Carcharu dyn am gam-drin ei bartner dros gyfnod o flynyddoedd

Roedd Antonio Villafane yn ymosod ar ei bartner yn rheolaidd ac yn ei chloi mewn carafán
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth gam-drin ei bartner dros gyfnod o flynyddoedd wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd.
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Casnewydd clywodd y llys fod Antonio Villafane, 67, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Anthony Manson, yn ymosod ar Sally Ann Norman, 64, yn rheolaidd.
Clywodd y rheithgor fod Ms Norman wedi ei gorfodi i sefyll yn noeth y tu allan yn y tywyllwch a'r oerfel a'i gorfodi i wisgo penwisg i guddio'i chleisiau.
Roedd Ms Norman yn gaeth o dan ei reolaeth, yn cael ei churo ac mi wariodd Antonio Villafane dros chwarter miliwn o'i arian hi.

Cafodd Antonio Villafane ei garcharu am wyth mlynedd ar 26 Tachwedd
Dros gyfnod o bron i chwe blynedd, bu Villafane yn cam-drin ei bartner drwy ei chloi yn y garafán.
Roedd yn cyfyngu ar yr hyn yr oedd hi'n ei fwyta neu ei gorfodi i fwyta, yn ymosod arni a byddai hefyd yn ei chlymu, yn rheoli ei chyswllt â'i theulu ac yn ei gorfodi i weithio ar y tir.
Weithiau byddai Villafane yn defnyddio arfau i ymosod ar Ms Norman.
Ar un achlysur defnyddiodd brocer tân poeth i'w llosgi ac ar achlysur arall defnyddiodd ffon gerdded i'w tharo ar ei phen. Roedd hefyd wedi taro ei choes gyda neddyf - arf tebyg i fwyell.
Perswadiodd hi i drosglwyddo £250,000 i'w gyfrif banc, gan ddweud wrth y dioddefwr y byddai'n prynu tir yn enwau'r ddau ohonynt.
Ond, dim ond ei enw ef oedd ar y tir a gafodd ei brynu gyda'r arian.

Dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Casnewydd fod Villafane wedi synhwyro bregusrwydd y dioddefwr "gyda greddf cam-driniwr domestig"
Dywedodd Sarah Harding, o Wasanaeth Erlyn y Goron fod Antonio Villafane yn "ddyn treisgar ac ystrywgar".
"Roedd yn rheoli pob agwedd o fywyd ei bartner, gan benderfynu beth roedd hi'n ei wneud, pwy oedd hi'n ei weld, a beth roedd hi'n ei wisgo.
"Gwadodd Villafane y troseddau, ond arweiniodd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron at ddyfarniad euog gan y rheithgor," meddai Ms Harding.
"Dangosodd y dioddefwr ddewrder aruthrol a daeth llawer o'r dystiolaeth yn uniongyrchol ganddi hi. Rydym yn ddiolchgar iawn iddi am ei holl gymorth yn yr achos hwn."
Ychwanegodd Ms Harding fod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn "cymryd pob achos o gam-drin domestig o ddifri a byddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yn y system cyfiawnder troseddol i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref

- Cyhoeddwyd30 Medi

- Cyhoeddwyd1 Hydref
