Cymunedau i redeg rhagor o wasanaethau cyhoeddus?

Canolfan Hamdden Plas Madoc
Disgrifiad o’r llun,

Mae 10 mlynedd ers i Ganolfan Hamdden Plas Madoc, ger Wrecsam, gael ei hachub gan ymgyrchwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae yna rybudd y gallai rhagor o adnoddau cyhoeddus gael eu rhoi yn nwylo cymunedau wrth i gynghorau wynebu heriau ariannol pellach.

Fe allai gwasanaethau nad oes rhaid i Gyngor Wrecsam ddarparu fod dan ystyriaeth, meddai'r prif weithredwr dros dro, wrth i awdurdodau lleol ddechrau llunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod.

Mae meysydd o'r fath yn cynnwys canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a thoiledau cyhoeddus.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd awdurdodau lleol yn derbyn 4.3% yn rhagor o arian yn 2025/26.

Yn wahanol i wasanaethau statudol fel addysg a gofal cymdeithasol, does dim dyletswydd cyfreithiol ar gynghorau i ddarparu gwasanaethau anstatudol.

Yn ôl Alwyn Jones, Prif Weithredwr dros dro Cyngor Wrecsam, mae nifer o gynghorau yn "agos" at orfod ystyried "pob un" gwasanaeth anstatudol.

"Allan nhw ddarparu nhw mewn ffordd wahanol? Allan nhw ddarparu nhw mewn ffordd mwy effeithiol?" meddai Mr Jones.

"Neu o bosib, oes 'na gyfle i weithio gyda'r gymuned o ran trosglwyddo'r asedau yna i'r gymuned a'r gymuned honno'n eu darparu nhw ar gyfer yr ardal?

"Dydy'r un o'r rhain yn sgyrsiau hawdd, ond heb os nag oni bai maen nhw'n bethau sy'n mynd i fod yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf."

Alwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Prif Weithredwr dros dro Cyngor Wrecsam, Alwyn Jones, mae'r cyngor yn gwario £60m yn llai'n flynyddol nag oedden nhw ddegawd yn ôl

Ers blynyddoedd, mae adnoddau a gwasnaethau wedi bod yn cael eu rhedeg gan gymunedau led led Cymru.

Ddeng mlynedd yn ôl cafodd adnoddau fel canolfan hamdden Plas Madoc ym mhentref Acrefair a'r llyfrgell yng Ngresffordd eu cau wrth i Gyngor Wrecsam geisio arbed arian.

Cawson nhw eu hailagor gan ymgyrchwyr ac maen nhw bellach yn cael eu rhedeg gan aelodau o'r gymuned.

Ddechrau'r mis fe ddywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam, Cynghorydd Mark Pritchard, eu bod fel awdurdod yn ystyried rhagor o doriadau i wasanaethau a diswyddiadau er mwyn cadw o fewn eu cyllideb.

Tyllau ariannol, tyllau'n y ffordd

Dywedodd y Cyng Pritchard hefyd y gallen nhw orfod codi'r dreth cyngor rhwng 9.9% a 15%.

"Dydy o ddim yn sefyllfa gyfforddus i fod ynddi pan 'den ni'n sôn am godiadau yn y dreth cyngor o'r lefel yna," meddai Alwyn Jones.

"Ond yn gynyddol be' sy'n digwydd ydy mae'r balans o ran sut 'den ni'n cael ein hariannu, rhwng yr arian gan Lywdoraeth Cymru a'r arian sy'n dod drwy'r dreth cyngor [yn] newid.

"Yn raddol ac yn gynyddol, mae'r lefel 'den ni'n dibynnu ar dreth cyngor yn codi oherwydd y cynnydd mewn galw am wasanaethau statudol."

Mae Pothole Land yn ffordd ddoniol o gael sylw'r cyngor, yn ôl trigolion
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pothole Land yn ffordd ddoniol o gael sylw'r cyngor ar fater difrifol, yn ôl trigolion

Mae cynnal ffyrdd yn faes statudol sydd wedi cael sylw'n ddiweddar yn Sir Wrecsam wrth i drigolion yn Nyffryn Ceiriog wneud atyniad twristaidd dychanol o'r tyllau mawr yn lonydd yr ardal.

Yn ôl Aled Jones, sy'n ffermio yn y dyffryn, mae'r tyllau'n creu costau i yrwyr.

"Mae 'na springs a pethau'n mynd ar y pick-up o hyd. Os fyswn i'n trio dod y ffordd yma mewn car fyse 'na ddim gobaith," meddai.

"Mae ceir yn torri, yn costio i'w trwsio nhw."

Aled Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Aled Jones ddim yn hapus gyda gwaith trwsio ffyrdd Cyngor Wrecsam yn Nyffryn Ceiriog

Mae Mr Jones yn feirniadol o'r gwaith trwsio dros dro sy'n cael ei wneud ar y tyllau gan Gyngor Wrecsam, ond mae'r cyngor yn dweud y gallen nhw drwsio yn well petaen nhw'n cael rhagor o arian gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn 2025/26, bydd awdurdodau lleol yn derbyn £6.1b mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar wasanaethau allweddol.

"Mae hynny'n gynnydd o 4.3% - neu £253m - ar sail debyg am debyg o gymharu â'r flwyddyn gyfredol hon.

"Bydd ein cyllideb derfynol arfaethedig, gan gynnwys y setliad terfynol i lywodraeth leol, yn cael ei gosod ym mis Chwefror."