100 diwrnod cyntaf Eluned Morgan: Beth ydyn ni wedi ei ddysgu?
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd Eluned Morgan ei phenodi yn brif weinidog wedi misoedd o ymladd o fewn ei phlaid.
Ers hynny mae'r stormydd wedi tawelu, sydd wedi galluogi'r llywodraeth i dreulio llai o amser ar wleidyddiaeth fewnol y blaid, a mwy ar wleidyddiaeth sy'n effeithio ar fywydau pobl bob dydd.
Mae hi nawr wedi bod yn y swydd ers 100 diwrnod - sy'n aml yn cael ei nodi fel carreg filltir arwyddocaol i arweinydd.
Mae'n gallu bod yn anodd cyflwyno newidiadau mawr, ond mae geiriau a gweithredoedd y dyddiau cyntaf yn gallu gosod y dôn ar gyfer eu hamser wrth y llyw.
Wrth gwrs nid pawb sy'n cyrraedd y garreg filltir hon, dim ond 45 diwrnod y gwnaeth Liz Truss bara fel prif weinidog yn San Steffan, ac roedd Vaughan Gething wedi rhoi'r ffidl yn y to ar ôl 118 diwrnod cythryblus.
Felly ar ôl 100 diwrnod cyntaf Eluned Morgan, beth ydyn ni wedi'i ddysgu am sut mae hi eisiau rhedeg y wlad?
Undod plaid?
Roedd cyfnod byr Vaughan Gething wrth y llyw wedi ei ddominyddu gan frwydro mewnol y grŵp Llafur, ar ôl iddo dderbyn £200,000 i'w ymgyrch etholiadol gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.
Roedd yr awyrgylch yn y grŵp Llafur wedi cael ei ddisgrifio fel un gwenwynig, ac fe orfodwyd Mr Gething i ymddiswyddo yn y pendraw.
Ar ei diwrnod cyntaf fel arweinydd, fe addawodd Eluned Morgan y byddai'n uno ei phlaid unwaith eto.
Ar yr olwg gyntaf, mae’n edrych fel petai'r ffraeo wedi dod i ben, gyda’r grŵp cyfan yn uno y tu ôl i’w harweinyddiaeth.
Ond mae hen glwyfau yn cymryd amser i wella ac yn breifat mae rhai o'r hen densiynau'n parhau.
- Cyhoeddwyd6 Awst
Blaenoriaethau
Mae Eluned Morgan wedi dweud yn glir mai ei phrif nod fel prif weinidog yw canolbwyntio ar y materion hynny sydd o bwys i bobl Cymru.
Fe dreuliodd ei hwythnosau cyntaf fel arweinydd yn teithio Cymru yn gwrando ar bryderon y cyhoedd.
Ymarfer pwysig meddai hi, dim mwy na stynt wleidyddol yn ôl ei gwrthwynebwyr.
Yn sicr doedd o'n fawr o syndod bod iechyd ar frig y rhestr i'r rhan fwyaf o bobl, ac mae Ms Morgan wedi dweud y bydd yn canolbwyntio ei holl egni ar gyflawni’r newid y mae pobl ei eisiau yn y gwasanaeth iechyd.
Y flaenoriaeth fydd delio hefo rhestrau aros hir, ac mae £28m eisoes wedi ei ddarparu i'r gwasanaeth iechyd i ddechrau torri ar y rhestrau hiraf - ond mae'n amcan fydd yn cymryd llawer hirach na 100 diwrnod.
Beth i beidio gwneud?
Os yw iechyd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth, yna mae'n anochel y bydd llai o bwyslais ar feysydd eraill.
Dyw diwygio cyfansoddiadol neu newid terfynau cyflymder ddim yn mynd i ennill pleidleisiau i Lafur, ac mae Eluned Morgan yn ymwybodol iawn o hynny.
Mae gan lywodraethau amser ac adnoddau cyfyngedig, felly dyw’r prif weinidog ddim eisiau treulio ei hamser yn trafod materion sydd ddim o reidrwydd yn atseinio gyda’r cyhoedd, neu sydd hyd oed yn eu gwylltio, fel mae 20mya wedi’i wneud.
Dyna pam mae’r prif weinidog benywaidd cyntaf wedi sgrapio cynlluniau dadleuol ar gyfer cwotâu rhywedd ar gyfer etholiadau’r Senedd, er mi fydd y llywodraeth yn parhau gyda'r cynlluniau ehangach i ddiwygio ac ehangu’r Senedd.
Ond mae’r cyfyngiadau 20mya yn parhau, fodd bynnag, er bod y cyn-weinidog Lee Waters wedi cwyno am ba mor negyddol y mae gweinidogion yn swnio, wrth drafod y polisi.
Perthynas newydd gyda San Steffan
Yn ôl Eluned Morgan mae'r berthynas gyda Llywodraeth y DU eisoes wedi cael ei thrawsnewid.
Mewn gwirionedd mae hynny i’w ddisgwyl gyda llywodraeth Lafur yn San Steffan ac yng Nghymru am y tro cyntaf ers 14 mlynedd.
Ond mae llywodraeth Eluned Morgan yn cyfeirio at y gyllideb ddiweddar, wnaeth arwain at £1.7bn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru, fel enghraifft o sut mae’r berthynas eisoes yn dwyn ffrwyth.
Maen nhw hefyd yn dadlau bod y £25m i helpu gwneud tomenni glo yn ddiogel yn ganlyniad uniongyrchol o'r trafodaethau rhwng y ddwy lywodraeth.
Ond er y galwadau am gyfran Cymru o wariant rheilffordd HS2, does dim awgrym eto bod arian ar ei ffordd.
Ond dwi'n deall nad yw'r prif weinidog wedi rhoi'r ffidil yn y to, a'i bod yn parhau i ddadlau'r achos gyda llywodraeth Keir Starmer.
Etholiad 2026
Ym mis Mai 2026, bydd Cymru yn taro pleidlais yn etholiadau'r Senedd, ac yn ôl y rhagolygon diweddaraf mae gan Lafur frwydr ar eu dwylo i barhau mewn grym.
Mae gwleidyddion Llafur yn gwybod y bydd y system bleidleisio newydd yn ei gwneud hi'n anoddach i gystadlu yn erbyn y pleidiau eraill.
Mae Eluned Morgan hefyd yn ymwybodol iawn o faint yr her sydd o’i blaen, ac mae hynny’n llywio popeth y mae hi wedi’i wneud yn ei 100 diwrnod cyntaf.
Mae hi'n gamblo y bydd hi'n cael yr effaith fwyaf drwy ganolbwyntio ar iechyd, ac ar restrau aros yn benodol.
Ond er mwyn llwyddo yn 2026 bydd angen mwy na geiriau arni, bydd pleidleiswyr eisiau gweld bod gwasanaethau cyhoeddus yn gwella.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd
- Cyhoeddwyd12 Medi