bridgens yn rhybuddio am argyfwng ar y gorwel

Dywedodd y pennaeth cynorthwyol, Mark Bridgens, sy’n gyfrifol am lesiant yn yr ysgol, fod athrawon wedi gorfod dod yn “arbenigwyr iechyd meddwl”.

“Mae’r trend diweddar, mae pethau’n gwaethygu. Mae’r her yn cynyddu. Mae ‘na risg bod creisis ar y gorwel os nad yw pethau’n gwella,” dywedodd.

“Chi mo’yn ‘neud yn siŵr bo’ nhw’n ddiogel. Chi mo’yn gwirio eu lles nhw a sut ma’ nhw.”

Mae arbenigwyr yn rhybuddio am effaith hir-dymor colli cyfnodau hir o ysgol ar ddyfodol plant a phobl ifanc.

“Ma ‘na ystadegau’n dangos fod plant sy’ ‘di profi EBSA yn fwy tebygol o fod yn blant sy’ ddim mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ar ôl gadael yr ysgol,” dywedodd Elenid Glyn, dirprwy brif seicolegydd addysgol Cyngor Gwynedd.

“Mae o’n bellgyrhaeddol, yr effaith ar ein pobl ifanc ni.”

Lynne Neagle
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysgrifennydd addysg cabinet Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle AS, yn dweud bod presenoldeb yn flaenoriaeth iddi

Dywedodd ysgrifennydd cabinet Llywodraeth Cymru dros addysg, Lynne Neagle, ei bod yn cadeirio tasglu i geisio mynd i’r afael â’r broblem.

“Dwi’n bryderus iawn am bresenoldeb. Mae’n anodd dod o hyd i ateb syml yn y maes hwn ond mae cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion yn rhan fawr o’r datrysiad.

“Mae gan bob disgybl yr hawl i gael mynediad at gwnsela o flwyddyn 6 ymlaen yng Nghymru. Rydym yn ariannu hyfforddiant i athrawon a staff ysgolion fel eu bod nhw’n gallu cefnogi disgyblion yn well ac mae gennym wasanaethau iechyd meddwl i blant.”

Fe wnaeth Tom Giffard AS, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, gyhuddo'r llywodraeth Lafur o “beidio a chael cynlluniau i fynd i’r afael ag absenoldebau cynyddol yng Nghymru”.

"Rhaid i argymhellion unrhyw dasglu gael eu gweithredu ar fyrder," meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru, "neu fe fydd Llafur yn parhau i fethu ein plant."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cais i wneud sylw.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.