Jane Dodds yn addo cael bargen well i Gymru

jane dodds.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Dodds yn credu bod angen i Gymru gael mwy o reolaeth ar gyllid

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, wedi addo cael gwell bargen gyda San Steffan i Gymru os bydd ei phlaid yn llywodraethu yn y Senedd.

Wrth siarad yng nghynhadledd y blaid yn Bournemouth ddydd Sadwrn, dywedodd, bod angen cael y gweithlu mwyaf medrus yn y byd er mwyn i economi Cymru ffynnu.

I sicrhau hyn, medd Dodds, mae'n rhaid cael mwy o reolaeth dros gyllid Cymru.

"Rhaid i ni sicrhau gwell bargen gan San Steffan," meddai.

Mae Dodds yn gobeithio disodli Llafur fel y blaid fwyaf ym mis Mai, ond mae polau piniwn diweddar yn awgrymu bod Plaid Cymru a phlaid Reform mewn gwell sefyllfa i wneud hynny.

Dywedodd ei bod hi'n "chwerthinllyd" nad oedd Ystad y Goron wedi'i datganoli, a bod HS2 wedi cael ei alw'n brosiect Cymru a Lloegr pan fo'n rhedeg yn Lloegr yn unig.

Byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn helpu Cymru i greu chwyldro gwyrdd a fyddai'n creu miloedd o swyddi, meddai Dodds.

"Mae'n hanfodol ein bod yn rheoli ac yn defnyddio ein morlynnoedd llanw a'n gwyntoedd arfordirol," meddai.

"Byddem yn buddsoddi'n helaeth mewn cynhyrchu ynni ar y môr o amgylch arfordir Cymru a phrosiectau morlynnoedd llanw, o Abertawe i Fae Colwyn."

Ychwanegodd y byddai iechyd a gofal cymdeithasol wrth wraidd maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Nododd hefyd y byddai cynlluniau "wedi'u prisio'n llawn" y blaid yn mynd i'r afael â thlodi plant a chyrhaeddiad addysgol.

Dywedodd Dodds ei bod hi eisiau i lywodraeth nesaf Cymru ariannu 5,000 o welyau gofal cymdeithasol ychwanegol i leddfu'r pwysau ar y GIG.

"Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn siarad â phobl ledled Cymru am ein cynlluniau i amddiffyn yr amgylchedd, mynd i'r afael â'r argyfwng tai, a buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus," ychwanegodd.