Ceidwadwyr yn cyhoeddi eu hymgeisydd ar gyfer is-etholiad Caerffili

Gareth PotterFfynhonnell y llun, Ceidwadwyr Cymreig
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Potter wedi gweithio yn y sectorau manwerthu ac elusennol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dewis Gareth Potter fel eu hymgeisydd ar gyfer is-etholiad y Senedd yng Nghaerffili fis nesaf.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, ei fod yn "ymgyrchydd profiadol" a fyddai'n "gweithio'n galed dros drigolion lleol ac yn llais cryf" yn Senedd Cymru.

Dywedodd Mr Potter, a fu'n gweithio yn y sectorau manwerthu ac elusennol cyn canolbwyntio ar wleidyddiaeth, y byddai'n "curo ar ddrysau", yn gwrando ar safbwyntiau lleol ac yn "rhannu fy nghynllun ar gyfer Caerffili".

Ef yw'r trydydd ymgeisydd a gyhoeddwyd ar gyfer yr is-etholiad, a gynhelir ar 23 Hydref, yn dilyn marwolaeth aelod o'r Senedd Llafur Hefin David ym mis Awst.

Mae Plaid Cymru wedi dewis cyn-arweinydd cyngor Caerffili, Lindsay Whittle, fel ei hymgeisydd, tra bod y cyhoeddwr a'r dadansoddwr ariannol o Gaerffili, Richard Tunnicliffe, yn sefyll dros Lafur.

'Gwrando'

Ganwyd Mr Potter ym Mhont-y-pŵl, tyfodd i fyny yn Nhrefddyn Catwg ac mae'n byw yng Nglyn Ebwy gyda'i wraig a'u dau o blant.

Mae wedi gweithio fel aelod o staff i'r Aelod o'r Senedd Ceidwadol Natasha Asghar, yn ogystal ag i'r blaid ei hun.

Dywedodd ei fod yn "anrhydedd fawr i gael ei ddewis gan ein haelodau i sefyll fel ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Gaerffili yn is-etholiad y Senedd".

Dywedodd fod llywodraethau Llafur yng Nghymru a San Steffan wedi "ein methu dro ar ôl tro" - "o rieni'n poeni am ddiogelwch ysgolion, i bensiynwyr sy'n cael trafferth i gael apwyntiadau meddyg teulu neu berchnogion busnesau bach sy'n cael eu llethu gan drethi annheg".

"Byddaf yn curo drysau, ac yn rhannu fy nghynllun ar gyfer Caerffili, ond yn bwysicaf oll, byddaf yn gwrando arnoch chi," meddai.

Gan longyfarch Mr Potter ar gael ei ddewis, roedd gan Mr Millar neges i bleidleiswyr Torïaidd blaenorol a oedd yn ystyried pleidleisio dros Reform UK.

"Dim ond un Blaid Geidwadol sydd ar y papur pleidleisio yn is-etholiad Caerffili: Plaid Geidwadol Cymru," meddai.

"Mae'r neges yn yr etholiad hwn yn glir - mwy o'r un peth gyda Llafur a Phlaid Cymru, neu newid credadwy gyda'r Ceidwadwyr Cymreig," ychwanegodd.

Disgwylir i Reform ddatgelu ei hymgeisydd yn ystod y dyddiau nesaf.