Cyn-gadeirydd BBC wedi diolch i Huw Edwards er ei bod yn gwybod am ei arestio
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth cyn-gadeirydd y BBC ddiolch yn gyhoeddus i Huw Edwards am ei "gyfraniad enfawr" mewn rhaglen ar Radio Cymru - er ei bod hi'n gwybod ei fod wedi cael ei arestio ym mis Tachwedd y llynedd.
Y Fonesig Elan Closs Stephens oedd Cadeirydd dros dro y BBC am dalp mawr o'r cyfnod pan oedd y cyn-gyflwynydd newyddion yn y penawdau ei hun.
Cafodd ei phenodi ychydig wythnosau cyn i bapur newydd The Sun wneud honiadau am ei fywyd personol.
Fe adawodd hi'r gorfforaeth ym mis Mawrth eleni - wythnosau cyn i Edwards ymddiswyddo.
Yr wythnos hon fe blediodd Edwards yn euog i greu delweddau anweddus o blant.
Fis diwethaf, fe gyfeiriodd y Fonesig Elan at y cyn-ddarlledwr fel "Huw druan" ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru.
Mewn datganiad i raglen deledu Newyddion S4C, sydd wedi ei chynhyrchu gan BBC Cymru, fe gadarnhaodd ei bod hi’n ymwybodol o’r arestio yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd dros dro y BBC.
Ond ychwanegodd nad oedd hi "yn ymwybodol o’r manylion ofnadwy sydd wedi eu datgelu yr wythnos hon".
'Sioc ac wedi fy arswydo'
"Mae’r hyn a ddwedwyd yn y llys wedi dod fel sioc," meddai, "ac rwyf wedi fy arswydo gan yr holl beth.
"Mae fy meddyliau i gyda’r plant y mae eu delweddau hwy yn ganolog i’r stori."
Fe wnaeth cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie, ddweud ddydd Iau ei fod yn ymwybodol i Huw Edwards gael ei arestio ym mis Tachwedd y llynedd a natur ymchwiliad yr heddlu, ond fe amddiffynnodd y ffordd y gwnaeth y gorfforaeth ymdrin â’r achos.
Wrth drafod ei bywyd a'i gyrfa ar raglen radio Beti a'i Phobol – gafodd ei recordio ar 2 Gorffennaf, dair wythnos cyn datgelu manylion y cyhuddiadau – dywedodd y Fonesig Elan ei bod "yn falch o ddiolch yn bersonol i Huw am y cyfraniad enfawr [mae wedi ei wneud] ac yn wir am yr holl sgiliau mae wedi arddangos ar gyfer pobl sydd yn dod ar ei ôl".
Wrth drafod yr honiadau gwreiddiol am fywyd personol Edwards ym mhapur newydd The Sun, gyhoeddwyd fis Gorffennaf y llynedd - cyn unrhyw gyhuddiadau troseddol yn erbyn y cyflwynydd, dywedodd y cyn-gadeirydd:
"Roedd hi yn stori drist ac roedd hi'n amlwg fod papur newydd The Sun yn mynd i wneud y mwyaf o'r achlysur oherwydd oedd Huw druan yn ddyn mor adnabyddus.
"Wrth gwrs, roedd marwolaeth y Frenhines, angladd y Frenhines a'r Coroni - roedd y cyfan wedi digwydd o fewn ychydig fisoedd.
"Y peth cyntaf oedd gwneud yn saff bod Huw yn iawn a bod y teulu yn cael gofal a diogelwch.
"Yn fwy na hynny, alla i ddim sôn. Mae'n amlwg eu bod nhw wedi dod nawr, ar ôl fy amser i i gytundeb ac mae hwnnw hefyd yn fater preifat."
Arestio Huw Edwards fis Tachwedd
Wedi i The Sun gyhoeddi eu stori wreiddiol, cadarnhaodd yr heddlu nad oedd trosedd wedi ei chyflawni.
Ond mewn achos gwahanol, cafodd Edwards ei arestio ym mis Tachwedd y llynedd mewn perthynas â chreu lluniau anweddus o blant.
Cadarnhaodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC Tim Davie ddydd Iau iddo gael gwybod am arestio Huw Edwards a natur ymchwiliad yr heddlu, ond i'r heddlu ofyn i hynny gael ei gadw yn gyfrinachol, ac mai ychydig iawn o bobl o fewn y BBC oedd yn gwybod am yr honiadau felly.
Cafodd Edwards ei gyhuddo yn ffurfiol ym mis Mehefin, er na ddaeth y wybodaeth yna ddim yn gyhoeddus tan i restrau'r llys gael eu cyhoeddi ddechrau'r wythnos yma.
Fe blediodd yn euog i fod gyda 41 o luniau anweddus ac anghyfreithlon ar ei ffôn symudol ddydd Mercher.
Fe gysylltodd BBC Cymru gydag Elan Closs Stephens ddydd Mercher i ofyn am ei hymateb i ble euog Edwards. Doedd hi ddim am ymateb.
Mae Newyddion S4C wedyn wedi gofyn iddi a yw hi'n glynu at y sylwadau wnaeth hi am y darlledwr ar raglen Beti a'i Phobol. Doedd hi ddim am ymateb ymhellach y tu hwnt i’w datganiad ysgrifenedig.
Ar y rhaglen, mae'r cyn-gadeirydd hefyd yn dweud am ei pherthynas anodd gyda'r cyn-Ysgrifennydd Diwylliant Lucy Frazer.
Mae'n dweud ei bod hi'n "Ysgrifennydd Gwladol ymyrrol", gan ddweud ei bod hi'n gweld ei rôl hi fel "bod yn rhyw fath buffer zone rhwng y Llywodraeth a'r BBC."
Wrth drafod sawl achos anodd wynebodd fel Cadeirydd y BBC, gan gynnwys sylwadau gan Gary Lineker a honiadau am ymddygiad Russell Brand, mae'n dweud bod ei pherthynas gyda Lucy Frazer yn un "heriol".
Ddydd Mercher, fe blediodd Edwards yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant. Roedd saith o’r delweddau hynny yn y categori mwyaf difrifol, a dwy o’r delweddau hynny yn dangos plant rhwng saith a naw oed.
Mae’r manylion wedi achosi syfrdan, a rhai yn cwestiynu sut y gwnaeth y BBC ymdrin â’r achos.
Ymchwiliad mewnol y BBC
Dechreuodd y BBC ymchwiliad mewnol i honiadau am ymddygiad Edwards. Dyw’r canfyddiadau heb gael eu cyhoeddi.
Fe wnaeth Newyddion S4C gais rhyddid gwybodaeth (FOI) am unrhyw nodiadau neu ohebiaeth yn ymwneud â’r ymchwiliad hwnnw yn gynharach eleni.
Cafodd y cais hwnnw ei wrthod ar 20 Mai, gan nodi cyfreithiau gwarchod data yn ymwneud â data personol.
Fe gadarnaodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davies ddoe ei fod yn ymwybodol fod Edwards wedi cael ei arestio, a natur yr honiadau yn ei erbyn ym mis Tachwedd y llynedd, ond fe amddiffynnodd sut wnaeth y gorfforaeth ymdrin â’r achos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd1 Awst