Gemau'r Ynysoedd: Yr athletwyr o Fôn fydd yn chwifio'r ddraig goch
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy Gemau'r Ynysoedd mae tîm o 106 o athletwyr ar y ffordd o Ynys Môn i gystadlu ar lefel rhyngwladol.
Ynysoedd Erch - neu Orkney - yn yr Alban yw lleoliad y gemau eleni, wrth ddenu 24 o ynysoedd i gystadlu ar draws 12 o gampau gan gynnwys pêl-droed, athletau, saethyddiaeth a nofio.
Roedd y gemau diwethaf yn Guernsey ddwy flynedd yn ôl yn rai hynod lwyddiannus i'r Cymry gyda chyfanswm o 18 medal.
Ond thra bod Môn wedi cystadlu ymhob un o'r gemau sydd wedi'u cynnal ers y cyntaf yn 1985, mae hefyd yn gofyn am aberth bersonol gan yr athletwyr sydd bron i gyd yn rai amatur ac yn aml yn gorfod talu am gostau teithio a llety eu hunain.

Enillodd Môn 18 o fedalau yng Ngemau'r Ynysoedd yn 2023 - y cyfanwsm uchaf erioed i'r ynys yn hanes y gemau
Bydd timau o Fôn yn cystadlu mewn sawl camp gan gynnwys pêl-droed, nofio a seiclo.
Ddwy flynedd yn ôl fe wnaeth Môn sicrhau 18 medal, gyda 11 o'r rheiny'n dod ar y trac.
Ond yn ôl cyfarwyddwr athletau y tîm, dydi'r disgwyliadau ar gyfer Orkney ddim mor uchel.
Dywedodd Barry Edwards y byddai siroedd eraill yng Nghymru "wrth eu boddau" yn cael cyfle tebyg i athletwyr Môn i gystadlu mewn digwyddiad o'r fath.

Fe fydd Barry Edwards, sy'n cydlynu'r tîm athletau, ymhlith y rhai sy'n gwneud y daith hir i'r Alban fore Gwener
"Bob blwyddyn 'da chi'n gweld fod y safon yn cynyddu", meddai Barry Edwards, sydd hefyd wedi cystadlu ei hun ar sawl achlysur.
"Mae proffil y gemau hefyd yn cynyddu, mae o'n un o'r gemau mwya' pwysig ag enfawr tu ôl i'r Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad, felly mae o'n dipyn o gamp a chyfle i bobl ifanc Môn allu cystadlu ar y lefel yna.
"O ran bysus a llety ac yn y blaen, mae 'na lot o waith yn mynd ymlaen tu ôl y llenni ac mae lot yn dychryn pa mor fawr ydi o.
"Ond mae hefyd yn gyfle i wneud ffrindiau oes ar draws y byd."
Ond gyda'r athletwyr yn wynebu taith hirfaith 16 awr mewn bws ac yna fferi i Orkney, dydi pawb heb deithio a does dim disgwyl gymaint o fedalau eleni.
"Oedd 'na lot o fomentwm yn Guernsey wrth iddyn ni edrych ymlaen at hostio yn 2027, yn anffodus dydi hynny ddim yn digwydd ddim mwy ac mae 'na 'chydig bach o fomentwm wedi'i golli," ychwanegodd Mr Edwards.
"Yn anffodus 'da ni heb tua phedwar neu bump o'n prif athletwyr ond yn gobeithio eu cael nhw nôl i'r gemau ar Ynysoedd Ffaröe yn 2027."

Fe fydd Cian Gordon-Clark a Beca Bown yn cynrychioli Môn yn y gemau eleni
Ond un sydd yn gobeithio am lwyddiant yn Orkney ydi Beca Bown, sy'n 18 oed ac yn byw yn Llannerch-y-medd.
"Ddwy flynedd yn ôl ddois i'n bedwerydd [yn y 1500m], ac oedd o'n sioc fawr gan bo' fi ddim yn disgwyl bod mor agos at y podiwm," meddai.
"'Dw'i 'di parhau i hyfforddi a datblygu, felly 'leni dwi'n gobeithio ella gwthio am y medalau, ond yn bendant am drio dod â'n amser i lawr a chael PB."
Ychwanegodd fod y seremoni agoriadol yn Gurensey wedi bod yn "uchafbwynt".
"Mae'r berthynas rhwng y tîm yn agos iawn, 'da ni hefo pobl 'fengach yn dod i fyny 'leni.
"Gan fod neb arall o Gymru yn cystadlu 'da ni'n mynd yna a chynrychioli'r wlad hefyd dydan?"
'Balch o allu cynrychioli fy ynys'
Ychwanegodd Cian Gordon-Clark, 18, o Benmynydd, ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar at ei ail gemau wrth gystadlu yn y 100m a'r ras gyfnewid.
"Dwi'n teimlo'n rili falch fy mod i'n gallu cynrychioli fy ynys a rŵan dwi'n gwybod pa mor sbesial ydy o," meddai.
"Mae'r ynys yma yn reit bell i ffwrdd a fydd o'n drip bws reit hir!
"Mae Dad yn dod i fyny y tro yma, fydd o yn y stands a bydd Mam a fy chwaer yn gwylio ar-lein."
- Cyhoeddwyd27 Mehefin
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2023
Wedi hen ennill eu plwy ers cael eu cynnal am y tro cyntaf ar Ynys Manaw 40 mlynedd yn ôl, mae'r gemau yn cael eu hadnabod fel 'y gemau cyfeillgar'.
A dyna oedd profiad criw o frodyr a ffrind yn wreiddiol o Ware yn Sir Hertford, oedd â dim cysylltiad blaenorol gyda Môn.
Ond wedi dewis Ynys Môn ar hap, ers 2015 mae Rob, Richard a Pete Miller - yn ogystal â'u ffrind Dave Pearson - wedi teithio i bob un o gemau'r ynysoedd i gefnogi timau Môn.
Mae eu hanturiaethau wedi mynd â nhw i ynysoedd Jersey a Guernsey ond hefyd ymhellach i ffwrdd i Gibraltar ac Ynys Gotland yn Sweden.
Gan eu bod wedi mwynhau eu profiadau gymaint, maen nhw bellach wedi derbyn dyletswyddau swyddogol gyda thîm Ynys Môn allan yn Ynysoedd Erch.

Mae'r brodyr a'u ffrind, Dave, wedi mynychu pob un o'r gemau ers 2015. Yn y llun yma maen nhw'n chwifio lliwiau Sir Fôn yn Gibraltar yn 2019
Dywedodd Pete, sy'n gyfrifol am ddelio gyda'r wasg, iddo ddod ar draws y gemau am y tro cyntaf ar Ynys Wyth yn 2011 gyda'r bwriad o fynychu llawer o'r gemau pêl-droed.
"Cyn gynted â wnes i gyrraedd ro'n i'n meddwl bod hyn yn anhygoel", meddai.
"Drwy'r wythnos roeddwn i'n tecstio fy mrodyr gan ddweud, 'mae'n rhaid i chi ddod y tro nesaf, byddwch chi wrth eich boddau hefo hyn'".
Ar ôl penderfynu eu bod eisiau cefnogi un o'r 24 ynys oedd yn cystadlu, Ynys Môn enillodd y dydd.
"Pan aethon ni i Jersey roedd gennym ni rai caneuon wedi'u paratoi, gan fynd a baneri gyda ni," ychwanegodd.
"Roedden ni'n gwisgo'r un lliwiau â'r tîm pêl-droed, ac roedd yn wythnos anhygoel.
"O'r foment honno ymlaen rydym ni wedi bod yn rhan o deulu Ynys Môn, rydan ni wedi bod i bob un o'r gemau ers hynny, ac mae'n debyg y byddwn ni am byth."

Mae Mia a Nel yn rhan o dîm gymnasteg Môn fydd yn cystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd am y tro cyntaf ers 2017
Mewn campfa brysur yng Nghaergybi mae'r tîm gymnasteg wedi treulio misoedd, os nad blynyddoedd yn paratoi.
Dydi Gymnasteg heb fod yn rhan o'r prif gemau ers 2017, ac felly i'r grŵp yma o ferched ifanc bydd y cyfle i ymuno â gweddill tîm Ynys Môn yn y seremoni agoriadol nos Sadwrn yn brofiad arbennig.
Dywedodd Nel, 17, o Langefni: "Dwi'n teimlo'n hapus rŵan mod i'n gwybod bod bob dim yn barod a bo' gyda ni bob dim 'da ni angen i fynd.
"Mae'r gefnogaeth wedi bod yn amazing.
"Mae gallu representio Ynys Môn a lle dwi'n byw yn rhywbeth wna'i byth gael eto.
"Mae [ein hyfforddwraig} Cathy yna i ni bob tro os 'da ni'n stryglo hefo gwaith ysgol neu exams a ballu... maen nhw mor dda yn helpu i ni balansio gwaith ysgol a gymnasteg."