Safle ysgol newydd yn 'codi'r bar' o ran addysg Gymraeg yn Sir y Fflint

Symudodd Ysgol Croes Atti i'w chartref newydd ger Y Fflint ychydig wythnosau'n ôl
- Cyhoeddwyd
Mae'n gyfnod cyffrous i addysg Gymraeg yn Sir y Fflint, yn ôl arweinwyr lleol.
Gyda niferoedd y rhai sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar gynnydd mae'r awdurdod lleol newydd godi'r adeilad pwrpasol cyntaf i ysgol gynradd Gymraeg yn y sir.
A hithau wedi dathlu ei 60 mlwyddiant eleni, fe symudodd Ysgol Croes Atti i'w chartref newydd ger Y Fflint ychydig wythnosau'n ôl.
Mae bwriad o hyd i agor ysgol Gymraeg newydd yn ardal Bwcle, medd Cyngor Sir y Fflint.

Mae pawb yn Ysgol Croes Atti wedi "gwirioni" gyda'r adeilad newydd, meddai'r pennaeth Gwyn Jones
Wedi bod yn ganolog wrth siapio'r adeilad newydd, mae pennaeth Ysgol Croes Atti, Gwyn Jones, yn fodlon iawn gyda'r cyfleusterau.
"Mae pawb wedi gwirioni'n lân, a be' sydd wedi taro ni, mae o fatha bod y plant wedi bod yma erioed." meddai.
"O'r eiliad cyntaf ddaethon nhw fewn drwy'r drws roedden nhw'n gwybod yn union lle i fynd, beth oedd yna a sut i ymddwyn. Mae o wedi bod yn wych."
Mae 'na le i 210 o ddisgyblion yn yr adeilad newydd, ond yn ôl y pennaeth, mae'r dosbarth meithrin yn orlawn yn barod.
'Teulu bychan o ysgolion Cymraeg'
Mae'r cynlluniau ar gyfer y safle wedi cynnwys lle i ymestyn y ddarpariaeth petai angen.
"Yn sicr mae 'na dwf yn lleol ac mae'r frwydr dros y Gymraeg yn gryf yma'n Sir y Fflint hefyd," meddai Mr Jones.
"'Den ni'n deulu bychan o ysgolion Cymraeg, ond mae'r awdurdod addysg lleol efo'n cefnau ni. Maen nhw eisiau i ni lwyddo, maen nhw eisiau i ni ffynnu."
"Rŵan de' ni'n medru codi'r bar oherwydd yr adnodd sydd gynno' ni yma."
Mam o Syria 'heb gael gwybod' am addysg Gymraeg i'w phlant
- Cyhoeddwyd5 Mai
'Dal i frwydro' dros addysg Gymraeg ym Merthyr
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
Angen 'shifft mewn polisi' ar addysg Gymraeg - comisiynydd
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
Yn ôl Ariella, disgybl yn Ysgol Croes Atti, mae'r ysgol newydd yn ardderchog: "Mae 'na lot o ystafelloedd newydd ac mae 'na just lot i neud, mae'n really hwyl."
Dywedodd Jude, disgybl arall, fod pob math o bethau newydd yn yr "hafan heriau" yn y dosbarth, gan gynnwys printiwr 3D a microsgop.
Mae'r ysgol yn arbennig, meddai Cadi, sy'n "ddiolchgar iawn am gael bod yn ddisgybl" yno.

O'r chwith: Bryn, Jude, Cadi ac Ariella
Dechrau'r ysgol oedd agor ffrwd meithrin Cymraeg yn Ysgol Heol Caer, Y Fflint, yn 1964 o dan arweiniad Mair Richards.
Mae adeilad ategol, Tŷ Mair, ar safle'r ysgol newydd wedi ei enwi ar ôl y pennaeth cyntaf.
Mae'r adeilad hwn yn gartref i ganolfan trochi disgyblion, cylch meithrin ac ystafell gymunedol ar gyfer amrywiol weithgareddau yn ymwneud â'r iaith.
"Mae rhai o'r disgyblion meithrin cychwynnol yna yn dal mewn cyswllt efo ni fel ysgol," medd Mr Jones.
"Be' ddaru Mair sefydlu oedd yr awch a'r awydd ymhlith rhieni di-Gymraeg ar y pryd, bo' nhw isio addysg Gymraeg i'w plant."
"Ddaru Mair ddim gweld yr adeilad newydd, ond be' mae hi wedi gadael i ni ydy'r weledigaeth o'r Gymraeg o'r crud i'r bedd."

Mae'r niferoedd sy'n dymuno astudio yn Gymraeg yn Sir y Fflint "yn dal eu tir os nad yn cynyddu", yn ôl Bronwen Hughes
Yn gartref i un o'r ysgolion uwchradd penodedig Cymraeg cyntaf trwy'r wlad, Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug, mae gan Sir y Fflint le pwysig yn hanes addysg Gymraeg.
Un o gyn-ddisgyblion Ysgol Croes Atti ac Ysgol Maes Garmon, Bronwen Hughes, ydy pennaeth presennol yr ysgol uwchradd honno.
Mae hi'n dweud bod pethau'n gadarnhaol i addysg Gymraeg yn yr ardal ar hyn o bryd.
"O ran tueddiadau, mae 'na gynnydd yn nifer y disgyblion sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Tra bod poblogaeth ysgolion cynradd mewn nifer o siroedd yn gostwng, yn Sir y Fflint mae'r niferoedd sy'n dymuno astudio yn Gymraeg yn dal eu tir os nad yn cynyddu," meddai.

Dywedodd pennaeth Ysgol Maes Garmon fod pethau'n gadarnhaol i addysg Gymraeg yn yr ardal
Mae'r Cyngor Sir yn dweud eu bod yn disgwyl y bydd cyfanswm disgyblion y chwe ysgol gynradd Gymraeg presennol gant yn fwy ymhen pum mlynedd.
Bum mlynedd yn ôl fe ddwedodd arweinydd y cyngor ar y pryd, y Cynghorydd Ian Roberts, y byddai ysgol Gymraeg newydd yn cael ei hagor yn ardal Bwcle erbyn eleni.
Y Cynghorydd Mared Eastwood sy'n gyfrifol am addysg ar hyn o bryd ac mae hi'n dweud eu bod yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio un o ddau adeilad, sydd wedi eu gadael yn wag - wrth uno dwy ysgol ddi-Gymraeg yn ddiweddar mewn adeilad newydd.
"Bydd rhaid i ni wneud feasability study i weld pa safle sydd orau i'r ysgol newydd," meddai.
"De' ni'n dal yn gweithio amdani ac mae'r llywodraeth wedi ein cefnogi ni hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.