Ceisio denu rhagor o ymwelwyr i 'em cudd' y gogledd

Crwydo ger Llyn BrenigFfynhonnell y llun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Golygfeydd fel hyn sydd i'w gweld wrth gerdded o amgylch Llyn Brenig

  • Cyhoeddwyd

Mae penaethiaid twristiaeth y gogledd yn gobeithio perswadio ymwelwyr i ymweld ag ardal y maen nhw'n ei disgrifio yn "em cudd".

Un o'r nodau wrth geisio denu twristiaid i ardal Mynydd Hiraethog, yn siroedd Conwy a Dinbych, yw lleihau'r pwysau ar gyrchfannau mwyaf poblogaidd Eryri.

Mae'r ardal yn cwmpasu dros 230 o filltiroedd sgwar - o Fetws-y-Coed hyd at gyffiniau Llangollen - ac yn cynnwys trefi hanesyddol Dinbych, Rhuthun a Chorwen.

Yn ôl Twristiaeth Gogledd Cymru (TGC), sy'n gyfrifol am yr ymgyrch, dydy rhan fwyaf yr ymwelwyr â'r rhanbarth "ddim yn gwybod am yr holl hyfrydwch sydd ar gynnig yn Hiraethog" a'u bod "â chenhaeth i newid hynny".

“Mae wir yn ardal hardd gydag amrywiaeth fawr a gwerthfawr o bethau i'w gweld a'u gwneud," dywedodd Eirlys Jones, cyfarwyddwr masnachol y corff sy'n cynrychioli busnesau twristiaeth a lletygarwch y rhanbarth.

"Ein strap line yw ‘awyr agored, gofod agored, meddwl agored’ fel y lle i ddod i gael profiadau trawsnewidiol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib i fwynhau amryw o weithgareddau dŵr yn ardal Llyn Brenig

'Digon i'w garu am Hiraethog'

Ymhlith y gweithgareddau lleol, meddai TGC, mae canolfannau cŵn sled a go-cart a chyfleoddd i gerdded, seiclo, pysgota neu fwynhau chwaraeon dŵr amrywiol.

Yn ddiweddwr, mae pobl wedi mynd i ardal Llyn Brenig yn y gobaith o gael cip ar bâr o weilch a gyrhaeddodd o'r Alban yn 2011.

Ffynhonnell y llun, Gweilch Llyn Brenig

“Mae wir yn em cudd," medd Eirlys Jones, "ac ein nod yw sicrhau bod ymwelwyr yn darganfod pleserau’r ardal trwy stopio ac aros a gwario’u harian yn lleol, gan helpu i greu cyflogaeth a ffyniant.

“Yn hytrach na chael ymwelwyr sydd ond yn anelu am y cyrchfannau adnabyddus sydd yn aml yn brysur, rydym eisiau lledaenu’r cariad [at y rheiny] ac mae yna ddigon i’w garu am Hiraethog.”

Mae'r ymgyrch yn cael ei hariannu gan nawdd Gronfa Fferm Wyn Clocaenog.

Pynciau cysylltiedig