Digwyddiadau chwaraeon mawr 2025

Cymru yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon sydd wedi sicrhau eu lle yn Euro 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru yn dathlu cyrraedd Euro 2025

  • Cyhoeddwyd

Doedd 'na ddim prinder o bynciau trafod yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn 2025.

Roedd hi'n flwyddyn arbennig i dîm pêl-droed merched Cymru yn cyrraedd Euro 2025, ond yn flwyddyn i'w anghofio i dîm rygbi dynion Cymru sydd wedi colli 12 gêm brawf yn olynol.

Ac y Gemau Olympaidd ym Mharis oedd y rhai mwyaf llwyddiannus erioed i athletwyr o Gymru ar ôl iddyn nhw ddychwelyd adref gyda 13 medal.

Gyda 2025 bellach ar y gorwel, beth sydd i'w ddisgwyl ar y meysydd chwarae?

Euro 2025

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fydd Jess Fishlock yn gallu helpu Cymru i greu ambell i sioc yn Euro 2025?

Mae tîm merched Cymru wedi creu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf erioed.

Ond mae 'na dipyn o her yn eu wynebu nhw yn Y Swistir yr Haf nesaf.

Mi fydden nhw yn yr un grŵp â thri o gewri Ewop - Ffrainc, Yr Iseldiroedd a'r pencampwyr presennol Lloegr - a dim ond dau dîm o'r grŵp fydd yn mynd drwodd i rownd yr wyth olaf.

Ond mi fydd Cymru yn benderfynol o adael eu marc ar y gystadleuaeth, a phwy a wyr be allen nhw ei gyflawni os y bydd Jess Fishlock ar ei gorau.

Taith Y Llewod

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tybed a fydd 'na le i Jac Morgan yng ngharfan Y Llewod?

Am y tro cyntaf ers 2005 fydd Warren Gatland ddim yn rhan o dîm hyfforddi'r Llewod.

Y cwestiwn mawr ydi faint o chwaraewyr o Gymru fydd ar y daith i Awstralia, gan gofio'r rhediad siomedig mae'r tîm cenedlaethol arno ar y funud.

Mi fyse rhywun yn disgwyl i chwaraewyr fel Adam Beard, Jac Morgan, Tomos Williams a Mason Grady fod dan ystyriaeth, ond mi fydd lot yn dibynnu ar berfformiadau Cymru yn y Chwe Gwlad.

Mi fydd y bachwr Dewi Lake hefyd yn gobeithio gwella o anaf er mwyn ceisio creu argraff.

Prif hyfforddwr Iwerddon Andy Farrell fydd wrth y llyw, gyda'r Llewod yn gobeithio ennill cyfres brawf am y tro cyntaf ers 2013, sef y tro diwethaf iddyn nhw ymweld ag Awstralia.

Cwpan Rygbi'r Byd

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru yn yn un grŵp â'r Alban, Canada a Fiji

Roedd 2024 yn flwyddyn anodd i dîm rygbi merched Cymru am fwy nag un rheswm.

Fe orffenon nhw ar waelod tabl y Chwe Gwlad, cyn i Undeb Rygbi Cymru ymddiheuro am y ffordd y cafodd trafodaethau cytundebau'r tîm eu cynnal.

Mae'r tîm hefyd heb brif hyfforddwr ar y funud ar ôl i Ioan Cunningham adael y rôl ym mis Tachwedd.

Mae URC yn gobeithio penodi hyfforddwr newydd erbyn y Chwe Gwlad er mwyn rhoi cymaint o amser â phosib i'r tîm baratoi ar gyfer Cwpan y Byd, fydd yn cael ei gynnal yn Lloegr ym mis Awst a mis Medi.

Canada, Yr Alban a Fiji fydd yn yr un grŵp â Chymru, a mae hynny yn rhoi gobaith iddyn nhw orffen yn y ddau safle uchaf a chyrraedd rownd yr wyth olaf.

Lauren Price v Natasha Jonas

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lauren Price ydi pencampwr pwysau welter WBA y byd

Am ornest mae hon yn argoeli i fod!

Ym mis Mawrth mi fydd Y Gymraes Lauren Price yn wynebu Natasha Jonas yn y Royal Albert Hall yn Llundain.

Mae'r ddwy gyda'r bocswyr pwysau welter gorau yn y byd. Jonas ydi pencampwr IBF a WBC y byd, tra fod Price newydd guro Bexcy Mateus i ddal ei gafael ar wregys y WBA.

Ar ôl chwarae pêl-droed dros Gymru a Chaerdydd, fe drodd Price at focsio gan ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 2021.

Fe enillodd bencampwriaeth y WBA ym mis Mai 2024, a mi fydd hi'n gobeithio am fwy o lwyddiant yn 2025.

Tymor olaf Geraint Thomas?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Geraint Thomas y Tour de France yn 2018

Ag yntau yn 38 oed bellach, mae Geraint Thomas wedi awgrymu y bydd yn ymddeol yn 2025 ar ôl i'r tymor beicio ddod i ben.

Dim ond blwyddyn sydd ar ôl ar ei gytundeb gyda thîm Ineos Grenadiers.

Mae'r Cymro wedi cael gyrfa anhygoel, gyda'r uchafbwynt yn dod yn 2018 pan enillodd y Tour de France.

Mae Thomas hefyd wedi gorffen ar y podiwm yn y Giro d'Italia, ac wedi ennill medalau aur yn y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad.

Er ei fod yn gobeithio cystadlu yn rhai o'r rasus mawr yn 2025, mae'n anhebygol y gwelwn ni o'n cael y cyfle i arwain tîm Ineos eto.

Mi fyse hi'n braf ei weld yn ennill cymal neu ddau mewn ras cyn i'w yrfa ddisglair ddod i ben.

Pynciau cysylltiedig