Pum prosiect yn cipio Gwobrau Mentrau Iaith 2024
- Cyhoeddwyd
Mae prosiectau o Bowys, Gwynedd, Caerdydd, Abertawe a Chaerffili wedi dod i'r brig yn seremoni wobrwyo flynyddol Mentrau Iaith Cymru.
Roedd yna wedd newydd i'r achlysur eleni, sy'n dathlu ymdrechion y 22 o fentrau iaith i hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru.
Yn hytrach nag anrhydeddu categorïau penodol fel yn achos y ddwy seremoni flaenorol, fe gafodd yr enillwyr eleni eu henwi'n brosiectau "o ragoriaeth".
Cafodd y seremoni ei chynnal yng nghanolfan Galeri, Caernarfon nos Fawrth.
- Cyhoeddwyd24 Ionawr
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd
Fe gafodd y prosiectau eu beirniadu ar sail meini prawf sy'n cynnwys "effaith ar y Gymraeg, arloesedd a chynhwysiant".
"Er y gallem fod wedi gwobrwyo pob un o'r prosiectau, roeddem fel panel yn gytûn fod y pump prosiect o ragoriaeth ddaeth i'r brig yn haeddu clod arbennig," meddai un o'r beirniaid, Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones.
Daeth Menter Iaith Maldwyn i'r brig gyda’u prosiect TwmpDaith, sy'n rhoi cyfle i griw o gerddorion a dawnswyr ifanc dreulio'r haf yn cynnal twmpathau ar draws Cymru ac yn Llydaw.
Dywedodd Rhian Davies o Fenter Iaith Maldwyn ar Dros Frecwast: "Am ddwy flynedd, 'da ni wedi cyflogi naw o bobl ifanc i dderbyn hyfforddiant ar sut i gynnal twmpath a naethon ni deithio ar fws mini i gynnal twmpathau ar hyd a lled y wlad."
Dywedodd ei bod wedi gwirioni eu bod nhw wedi cael eu gwobrwyo am eu gwaith.
"Be' odd yn hyfryd oedd bod yn rhan o noson lle oeddan ni'n cael cyfle i ddathlu'r gwaith bendigedig ac amrywiol mae'r mentrau'n wneud ar draws y wlad."
Cwrs byr gyda gwybodaeth elfennol am yr iaith a diwylliant Cymraeg yw cynllun Menter Iaith Gwynedd, Croeso Cymraeg - Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru.
Dyma, medd y beirniaid, "enghraifft wych o'r croeso cynnes y gallwn ni ei roi i bobl sy'n newydd at y Gymraeg", sydd hefyd yn profi "fod y Gymraeg yn perthyn i bawb".
Cafodd cynllun Yn Cyflwyno... Menter Caerdydd ei wobrwyo am "annog disgyblion ysgolion Caerdydd i gychwyn bandiau Cymraeg, gan gynnig sesiynau mentora a chyfleoedd i berfformio".
Ym marn y beirniad: "Dyma ffordd wych o agor y drws i’r Gymraeg a bwydo’r sîn gerddorol yng Nghymru."
'Ystod oedran eang'
Daeth Menter Iaith Abertawe i'r brig gyda phrosiect Gŵyl Tawe a lwyddodd "i gyflwyno delwedd broffesiynol a pherthnasol o'r Gymraeg, gan wneud y Gymraeg yn weledol yng nghanol dinas boblog.
"Roedd yn braf hefyd gweld yr ystod oedran eang ymhlith yr artistiaid a’r gynulleidfa," meddai'r beirniaid.
Roedd Rogue Jones, HMS Morris ac Alffa ymhlith y grwpiau a berfformiodd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym mis Mehefin wrth i'r ŵyl gael ei chynnal am yr eildro.
Cafodd Menter Iaith Caerffili glod am y prosiect Gwasanaeth Gofal Plant fel "enghraifft wych o sut y gallwn estyn ein gwasanaethau i gartrefi di-Gymraeg ac atgyfnerthu defnydd y Gymraeg mewn cyd-destun anffurfiol".
Mewn fideo gafodd ei ddangos yn ystod y seremoni, dywedodd yr aelod o Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y Gymraeg bod yr holl brosiectau'n "dangos dealltwriaeth glir o gynllunio ieithyddol cymunedol".
"Mae pob un yn haeddu sylw ac yn magu hyder ac awydd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg," dywedodd Mark Drakeford.
"Mae’n wych hefyd gweld fod 'na gymaint o brosiectau ar gael i wahanol bobl – yn deuluoedd, siaradwyr newydd, plant bach, pobl ifanc ac oedolion hŷn."
Ychwanegodd bod cyfraniad y mentrau iaith "at y targed o ddyblu'r nifer o bobl sy’n defnyddio'r Gymraeg bob dydd yn amhrisiadwy".