Llofruddiaeth bwa croes: 'Cwestiynau heb eu hateb'

Dywedodd y newyddiadurwr Siôn Tecwyn bod mwy o gwestiynau yn cael eu codi yn yr achos llofruddiaeth bwa croes
- Cyhoeddwyd
Mae cwestiynau wedi cael eu codi ynghylch pam y cafodd tystiolaeth yn yr achos llofruddiaeth bwa croes ei chadw rhag aelodau o'r rheithgor.
Cafodd Gerald Corrigan, 74, ei saethu wrth drwsio ei ddysgl lloeren y tu allan i'w gartref ar Ynys Môn yn 2019.
Dydi hi ddim yn glir beth oedd y cymhelliad.
Dywedodd y newyddiadurwr Siôn Tecwyn fod tystiolaeth, na chafodd ei chyflwyno i aelodau o'r rheithgor yn yr achos troseddol, yn "codi mwy o gwestiynau" mewn achos sydd eisoes llawn dirgelwch.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod wedi "cydymffurfio â'n rhwymedigaethau datgelu ar bob cam o'r achos".
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwrthod gwneud sylw.
- Cyhoeddwyd11 Mai 2019
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd13 Awst 2020
Bu farw Mr Corrigan dair wythnos ar ôl cael ei saethu gyda bwa croes y tu allan i'w gartref mewn man anghysbell ger Caergybi yn oriau mân y bore, ddydd Gwener y Groglith 2019.
Yn ddiweddarach cafodd Terence Whall ei ddyfarnu'n euog o'i lofruddiaeth a'i garcharu am 31 mlynedd.
Dywedodd Siôn Tecwyn, cyn-newyddiadurwr gyda'r BBC oedd yn gohebu ar yr achos ar y pryd, ei bod hi bellach yn hysbys na chafodd tystiolaeth ei chyflwyno yn ystod yr achos.
Mae'r honiadau wedi'u cynnwys yn ei lyfr newydd, sydd wedi'i ysgrifennu ar y cyd â Meic Parry, cynhyrchydd y podlediad 'Crossbow Killer', sy'n trafod y cwestiynau sydd heb eu hateb yn yr achos.
Dywedodd Mr Tecwyn fod dogfennau'n dangos nad oedd cynrychiolwyr y diffynnydd nag aelodau o'r rheithgor yn cael gweld rhai deunydd yn achos llys Whall, na mewn achos twyll gafodd ei gynnal yn ddiweddarach.
Mae natur y deunydd dan sylw yn parhau i fod yn ddirgelwch.

Dywedodd yr heddlu bod Mr Corrigan yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu
Dywedodd Mr Tecwyn fod yr erlyniad wedi cael gorchymyn imiwnedd er budd y cyhoedd i atal rhywfaint o dystiolaeth rhag cael ei rhoi i amddiffyniad Whall.
Mae canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar orchmynion o'r fath yn dweud y dylen nhw fod yn "brin" ac "o dan amgylchiadau eithriadol", a dim ond pan fo hynny "er budd y cyhoedd", meddai Mr Tecwyn.
"Beth oedd y dystiolaeth yna? Dydyn ni ddim yn gwybod," meddai.
"Mae'n anarferol iawn," meddai, "ond does dim awgrym fod anghyfiawnder wedi bod."
'Cyfrinachau yn codi mwy o gwestiynau'
Dywedodd Mr Tecwyn fod yr achos yn un o'r achosion rhyfeddaf iddo ei weld yn ystod ei yrfa, a'i fod yn credu bod rhywun arall "yn gysylltiedig, wnaeth yn ôl bob tebyg drefnu'r llofruddiaeth".
"Mae popeth yn pwyntio at mai Terry Whall oedd y llofrudd, ond mewn achos sydd yn codi gymaint o gwestiynau, mae'r ffaith bod cyfrinachau yn cael eu cadw yn codi mwy o gwestiynau eto," meddai.
"Pam gafodd Gerald Corrigan ei lofruddio mewn modd mor greulon, pwy oedd y tu ôl i hyn?
"Gallwn ddweud bron yn sicr nad oedd Whall gweithredu ar ei ben ei hun, doedd o ddim hyd yn oed yn nabod Gerald Corrigan."

Roedd Gerald Corrigan yn 74 oed pan gafodd ei saethu gyda bwa croes y tu allan i'w gartref
Dywedodd Mr Tecwyn fod tystiolaeth wedi'i chadw'n ôl mewn achos twyll arall yn ddiweddarach hefyd.
Plediodd Richard Wyn Lewis yn euog i dwyllo Mr Corrigan a'i bartner o fwy na £200,000 dros gyfnod o ddwy flynedd cyn y saethu.
Cafodd Lewis ddedfryd o chwe blynedd o garchar am y twyll. Nid oes tystiolaeth o unrhyw gysylltiad rhwng y twyll a'r llofruddiaeth.
Dywedodd Mr Tecwyn fod dogfennau cyfreithiol maen nhw wedi eu gweld wrth ymchwilio i'r achos yn dangos bod yr erlyniad a'r Llys Apêl wedi atal amddiffyniad Lewis rhag gweld deunydd yr oedden nhw'n honni oedd yn dangos bod Lewis wedi bod yn hysbysydd i'r heddlu (police informant).
Mae honiadau bod Lewis wedi darparu gwybodaeth am droseddwyr oedd yn gysylltiedig â dosbarthu cyffuriau yng Nghymru ac Iwerddon.
Gofynnodd y BBC i Richard Wyn Lewis am sylw i'r honiadau, ond fe wrthododd.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod wedi "cydymffurfio â'n rhwymedigaethau datgelu ar bob cam o'r achos", ac nad oedden nhw yn gallu rhoi unrhyw sylw pellach.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwrthod gwneud sylw am yr honiadau sy'n cael eu gwneud yn y llyfr.
'Rhai pobl dal yn rhy ofnus i siarad'
Wrth siarad gyda'r BBC, dywedodd Mr Tecwyn fod rhai pobl ar yr ynys yn dal yn rhy ofnus i siarad yn dilyn y llofruddiaeth.
Dywedodd fod ffrind i Gerald Corrigan o Ynys Môn wedi gadael y Deyrnas Unedig yn fuan wedi'r llofruddiaeth oherwydd ei fod yn poeni am ei ddiogelwch.
"O'dd o wedi deud wrth ffrindiau bod o hefyd yn poeni am ei ddiogelwch," meddai.
"Roedd hyn yn rhyfeddol a chreulon. Cafodd Gerald Corrigan anafiadau erchyll…a dydan ni dal ddim yn gwybod pam y cafodd o'i ladd - dyna'r dirgelwch mawr.
"Rydan ni'n gobeithio y bydd y llyfr yn helpu, a bydd rhywun yn rhywle yn dod ymlaen efo atebion," meddai.
Ychwanegodd: "Mae 'na un dyn wrth gwrs sy'n gwybod y gwir - Terry Whall ydi hwnnw.
"Fe allai leihau peth o'r poenau i deulu a ffrindiau Gerald Corrigan drwy egluro pam wnaeth o gyflawni lofruddiaeth mor greulon. Ond hyd yn hyn mae o wedi gwrthod gwneud hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2023