Dyn ifanc yn dweud fod Huw Edwards 'wedi cymryd mantais' ohono

Huw EdwardsFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y dyn ifanc ei fod wedi "aros yn dawel" er mwyn gwarchod Huw Edwards

  • Cyhoeddwyd

Mae person ifanc oedd yn rhan ganolog o'r honiadau gwreiddiol yn erbyn Huw Edwards wedi honni fod y darlledwr wedi cymryd mantais ohono.

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Daily Mirror, dywedodd y dyn bod y cyn-gyflwynydd newyddion yn gwybod nad oedd ganddo lawer o arian.

Mae'r dyn yn honni bod Edwards wedi talu iddo anfon lluniau o natur rywiol ato tra'r oedd yn ei arddegau.

Y llynedd dywedodd Heddlu'r Met yn Llundain nad oedd tystiolaeth fod Edwards wedi cyflawni trosedd.

Mewn achos ar wahân yr wythnos ddiwethaf, plediodd Huw Edwards yn euog i greu lluniau anweddus o blant.

Ym mis Gorffennaf 2023, fe gyhoeddodd papur newydd The Sun stori am ddyn ifanc oedd yn honni bod Huw Edwards wedi ei dalu am luniau o natur rywiol.

Roedd yr erthygl yn cynnwys honiadau gan ei fam oedd yn honni bod Edwards wedi talu degau ar filoedd o bunnau dros gyfnod o dros dair blynedd, a bod hynny wedi dechrau pan oedd ei mab yn 17 oed.

Ond ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, fe ddywedodd cyfreithiwr ar ran y dyn ifanc bod yr honiadau yn y papur newydd yn "rwtsh".

Mewn llythyr i'r BBC, dywedodd y cyfreithiwr nad oedd unrhyw beth amhriodol na anghyfreithlon wedi digwydd.

Ond mewn cyfweliad newydd sydd wedi ei gyhoeddi yn y Daily Mirror, mae'r dyn ifanc yn dweud ei fod wedi "teimlo ei fod yn gallu ymddiried" yn Huw Edwards ond ei fod wedi "rhyw fath o fwydo oddi ar ba mor fregus oeddwn i".

Mae'n dweud ei fod wedi cysylltu gydag Edwards, a nifer o bobl enwog eraill, ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn gofyn am gymorth tra'r oedd yn ddigartref.

'Roedd e'n gwybod fy mod i angen arian'

Dywedodd bod y cyn-gyflwynydd 62 oed wedi anfon arian ato, cyn dechrau gofyn a oedd unrhyw beth y gallai ef ei wneud yn gyfnewid am yr arian.

"Er mai cyfeillgarwch oedd hyn ar y dechrau, fe wnaeth hynny newid.

"Byddai'n dweud pethau fel, 'Wyt ti am wneud rhywbeth i mi felly?' Roeddwn i angen help, felly fe wnes i," dywedodd.

"Roedd e'n gwybod fy mod i angen arian."

Mae'r dyn ifanc yn dweud ei fod wedi anfon negeseuon a fideos o natur rywiol at Edwards ac mae 'na adroddiadau ei fod wedi anfon £35,000 ato yn gyfnewid am y lluniau dros gyfnod o ddwy flynedd.

"Gan ei fod yn gyflwynydd y BBC a gan fod ganddo gymaint o bŵer... roeddwn i'n teimlo fel y gallwn i ymddiried ynddo a'i fod yn meddwl am fy lles i," dywedodd y dyn ifanc.

"Roeddwn i'n parchu'r dyn yma ond doedd e wir ddim yn poeni amdana i.

"Roeddwn i'n teimlo ei fod yn cymryd mantais ohona i ond roeddwn i'n teimlo bod yn rhaid i mi wrando arno gan mai Huw Edwards oedd e."

Dywedodd ei fod wedi "aros yn dawel" er mwyn gwarchod Edwards, ond ychwanegodd ei fod yn "teimlo'n sâl" pan glywodd y newyddion yr wythnos yma.

Ffynhonnell y llun, Julia Quenzler
Disgrifiad o’r llun,

Fe blediodd Huw Edwards yn euog i greu delweddau anweddus o blant yn Llys Ynadon Westminster

Yn y cyfamser, mae'r Sun wedi cyhoeddi fideo o Edwards - maen nhw'n ei honni - sy'n ei ddangos yn aros am y dyn ifanc mewn gorsaf drenau yng Nghymru.

Y gred yw mai llys-dad y dyn ifanc wnaeth ffilmio'r lluniau.

Dywedodd y llys-dad wrth y papur newydd: "Roeddwn i mor grac. Roeddwn i eisiau mynd draw ato a dweud wrtho i stopio wneud yr hyn roedd e'n ei wneud."

Cafodd Edwards ei wahardd o'r BBC fis Gorffennaf y llynedd ar ôl i'w wraig gyhoeddi mai ef oedd y cyflwynydd oedd yn ganolog i'r honiadau.

Mae'r dyn ifanc yn honni bod Edwards wedi anfon neges destun ato oddi ar rif ffôn anhysbys fis Hydref y llynedd.

"Dwi'n credu bod hynny rhyw bythefnos cyn iddo gael ei arestio. Roedd y neges yn dweud 'dyfala pwy sydd yma?' neu rywbeth felly," dywedodd.

"Roedd y neges yn dweud 'paid dweud fy enw i fan hyn... ffonia fi'. Felly fe wnes i ei ffonio ac fe ddywedodd wrtha i i ddefnyddio'r app Signal. Ac fe ddywedodd y gallen ni siarad ar hwnna.

"Fe ddywedodd 'Beth sydd wedi bod yn digwydd? Rydw i'n poeni amdanat ti'."

Dydi Edwards heb ymateb i'r honiadau.

Fe ymddiswyddodd o'r BBC ym mis Ebrill "ar sail cyngor meddygol".

Ddydd Mercher, fe blediodd yn euog i dri chyhuddiad yn ymwneud â 41 o luniau a chlipiau fideo oedd wedi eu hanfon ato ar WhatsApp.

Roedd saith delwedd yng nghategori A - y categori mwyaf difrifol - a dau o'r rhain yn cynnwys plentyn rhwng tua saith a naw oed.

Fe wnaeth Edwards, 62, ymddangos yn Llys Ynadon Westminster, ar ôl cael ei arestio ym mis Tachwedd.

Bydd yn ymddangos o flaen llys eto ar 16 Medi.

Pynciau cysylltiedig