Llŷr Powell yw ymgeisydd Reform yn is-etholiad Caerffili

Llŷr Powell yw'r pedwerydd ymgeisydd sydd wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer yr is-etholiad
- Cyhoeddwyd
Mae Reform UK wedi cyhoeddi mai Llŷr Powell fydd ymgeisydd y blaid ar gyfer is-etholiad y Senedd yng Nghaerffili fis nesaf.
Mae Mr Powell wedi bod yn gweithio fel arbenigwr cyfathrebu i'r blaid yng Nghymru.
Wrth gyhoeddi mai Mr Powell fyddai'r ymgeisydd cyntaf i geisio cael ei ethol i'r Senedd dan faner Reform, fe wnaeth Nigel Farage addo "taflu popeth" at yr ymgyrch.
"'Dyn ni'n bwriadu ennill yr is-etholiad yma," meddai Mr Farage - arweinydd Reform.
Dywedodd Mr Powell y byddai'n "sefyll i fyny" dros gymunedau Caerffili ac yn cynnig "cyfle am newid gwirioneddol, ar ôl dros 26 mlynedd o aros yn llonydd gyda Llafur a Phlaid Cymru".
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Mr Powell yw'r pedwerydd ymgeisydd sydd wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer yr is-etholiad, fydd yn cael ei gynnal ar 23 Hydref, yn dilyn marwolaeth yr aelod Llafur o'r Senedd Hefin David ym mis Awst.
Mae Plaid Cymru wedi dewis cyn-arweinydd cyngor Caerffili, Lindsay Whittle, fel eu hymgeisydd, tra bod y cyhoeddwr a'r dadansoddwr ariannol o Gaerffili, Richard Tunnicliffe, yn sefyll dros Lafur.
Gareth Potter - fu'n gweithio yn y sectorau manwerthu ac elusennol cyn canolbwyntio ar wleidyddiaeth - yw ymgeisydd y Ceidwadwyr.

Roedd Llŷr Powell a Nigel Farage yng Nghaerffili ddydd Gwener
Os yn llwyddiannus, byddai Mr Powell yn ymuno â Laura Anne Jones fel aelod Reform ym Mae Caerdydd.
Fe ymunodd hi â Reform ym mis Gorffennaf, ar ôl gadael y Ceidwadwyr.
Yn ei araith ddydd Gwener, dywedodd Mr Farage ei fod wedi bod yn ymwybodol o Mr Powell ers blynyddoedd lawer a'i fod yn "ddyn da, gweithgar, ffyddlon, a chadarn".
Wrth edrych ymlaen at etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, ac arolygon barn yn awgrymu bod gan Reform gyfle i fod y blaid fwyaf, dywedodd Mr Farage: "Mae gennym ni bob cyfle fis Mai nesaf i wneud rhywbeth eithaf syfrdanol yng Nghymru.
"Mi fyddwch chi'n gweld llawer iawn ohona i rhwng nawr a mis Mai nesaf."

Mae Farage wedi ymbellhau ei hun oddi wrth sylwadau gan Laura Anne Jones, yn dweud nad oedd Reform UK yn diystyru cael gwared â Senedd Cymru
Fe wnaeth Mr Farage ymbellhau ei hun oddi wrth sylwadau gan Laura Anne Jones, a ddywedodd yn ddiweddar nad oedd y blaid yn diystyru cael gwared â Senedd Cymru.
"Ein nod a'n huchelgais ydy ennill yr etholiadau fis Mai nesaf a gwneud i ddatganoli weithio," pwysleisiodd Mr Farage.
"Wnewch chi ddim clywed gair gen i am ddiddymu'r Cynulliad [neu] am gael gwared â'r Senedd."
Fe wnaeth Mr Powell ddisgrifio Hefin David fel "aelod rhagorol o'r Senedd oedd byth yn bleidiol, roedd wedi ymrwymo i'w gymuned ac wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym myd addysg".
"Mae cymunedau lleol Caerffili yn haeddu aelod o'r Senedd fydd yn sefyll drostyn nhw ar ôl dros 26 mlynedd o aros yn llonydd gyda Llafur a Phlaid Cymru," meddai.
"Dim ond Reform UK sy'n cynnig cyfle o newid gwirioneddol."
Sylw hiliol Aelod Senedd yn 'beth bach'
Yn ddiweddarach fe wnaeth Mr Farage ymateb am y tro cyntaf i adroddiad gan gomisiynydd safonau'r Senedd, sydd heb ei gyhoeddi ond sydd wedi'i weld gan BBC Cymru.
Mae'r adroddiad yn dweud fod Laura Anne Jones wedi dwyn anfri ar y Senedd am wneud sylw hiliol am bobl o China mewn sgwrs WhatsApp.
Dywedodd Mr Farage wrth y BBC: "Fe ddefnyddiodd hi air oedd, 20 mlynedd yn ôl, yn iaith gyffredin, a ni chafodd ei ddefnyddio mewn modd dirmygus 'chwaith.
"Mewn oes o wrth-Semitiaeth rhemp trwy ein gwlad, peth bach yw hyn mewn cymhariaeth.
"Fydden i'n gweithredu pe bai'n gwneud hynny eto? Byddwn."
'Agenda gwrth-Gymreig'
Fe wnaeth llefarydd Plaid Cymru gyhuddo Reform o hyrwyddo "agenda gwrth-Gymreig", sydd "am ddileu pwy ydyn ni, nid sefyll i fyny" dros Gaerffili na Chymru.
"Os ydych chi eisiau atal agenda Reform a rhoi diddordebau Caerffili yn gyntaf, pleidleisiwch dros Blaid Cymru," meddai.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Unwaith eto mae Nigel Farage a Reform wedi ei gwneud hi'n amlwg nad oes ganddyn nhw unrhyw gynllun na pholisïau ar gyfer Caerffili na Chymru.
"Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflawni dros bobl Caerffili a Chymru trwy leihau'r baich treth ar bobl leol a busnesau, ac yn gwella argaeledd gofal iechyd a chanlyniadau addysg."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst
- Cyhoeddwyd14 Awst