Symud ymlaen ar ôl 'anhrefn' dau ddegawd o waith ffordd

Mae'r gwaith ffordd wedi effeithio ar fusnesau lleol, yn ôl Evan Shepherd
- Cyhoeddwyd
Fe ddechreuodd Evan Shepherd ei fusnes tacsis ym Merthyr Tudful yn 2007, bum mlynedd ar ôl i'r gwaith ddechrau ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd.
18 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r darn olaf o'r A465 yn agor yn swyddogol, gan ddod â blynyddoedd o "anhrefn" i ben, yn ôl Mr Shepherd.
Ond dywedodd bod problemau'n dal i fodoli ar ffyrdd eraill, fel yr M4 yng Nghasnewydd.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru mae'r A465 yn cynnig datrysiad a bydd mwy o arian i wella rheilffyrdd yng Nghymru'n tynnu pwysau oddi ar yr M4.
Prosiect 'drud tu hwnt'
Mae cwblhau'r gwaith ffordd yn swyddogol yn rhyddhad i Evan Shepherd.
"Oedd lot o closed roads a diversions a phethau," meddai.
"Roedd last minute road closures ar y penwythnos yn hunllef. Ar y dechrau roedd e'n anodd gweld sut oedd e'n mynd i weithio.
"Mae e'n mynd i wneud pethau'n haws i ni nawr. Mae'r bysiau ar y go trwy'r amser, ni'n defnyddio'r heol pob diwrnod.
"Ni'n barod yn gweld lot o welliant trwy'r dref, does dim gymaint o draffig yn mynd trwy'r dref rhagor."
- Cyhoeddwyd31 Mai
Mae'r ffordd, sydd wedi costio mwy na £2bn, yn cysylltu'r cymoedd â chanolbarth Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyhuddo o orwario ar y prosiect gan wrthbleidiau.
Yn ôl y Prif Weinidog Eluned Morgan mae'r prosiect yn "ddrud tu hwnt" ond dyma'r prosiect fwyaf yng Nghymru ers datganoli.
"Beth sy'n bwysig yw ein bod ni angen cydnabod bod angen help ar ardal fel hyn," meddai.
"Ni wedi adeiladu'r ffordd yma ar ben datblygu'r metro. Mae hwn yn mynd i fod yn drawsnewidiol i'r bobl sy'n byw yn yr ardal yma, mae access gyda nhw i swyddi, mae cyfle gyda nhw i fynd i'r Midlands."
Gobaith y prosiect ydy rhoi hwb economaidd sylweddol i un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Prydain, gan wella'r cysylltiad rhwng Cymru a chanolbarth Lloegr.
Ddydd Iau bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Iaith Gymraeg, Mark Drakeford, yn agor rhan olaf y ffordd o Ddowlais i Hirwaun yn swyddogol.

Bydd teithwyr a phobl leol yn gobeithio fod golygfeydd fel hyn o 2023 ddim yn digwydd am gyfnod hir eto ar yr A465
Yn ôl Mr Shepherd, mae'r gwaith wedi cael effaith ar ei fusnes yn ogystal â busnesau lleol eraill.
"Mae lot o fusnesau ar yr ystâd yma dal yn teimlo'r pinch oherwydd mae'r heol wedi symud a does dim gymaint o passing trade."
Ychwanegodd bod prisiau i'w gwsmeriaid yn uwch oherwydd y milltiroedd ychwanegol.
"Efallai roedd fare yn £6 neu £8 i ddod adref wedyn roedd e'n £12 oherwydd roedd ffyrdd ar gau.
"Ond mae'n neis iawn bod yr heol wedi gorffen ac mae pobl yn cael tacsis chepach!"
Beth am yr M4?
Er mae'r ffordd i'w chroesawu, mae problemau mewn mannau eraill dal yn bodoli, yn ôl gyrwyr tacsi fel Mr Shepherd.
"Mae rili angen edrych ar y Newport relief road. Mae'r stretch rhwng y bont trwy Gasnewydd lan i Gaerdydd yn brysur trwy'r amser. Ar ôl 2 o'r gloch yn y prynhawn ma' fe'n chock-a-block."
Yn ôl Eluned Morgan fydd mwy o arian i reilffyrdd yng Nghymru yn "tynnu pwysau oddi ar yr M4".
"Dwi'n meddwl bod 'na ffyrdd gwahanol o ddatrys pethau ac un o'r ffyrdd ni eisiau edrych arni yw i ddatblygu ein system rheilffyrdd ni," meddai.
Ddydd Mercher fe addawodd y Canghellor Rachel Reeves £445m dros 10 mlynedd i ddatblygu rheilffyrdd yng Nghymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd6 Ionawr