'Fawr o ddewis' ond cynyddu ffioedd prifysgolion Cymru

PrifysgolionFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prifysgolion Cymru eu bod yn wynebu "rhai o'r heriau mwyaf difrifol yn hanes diweddar y sector"

  • Cyhoeddwyd

Nid oes gan Lywodraeth Cymru "fawr o ddewis" ond i gynyddu ffioedd prifysgolion yn unol â Lloegr, yn ôl corff Prifysgolion Cymru.

Daeth cadarnhad ddydd Llun y byddai ffioedd yn Lloegr yn cynyddu i £9,535 o'r flwyddyn nesaf, gydag Ysgrifennydd Addysg Lloegr yn rhybuddio fod y sector yn wynebu "argyfwng ariannol".

Llywodraeth Cymru sy’n gosod ffioedd ar gyfer prifysgolion yma, ac maen nhw'n dweud y bydden nhw’n ystyried goblygiadau’r newid yma yn Lloegr.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru eu bod yn wynebu "rhai o'r heriau mwyaf difrifol yn hanes diweddar y sector".

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cydnabod fod prifysgolion "dan bwysau ariannol sylweddol ar hyn o bryd" a'u bod am gadarnhau'r cap ar ffioedd a'r pecyn cymorth i fyfyrwyr ar gyfer 2025/26 "cyn gynted â phosibl".

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cap ar ffioedd dysgu mewn prifysgolion Cymreig yn cynyddu i £9,250 o fis Medi.

Roedd ffioedd yng Nghymru wedi eu cadw ar £9,000 ers 2012.

Mae prifysgolion wedi dweud nad yw ffioedd a grantiau bellach yn ddigon i dalu costau addysgu israddedigion y DU, tra bod niferoedd myfyrwyr rhyngwladol wedi gostwng yn dilyn newidiadau i reolau fisa.

Mae mwyafrif prifysgolion Cymru wedi amlinellu cynlluniau i ddiswyddo staff o ganlyniad i bwysau ariannol.

Mae gan Brifysgol Caerdydd ddiffyg ariannol o £30m eleni, tra bod Prifysgol Bangor hefyd yn wynebu diffyg ariannol o £9m ar ôl derbyn llai o fyfyrwyr nag yr arfer.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru fod sefydliadau yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau eu cynaliadwyedd.

"O ystyried y pwysau presennol ar gyllid cyhoeddus, os ydym am gynnal prifysgolion Cymru a'r manteision y maent yn eu darparu i gymunedau lleol, yna rydym ni'n credu nad oes gan Lywodraeth Cymru fawr o ddewis ond i gynyddu lefelau ffioedd Cymru yn unol â Lloegr,” ychwanegodd y llefarydd.