Cynlluniau i benodi esgob newydd dros dro ym Mangor

- Cyhoeddwyd
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi "cynlluniau diwygiedig" ar gyfer penodi esgob newydd ym Mangor yn dilyn ymddeoliad y cyn-Archesgob Andy John.
Fe wnaeth y Gwir Barchedicaf Andy John ymddeol fel Archesgob Cymru ac Esgob Bangor yn gynharach eleni.
Daeth hynny ar ôl i ddau adroddiad beirniadol amlinellu pryderon am Gadeirlan Bangor.
Yn hytrach na phenodi esgob parhaol newydd, mae'r Eglwys wedi cyhoeddi mai'r cynllun nawr yw i "wahodd esgob profiadol i ddod i Fangor am gyfnod o un i ddwy flynedd".
Maen nhw'n dweud y byddai hynny er mwyn "darparu arweinyddiaeth a sefydlogrwydd ac i weithio gyda'r esgobaeth i gryfhau arweinyddiaeth, cyllid, llywodraethu a rheolaeth".

Cafodd Cherry Vann ei phenodi yn Archesgob Cymru ym mis Gorffennaf
Mewn llythyr at aelodau'r Corff Llywodraethol, dywedodd Archesgob newydd Cymru, y Parchedig Cherry Vann, "ar ôl ystyried yn ofalus yr heriau sy'n wynebu'r esgobaeth... nid oedd y Coleg [Etholiadol] yn teimlo'n abl i fynd ymlaen â chreu rhestr fer o ymgeiswyr" ar gyfer y rôl.
Dywedodd yr Eglwys bod y cynnig yn gwneud rhai newidiadau cyfyngedig i Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, a bydd angen i'r Corff Llywodraethu ei gymeradwyo i ganiatáu'r penodiad dros dro.
Bydd y cynlluniau'n cael eu trafod mewn cyfarfod arbennig o'r Corff Llywodraethol yn Llandudno ar 25 Tachwedd.
Yn ei llythyr, ychwanegodd Archesgob Cymru: "Mae esgobaeth Bangor angen teulu cyfan yr Eglwys yng Nghymru i'w chefnogi wrth iddi lywio cyfnod o newid."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd28 Mehefin
