Rhagolwg tymor newydd: Caerdydd a Chasnewydd

Brian Barry-Murphy, rheolwr newydd Caerdydd, a David Hughes, rheolwr newydd Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Bydd y tymor yn dechrau i ddau o glybiau Cymru yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr dydd Sadwrn.
Bydd Caerdydd yn wynebu Peterborough yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn yn Adran Un.
Yn Adran Dau ar yr un diwrnod fe fydd Casnewydd yn croesawu Notts County i Rodney Parade.
Mae'r ddau glwb yn mynd mewn i dymor 2025-26 gyda rheolwyr newydd wrth y llyw - Brian Barry-Murphy yng Nghaerdydd a David Hughes yng Nghasnewydd.
Dyma fwrw golwg ar obeithion dau glwb fydd yn gobeithio gwneud yn well wedi tymhorau anodd y llynedd.
Caerdydd
Mae hi dal yn rhyfedd meddwl mai yn Adran Un y bydd Caerdydd yn chwarae'r tymor yma a hynny am y tro cyntaf ers 2003.
Roedd y tymor diwethaf yn un i'w anghofio gyda'r rheolwr Erol Bulut yn cael ei ddiswyddo ym mis Medi wedi wyth gêm yn unig.
Roedd hynny ar ôl casglu dim ond un pwynt o'u chwe gêm agoriadol – eu dechreuad gwaethaf i'r tymor mewn 94 o flynyddoedd.
Roedd yn rhaid aros tan fis Rhagfyr i Omar Riza gael ei benodi yn rheolwr tan ddiwedd y tymor.
Er iddo gael dechrau addawol wrth y llyw, cafodd ei ddiswyddo gyda thair gêm o'r tymor i fynd.
Doedd dim y gallai chwaraewr canol cae'r clwb, a chapten Cymru, Aaron Ramsey ei wneud fel rheolwr dros dro i gadw'r Adar Gleision yn y Bencampwriaeth.
Be felly am eu gobeithion yn Adran Un?
Mae yna reolwr newydd arall wedi ei benodi, sef Brian Barry-Murphy, eu nawfed rheolwr mewn pedair blynedd.
Yn gyn-hyfforddwr gyda Chaerlŷr ac academi Manchester City, mae o'n un sydd wedi ei gysylltu gyda'r clwb yn y gorffennol.
Tawel iawn ydy hi wedi bod o ran trosglwyddiadau, ond mae 12 wedi gadael gan gynnwys rhai profiadol.

Ymosodwr Caerdydd a Chymru, Rubin Colwill
Mae Ramsey, Callum O'Dowda, Joe Ralls a Dimitrios Goutas i enwi dim ond pedwar wedi mynd – ond ar y llaw arall mae 'na ddigon o chwaraewyr profiadol wedi aros.
Byddai rhywun yn disgwyl i'r ymosodwyr Yousef Salech a Callum Robinson sgorio goliau – ac mae'r chwaraewr amryddawn Callum Chambers yn mynd i gynnig profiad.
A gobeithio mai dyma'r tymor pan y bydd y Cymro Rubin Colwill yn blodeuo ac yn gwireddu'r potensial sydd ganddo.
Yn siarad ar bodlediad BBC Cymru Y Coridor Ansicrwydd roedd cyn-ymosodwr Cymru Malcolm Allen yn ffyddiog am obeithion Caerdydd y tymor yma.
Ond i hyn ddigwydd mae angen newid perchnogaeth.
Mae cyn-gapten Cymru Gareth Bale yn arwain consortiwm i brynu'r clwb, ond hyd yn hyn mae'r cynnig wedi ei wrthod gan y perchennog Vincent Tan.
"Da ni ddim yn gwbod be ydy dyfodol y clwb," meddai Allen
"Dwi'n meddwl bod rhywbeth am ddigwydd ond dim cyn bod y ffenestr drosglwyddo wedi gorffen, ond dwi wedi fy argyhoeddi bod rhywun am brynu'r clwb a wedyn mi fydd y clwb yn symud ymlaen."
Casnewydd
Fel Caerdydd mae gan Gasnewydd reolwr newydd hefyd.
Mae David Hughes wedi gadael ei swydd fel rheolwr tîm dan 21 Manchester United er mwyn symud i Rodney Parade – mae o'n olynu Nelsom Jardim adawodd ei swydd bythefnos cyn diwedd y tymor diwethaf.
Ar ôl cael ei benodi fel rheolwr ar gytundeb o ddwy flynedd mi ddywedodd Hughes nad oedd gadael clwb fel United yn benderfyniad hawdd ond bod y prosiect sydd yn ei wynebu yn un sydd yn ei gyffroi.
Mae ganddo brofiad o weithio gyda academi Caerdydd a Southampton ac mi fydd ei brofiad o feithrin chwaraewyr ifanc yn hollbwysig gyda nifer o chwaraewyr ifanc yn y garfan bresenol.

Mae Michael Reindorf wedi ymuno gyda Chasnewydd ar fenthyg o Gaerdydd
Cael a chael oedd hi ar i'r Alltudion aros yn Adran Dau y tymor diwethaf wrth iddyn nhw orffen yn 22ain – dim ond uwchben y safleoedd disgyn.
Ond mae Hughes wedi bod yn brysur yn ceisio cryfhau'r garfan.
Bydd chwaraewr canol cae Cymru Matt Smith yn gaffaeliad gyda golwr rhyngwladol Seland Newydd Nik Tzanev yn ychwanegu'r profiad rhwng y pyst.
Dangosodd ymosodwr ifanc Caerdydd Michael Reindorf sydd ar fenthyg gyda'r clwb ei ddawn o flaen gôl yn ystod y gêm yn erbyn Barnet yn gynharach yn yr wythnos yn rownd ragbrofol Cwpan y Gynghrair.
Roedd Casnewydd yn fuddugol ar giciau o'r smotyn yn y gem honno ond mi fydd hi'n cymryd amser i'r chwaraewyr newydd asio.
Ond byddai gorffen yn hanner uchaf yr adran yn gynnydd ar y tymor diwethaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf