Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhoeddi eu hymgeisydd ar gyfer is-etholiad Caerffili

- Cyhoeddwyd
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi mai Steve Aicheler fydd ymgeisydd y blaid ar gyfer is-etholiad y Senedd yng Nghaerffili fis nesaf.
Mae Mr Aicheler yn byw yn Machen ers dros 20 mlynedd ac wedi bod yn gweithio fel cynghorydd ar Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomas a Machen ac fe llywodraethwr Ysgol Machen.
Dywedodd y bydd ei ymgyrch yn canolbwyntio ar ofal, argyfwng gofal cymdeithasol a buddsoddi yng ngofal plant.
"Mae ein gwasanaethau lleol yn cael eu rhwygo'n ddarnau, ac mae angen rhywun i sefyll i fyny go iawn dros Gaerffili," meddai.
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd11 Medi
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mr Aicheler yw'r pumed ymgeisydd sydd wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer yr is-etholiad, fydd yn cael ei gynnal ar 23 Hydref, yn dilyn marwolaeth yr aelod Llafur o'r Senedd Hefin David ym mis Awst.
Mae Plaid Cymru wedi dewis cyn-arweinydd cyngor Caerffili, Lindsay Whittle, fel eu hymgeisydd, tra bod y cyhoeddwr a'r dadansoddwr ariannol o Gaerffili, Richard Tunnicliffe, yn sefyll dros Lafur.
Mae Reform UK wedi dewis Llŷr Powell - fu'n gweithio fel arbenigwr cyfathrebu i'r blaid yng Nghymru - fel eu hymgeisydd.
Gareth Potter - fu'n gweithio yn y sectorau manwerthu ac elusennol cyn canolbwyntio ar wleidyddiaeth - yw ymgeisydd y Ceidwadwyr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.