Penodi Chris Gunter yn rheolwr tîm dan-19 Cymru

Chris GunterFfynhonnell y llun, John Smith/Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dros gyfnod o 15 mlynedd, enillodd Gunter 109 o gapiau i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi penodiad Chris Gunter yn brif hyfforddwr tîm dynion dan-19 Cymru.

Bu'n rhan allweddol o garfan Cymru am dros 15 mlynedd, gan ennill 109 o gapiau cyn cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol ym mis Mawrth 2023.

Yna ymunodd â staff hyfforddi carfan Cymru, gan chwarae rhan wrth i Gymru golli yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Euro 2024.

Bydd Gunter yn treulio'r misoedd nesaf yn paratoi ei dîm ar gyfer rownd gyntaf gemau rhagbrofol Euro 2024/25 wrth i Gymru baratoi i wynebu Ffrainc, Yr Alban a Liechtenstein.

Wrth siarad am ei benodiad, dywedodd Gunter: "Rwy’n falch iawn o gael y cyfle ac yn gyffrous i ddechrau mewn rôl wahanol.

"Mae’n gyfle da i mi ddysgu a gwella fy ochr i, ond yn bwysicach yn hynny, rwyf am roi fy nghefnogaeth a fy mhrofiad i’r chwaraewyr ifanc sy’n dod drwodd.

"Mae pawb yn gweld y tîm hŷn fel yr un pwysicaf, sy’n wir oherwydd mai dyma’r lefel lle mae’r canlyniadau a’r cymwysterau yn fwyaf pwysig.

"Ond o dan hynny, mae’r cyfrifoldeb arnaf i ac ar yr hyfforddwyr eraill y grwpiau oedran, sydd wedi bod yn gwneud yn dda iawn, i hwyluso hynny.

"Rydyn ni eisiau rhoi’r chwaraewyr gorau yn y lle gorau i Craig a gweddill y staff, felly mae’n gyffrous.”