Morgan yn cyhuddo ASau Llafur San Steffan o beidio brwydro dros Gymru

Mae Eluned Morgan ei hun wedi wynebu beirniadaeth gan y gwrthbleidiau am beidio â dadlau digon yn erbyn llywodraeth Lafur Keir Starmer
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi cyhuddo ASau Llafur Cymru yn San Steffan o beidio â brwydro dros Gymru, mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall.
Gwnaeth y sylwadau yn ystod cyfarfod â'r ASau nos Lun.
Mae anesmwythyd cynyddol wedi bod ymhlith Aelodau o'r Senedd Llafur ym Mae Caerdydd ynghylch nifer o benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys toriadau lles a chynnydd mewn trethi.
Mae Eluned Morgan ei hun wedi wynebu beirniadaeth gan y gwrthbleidiau am beidio â dadlau digon yn erbyn llywodraeth Lafur Keir Starmer.
Dywedodd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr y dylai Llafur fynd i'r afael ag anghenion pobl yng Nghymru, yn hytrach na ffraeo ymysg ei gilydd.
'Preifat'
Mae BBC Cymru yn deall bod y cyfarfod ar-lein wedi digwydd nos Lun.
Dywedodd ffynonellau fod y prif weinidog wedi dweud wrth aelodau seneddol Llafur Cymru nad oeddent yn gwneud digon i frwydro dros y wlad.
Ni chafodd y sylwadau dderbyniad da, meddai'r ffynonellau.
Mewn cyfweliad ddydd Iau, dywedodd Eluned Morgan: "Mae gen i gyfarfodydd rheolaidd gydag ASau Cymru. Yn amlwg, rydym yn cydweithio'n agos iawn.
"Byddwn yn parhau i wneud hynny.
"Bydd yr hyn sy'n digwydd yn y cyfarfodydd hynny yn amlwg yn parhau'n breifat, ond mae gennym berthynas dda a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd."
Ychwanegodd: "Mi fydd yna adegau pan fyddwn ni efallai yn gweld pethau mewn golygfa ychydig yn wahanol.
"Dyna beth yw datganoli, mae hwnna'n ok. Mae ishe pob un i ymlacio."

Mae AS Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden, wedi dweud fod llywodraeth Lafur y DU yn "cymryd budddaliadau o bobl sydd mwyaf agored i niwed"
Daw'r ffrae yn rhengoedd Llafur ychydig dros flwyddyn cyn etholiad y Senedd 2026, ac wrth i'r prif weinidog baratoi i roi araith yr wythnos nesaf lle bydd hi'n egluro ei safbwynt ar ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU.
Hyd yn hyn, nid yw wedi beirniadu'r cynlluniau'n agored ond mae hi wedi beirniadu yn gynnil Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens am awgrymu ei bod hi'n cefnogi'r newidiadau.
- Cyhoeddwyd1 Ebrill
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
Er gwaethaf ei galw'n "bartneriaeth mewn grym" ers i Lafur ennill yr Etholiad Cyffredinol y llynedd, nid yw'r berthynas rhwng gwleidyddion Llafur y DU a Llafur Cymru wedi bod yn hawdd bob amser.
Mae diwygiadau lles, y toriadau i daliadau tanwydd gaeaf a chynnydd i gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr – a gyflwynwyd yn San Steffan – wedi achosi pryder ym Mae Caerdydd.
Mae gan Gymru rai o'r cyfraddau uchaf o hawliadau budd-daliadau yn y DU gyfan.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi paratoi asesiad effaith penodol ar Gymru, er i Lywodraeth Cymru ofyn am un.
Mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif y gallai 275,000 o bobl yng Nghymru gael eu heffeithio gan newidiadau i Daliadau Annibyniaeth Personol a 110,000 gan newidiadau i Gredyd Cynhwysol.
Yr unig ASau Llafur Cymru i siarad yn gyhoeddus yn erbyn y cynlluniau lles yw Steve Witherden, sy'n cynrychioli Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, ac AS Wrecsam Andrew Ranger.
Mae sawl aelod Llafur yn Senedd Cymru wedi beirniadu'r cynlluniau a dywedodd y gweinidog Llafur Jane Hutt ei bod wedi cwyno'n gryf ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu peidio â dileu terfyn dau blentyn ar gyfer rhai budd-daliadau.
Mae'r ysgrifennydd cyllid Mark Drakeford hefyd wedi codi pryderon y bydd Cymru £65m yn brin oherwydd y ffordd y mae iawndal yn cael ei gyfrifo ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyrff y sector cyhoeddus.

