Cynnydd yswiriant gwladol i gostio £65m i wasanaethau cyhoeddus

Roedd y Canghellor Rachel Reeves wedi addo y byddai llywodraeth Lafur y DU yn talu'r costau ychwanegol i'r sector cyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu colled o hyd at £65m oherwydd y cynnydd i yswiriant gwladol a gyhoeddwyd gan y llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Bydd cynnydd i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar 6 Ebrill ond roedd y Canghellor Rachel Reeves wedi addo y bydden nhw'n talu'r costau ychwanegol i'r sector cyhoeddus.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llafur Cymru, Mark Drakeford wrth y Senedd ei fod yn "anghywir" na fyddan nhw'n cael yr arian yn llawn am y cynnydd.
Gan fod Llywodraeth y DU yn defnyddio fformiwla Barnett, y ffordd arferol o gyfrifo cyllid i Gymru o ganlyniad i wariant ychwanegol yn Lloegr, bydd gwasanaethau cyhoeddus cymaint â £65m yn brin.
Yn ôl yr aelod Llafur dros Flaenau Gwent, Alun Davies, roedd y penderfyniad yn "sgandal go iawn".

Mae penderfyniad llywodraeth Lafur y DU yn "sgandal go iawn" meddai Alun Davies AS
Mae defnyddio fformiwla Barnett yn golygu y byddai cyflogwyr sector cyhoeddus yn Lloegr, fel cynghorau a'r gwasanaeth iechyd, yn cael eu digolledu'n llawn ond na fyddai cyflogwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru a hynny oherwydd bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn llawer mwy nag yn Lloegr.
Dyma enghraifft arall o wahaniaeth barn sylweddol dros bolisi rhwng y ddwy lywodraeth Llafur, ar ôl i'r Prif Weinidog Eluned Morgan feirniadu'r toriadau i'r wladwriaeth les.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyllid, Heledd Fychan: "Mae Lloegr yn cael ad-daliad llawn am y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol, nid yw Cymru.
"Mae hyn yn ddamniol o'r hyn a elwir yn 'bartneriaeth mewn pŵer', gan fod Llafur yng Nghymru yn amlwg heb ddylanwad ar benderfyniadau eu cydweithwyr yn Llundain.
"Mae Plaid Cymru yn mynnu eglurder brys gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa effaith y bydd y penderfyniad trychinebus hwn gan Lafur yn ei chael ar gyrff sy'n darparu gwasanaethau hanfodol yng Nghymru."
'Trysorlys wedi gwneud y dewis anghywir'
Dywedodd Mark Drakeford wrth aelodau o'r Senedd, y dylen nhw fod wedi cael "iawndal am y costau go iawn, nid cyfran Barnett o'r costau yn Lloegr" a'i fod yn credu bod y Canghellor Rachel Reeves yn "anghywir i wneud hynny".
"Roedd gan weinidogion y Trysorlys ddewis i'w wneud, dwi'n credu iddyn nhw wneud y dewis anghywir."
Yn ôl Alun Davies dyw'r fformiwla sy'n seiliedig ar boblogaeth "ddim yn addas i'r pwrpas" ac fe gyhuddodd Lywodraeth y DU o dorri cytundeb.
"Ble mae un llywodraeth yn gwneud penderfyniad sy'n cael effaith ariannol negyddol ar lywodraeth arall yna fe ddylen nhw ddarparu'r costau'n llawn," meddai.
Nid oedd Mr Drakeford yn gallu cadarnhau beth fyddai hyn yn ei olygu i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru, ond dywedodd y byddai'n "edrych i weld a oes unrhyw beth pellach y gallwn ei wneud i helpu'r gwasanaethau cyhoeddus hynny".
Roedd penderfyniad y canghellor yn "ysgytwol" yn ôl aelod Plaid Cymru Adam Price - "mae fformiwla Barnett nid yn unig yn annheg, mae hefyd yn cael ei gamddefnyddio'n anghyson a heb ddigon o dryloywder," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd14 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2024