Tom Lockyer yn barod i chwarae eto ar ôl ataliad ar y galon

Mae Tom Lockyer wedi ennill 16 cap i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Tom Lockyer yn dweud ei fod yn barod i ailddechrau ei yrfa bêl-droed ar ôl dioddef ataliad ar y galon yn 2023.
Nid yw'r amddiffynnwr 30 oed wedi chwarae gêm gystadleuol ers y digwyddiad yn ystod gêm Luton Town yn Bournemouth ar 16 Rhagfyr 2023.
Roedd Lockyer wedi llewygu ar y cae saith mis ynghynt yn ystod rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth i Luton yn erbyn Coventry City yn Wembley.
Mae wedi wyneb oedi pellach i'w adferiad ar ôl iddo orfod cael dwy lawdriniaeth ar ei ffêr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
- Cyhoeddwyd27 Medi 2024
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2024
"Mae wedi bod yn siwrne hir," meddai'r chwaraewr o Gaerdydd wrth bodlediad Feast of Football.
"Ond dwi'n falch iawn o ddweud fy mod wedi cael y golau gwyrdd i chwarae pêl-droed eto, felly mae hynny'n amlwg yn anhygoel - popeth rydw i wedi gweithio amdano ers iddo [yr ataliad ar y galon] ddigwydd.
"Mae popeth yn edrych yn dda felly dwi'n hapus iawn."

Tom Lockyer ar y cae gyda'i deulu ar ôl gêm Luton Town yn 2024
Nid oes gan Lockyer glwb ar ôl i'w gytundeb gyda Luton ddod i ben yr haf diwethaf.
Er hynny, mae Luton wedi gadael iddo ddefnyddio eu cyfleusterau a gweithio gyda'u staff meddygol wrth iddo geisio adennill ei ffitrwydd.
Mae Lockyer wedi chwarae 16 gwaith i Gymru, ac fe ddaeth ei gap diwethaf ym mis Tachwedd 2023 mewn gêm ragbrofol Euro 2024 yn erbyn Twrci.

Pan lewygodd Lockyer ar y cae fis Rhagfyr 2023 - dyna oedd yr eildro i hynny ddigwydd o fewn saith mis.
Mae meddygon wedi gosod teclyn ICD (implantable cardioverter-defibrillator) yn ei frest, sydd i fod i ailddechrau'r galon yn syth os oes digwyddiad tebyg yn y dyfodol.
Mae Lockyer bellach yn annog mwy o bobl i wneud hyfforddiant CPR, gan ddweud nad pawb fydd mewn sefyllfa mor ffodus ag yr oedd ef.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.