Er mai yn Lloegr y bydd holl seilwaith HS2, dydy Cymru ddim wedi derbyn ceiniog o arian canlyniadol gan fod y cynllun wedi ei ddynodi'n gynllun ar gyfer Cymru a Lloegr
Mae Eluned Morgan wedi bod yn pwyso – heb lwyddiant eto – ar i Gymru gael mwy o wariant ar seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys cyllid canlyniadol ar gyfer rheilffordd gyflym HS2 sy'n cael ei hadeiladu yn Lloegr.
Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod bod Cymru wedi cael ei thanariannu o ran rheilffyrdd ac yn dweud y byddai'n hoffi gwneud gwelliannau ar hyd prif linell de Cymru ac yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond nid oes dim wedi'i gadarnhau.
Mae Llafur Cymru hefyd eisiau rheolaeth dros Ystâd y Goron, sydd eisoes wedi'i ddatganoli i'r Alban.
Mae gan yr ystâd dir sydd gwerth dros £603m yng Nghymru, gan gynnwys 65% o wely'r môr o amgylch yr arfordir.
Nid oes unrhyw gynlluniau i ddatganoli Ystâd y Goron.

Mae Ystâd y Goron yn berchen ar 65% o wely'r môr o amgylch yr arfordir
Yr wythnos hon mae Eluned Morgan wedi dod dan bwysau gan y gwrthbleidiau ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer y diwydiant dur, gyda chyhuddiadau bod y gwaith dur ym Mhort Talbot wedi cael ei drin yn wahanol i'r un yn Scunthorpe.
Cyhoeddodd Eluned Morgan lythyr at ysgrifennydd busnes Llywodraeth y DU ddydd Mercher lle mae hi'n galw am glustnodi cyfran sylweddol o gronfa ddur Llywodraeth y DU, gwerth £2.5bn, ar gyfer Cymru.
Mae pryderon y gallai'r rhan fwyaf o'r arian gael ei glustnodi ar gyfer Scunthorpe.
Mae Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens wedi siarad yn flaenorol am ailosod y berthynas rhwng y ddwy lywodraeth i "un o ymddiriedaeth, cydweithrediad a pharch at ei gilydd".
Wrth siarad yn nadl Dydd Gŵyl Dewi yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd fod Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo £6bn o fuddsoddiad i Gymru, gan gynnwys £25m fel rhan o gynllun i wneud tomenni glo yn ddiogel.
Credir hefyd fod tensiynau rhwng Llafur yng Nghymru a Llafur yn San Steffan ynghylch ble mae'r prif fygythiad i'r blaid yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
Yn gyffredinol, mae ASau yn San Steffan yn credu mai'r her fwyaf yw Reform, ond maen nhw'n credu bod eu cydweithwyr yn y Senedd yn canolbwyntio gormod ar Blaid Cymru.
Mae polau piniwn diweddar yn awgrymu bod y tair plaid bron yn gyfartal.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "O dan Eluned Morgan, mae Llafur yng Nghymru unwaith eto wedi'i rhwygo gan ffraeo mewnol, yn union fel yr oedd o dan Vaughan Gething.
"Mae pobl ledled Cymru - o weithwyr dur ym Mhort Talbot i'r henoed a'r anabl - yn haeddu arweinwyr sy'n ymladd drostyn nhw, nid yn erbyn ei gilydd."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar: "Mae angen llywodraeth newydd arnom yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar gyflawni dros bobl Cymru, nid un sy'n cael dadleuon mewnol na fydd yn gwneud dim i drwsio ein GIG, gwella safonau ysgolion, a chodi cyflogau."