Corff newydd i reoleiddio'r diwydiant dŵr ar ôl diddymu Ofwat

Tap yn rhedeg i sinc 
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ofwat - y corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant dŵr ar hyn o bryd - yn cael ei ddiddymu

  • Cyhoeddwyd

Bydd corff newydd, annibynnol yn cael ei sefydlu i reoleiddio'r diwydiant dŵr yng Nghymru ar ôl i Ofwat gael ei ddiddymu.

Daeth cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ar ôl i adolygiad alw am newid llwyr yn y modd y mae cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn cael eu goruchwylio.

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies, nad oedd y system bresennol yn gweithio, a bod yna "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth" i newid hynny.

Ond mae ymgyrchwyr afon wedi rhybuddio bod yr amser y mae'n debygol o gymryd i sefydlu'r drefn newydd yn "bryderus".

Dywedodd Mr Irranca-Davies, sydd hefyd yn ysgrifennydd newid hinsawdd, wrth y Senedd bod angen "diwygiadau beiddgar", a'i bod hi'n "gwbl ddealladwy fod pobl yn poeni am eu biliau dŵr a chyflwr ein dyfrffyrdd".

Roedd yn amlinellu camau nesa'r llywodraeth yn dilyn cyhoeddi casgliadau adolygiad mawr o'r sector ddŵr ym mis Gorffennaf.

Fe gyflwynodd y Comisiwn Dŵr Annibynnol, dan gadeiryddiaeth cyn-ddirprwy lywodraethwr Banc Lloegr Syr John Cunliffe, 88 o argymhellion, gan gynnwys diddymu rheoleiddiwr presennol y diwydiant yng Nghymru a Lloegr - sef Ofwat.

Gallai rheoleiddiwr newydd ar gyfer cwmnïau dwr Cymreig naill ai gael ei greu o fewn i gorff Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), neu fod yn sefydliad ar wahân, awgrymodd yr adroddiad.

Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi nodi eu bod hwythau'n ffafrio creu corff newydd, annibynnol.

Byddai gofyn i'r rheoleiddiwr newydd gefnogi buddsoddiad hir dymor mewn isadeiledd a gwarchod yr amgylchedd, er mwyn "cryfhau hyder y cyhoedd" yn y sector, meddai'r llywodraeth.

Bydd ymgynghoriad ar y model arfaethedig yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni.

Mae'r cynlluniau eraill yn cynnwys ceisio am bwerau pellach i'r Senedd allu pasio deddfau ynglŷn â rheoleiddio a chynllunio o fewn i'r diwydiant dŵr am y tro cyntaf.

Huw Irranca-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae hyn yn "gyfle unwaith mewn cenhedlaeth" i newid y drefn, yn ôl Huw Irranca-Davies

Pwysleisiodd Mr Irranca-Davies y byddai'r gwaith yn cymryd amser i'w gyflawni.

"Mae diwygio'r sector ddŵr yn dasg gymhleth, hirdymor – ond mae hefyd yn gyfle i greu system ddŵr well a dangos beth all datganoli ei gyflawni," meddai.

Er mwyn "cynnal sefydlogrwydd a hyder y cyhoedd" bydd cynllun pontio yn cael ei gytuno â Llywodraeth y DU, gyda threfniadau dros dro yn eu lle hefyd gydag Ofwat a rheoleiddwyr eraill.

Wrth ymateb, dywedodd Janet Finch-Saunders AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd ei bod hi'n croesawi'r ffaith y byddai'r rheoleiddiwr newydd yn annibynnol "a ddim yn rhan o CNC".

"Yn rhy aml, pan ry'n ni'n gweld digwyddiadau yn fy etholaeth i mae'r cwmnïau dŵr yn dweud 'mae'n iawn ry'n ni wedi adrodd ein hunain i CNC'", meddai.

Ond fe holodd pa mor gyflym y gallai'r corff newydd fod yn weithredol.

Atebodd Mr Irranca-Davies y "gallen ni fod yn edrych ar sawl blwyddyn er mwyn cynllunio'r drefn newydd yn iawn".

Dywedodd Delyth Jewell AS, llefarydd Plaid Cymru ar newid hinsawdd, fod Cymru yn genedl oedd "wedi'i bendithio â chymaint o ddyfrffyrdd, afonydd ac adnoddau dŵr".

"Ond yn rhy aml dydy'r elwau o rheini ddim yn dychwelyd i'n cymunedau," meddai.

"Mae pobl Cymru yn gorfod talu rhai o'r biliau fwyaf uchel yn yr ynysoedd hyn ac mae tlodi dŵr yn parhau yn broblem... (tra bod) carthion yn staenio ein hafonydd a'n moroedd ni."

Gail Davies-Walsh o Afonydd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae corff Afonydd Cymru yn poeni am yr amserlen ac am weld newidiadau ar frys i'r sector

Dywedodd Gail Davies-Walsh, prif weithredwr Afonydd Cymru, fod bwriad y llywodraeth i greu rheoleiddiwr newydd i'w groesawu.

"Beth sy'n galonogol hefyd yw'r uchelgais i gryfhau grymoedd datganoledig fel bod Cymru'n gallu sicrhau deddfwriaeth a gweithredu amgylcheddol cadarnach," meddai.

"Ond mae'r amser bydd y diwygiadau yma yn cymryd i'w cyflwyno yn bryderus," ychwanegodd.

"Heb sôn am orfod gofyn am ganiatâd San Steffan, bydd etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf yn debygol o arwain at oedi pellach, gan osod Cymru y tu ôl i Loegr o ran ailstrwythuro'r diwydiant dŵr.

"Rhaid cofio hefyd bod y datganiad hwn ond yn ffocysu ar y diwydiant dŵr ac mae angen gweithredu hefyd o ran sectorau eraill os yw afonydd yng Nghymru yn mynd i wella."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.