Prosesau staffio 'anarferol' yn yr ysgol lle bu Neil Foden yn bennaeth
- Cyhoeddwyd
Cafodd degau o benodiadau staff yn Ysgol Friars ym Mangor eu gwneud gan y cyn-bennaeth a'r pedoffeil, Neil Foden heb unrhyw fewnbwn gan y llywodraethwyr.
Mae ymchwil gan Newyddion S4C hefyd yn dangos nad oedd hanner y swyddi, dros gyfnod o dair blynedd, wedi cael eu hysbysebu.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf ar ôl cam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Yn ôl bwrdd llywodraethwyr Ysgol Friars, mae "gwersi i'w dysgu" ac maen nhw bellach yn dilyn arweiniad Cyngor Gwynedd wrth recriwtio.
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr
Roedd Neil Foden yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor ac wedi bod yn bennaeth strategol yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth (FOI) gan undeb athrawon yr NEU, mae pryderon wedi eu codi am brosesau penodi staff Ysgol Friars yn ystod cyfnod Foden yn bennaeth.
Mae'r undeb yn honni fod Foden wedi penodi aelodau staff heb hysbysebion, heb gyfweliadau a heb lywodraethwyr.
Mae BBC Cymru'n deall bod merch Foden, Lisa, oedd yn gweithio yn Ysgol Friars, wedi ymddiswyddo yn gynharach eleni, ar ôl dechrau yn yr ysgol fel cynorthwyydd dysgu.
Mae hen brosbectws ar-lein yn dweud mai pennaeth Blwyddyn 11 oedd ei swydd ddiweddaraf – rôl fugeiliol yn unig.
Nid yw'r BBC yn gwybod sut y cafodd hi ei phenodi.
Mae dogfennau sydd wedi eu rhannu â Newyddion S4C yn dangos bod 82 allan o 94 o benodiadau mewn cyfnod o dair blynedd wedi eu gwneud heb y llywodraethwyr.
Roedd swyddi penaethiaid adran ac uwch-reolwyr ymhlith y penodiadau gafodd eu gwneud heb gyfweliadau.
Yn ôl Dilwyn Griffiths, sy'n gynrychiolydd undeb i nifer o staff Ysgol Friars, roedd Foden yn gweithredu fel y mynnai.
"Mi oedd hyn yn wirioneddol anarferol, fod 'na gymaint wedi cael eu gwneud. Roedd 'na rywfaint wrth gwrs ella yn ddyrchafiad o fewn yr ysgol.
"Ac o'r penodiadau i gyd - y rhai oedd wedi mynd drwy'r broses o hysbysebu ac yn y blaen - dim ond rhyw lond llaw ohonyn nhw oedd 'na lle oedd 'na gyfweliad wedi bod."
'Arglwydd ar ei deyrnas ei hun'
Ychwanegodd: "Yn y cyfweliadau rheini o'dd hi'n anarferol iawn i weld unrhyw aelod o'r corff llywodraethol arnyn nhw.
"Doedd y penodiadau ddim yn mynd drwy'r corff llywodraethol, doeddan nhw ddim yn cael eu hadrodd i'r corff llywodraethol, doedd 'na ddim byd.
"Oedd o [Foden] fel rhyw arglwydd ar ei deyrnas ei hun rhywsut."
Ychwanegodd Dilwyn Griffiths: "Mae yna gwestiwn yn codi ynglŷn â sut nad oedd hyn wedi amlygu ei hun efo'r awdurdod… yr ysgol sy'n gwneud y penodi ond yr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am roi'r cytundebau allan, ac mae 'na gwestiwn yn codi yn fan'na hefyd ynglŷn â sut oedd hynny yn medru digwydd.
"Sut nad oedd yr awdurdod lleol wedi sylwi fod hyn yn anarferol? Dwi ddim yn gwybod yr ateb.
"Mae 'na gymaint o bethau am Ysgol Friars ynghylch sut doedd 'na neb wedi sylwi ar hyn, a dyma'r cwestiwn sy'n codi efo bob dim sydd wedi digwydd yno i bob pwrpas."
'Un ai yn ei glwb o, neu ddim'
Mae Gill, nid ei henw iawn, yn gweithio yn yr ysgol ac yn dweud ei bod hi'n nabod nifer a gafodd gynnig swydd gan Foden heb fynd drwy brosesau swyddogol.
"Roeddech chi un ai yn ei glwb o [Foden], neu ddim," meddai.
"Roedd 'na lot o'r staff yn meddwl fod swyddi penodol yn cael eu cadw yn arbennig ar gyfer rhai pobl, a bod y broses recriwtio a phenodi ddim yn deg nag yn ddiduedd.
"Dwi'n gwybod am bobl gafodd gynnig swyddi, ac yn sicr doedd 'na ddim hysbyseb."
Mae hefyd wedi dod i'r amlwg fod yr ysgol wedi bod â dyled sylweddol.
Roedd gan Ysgol Friars bron i £1,000,000 wrth gefn - yn bennaf oherwydd grantiau yn sgil y pandemig - ond erbyn Ionawr eleni roedd yr ysgol mewn dyled o £500,000.
O ganlyniad, roedd yn rhaid i'r ysgol ddechrau ar y broses o ddiswyddiadau gorfodol.
Fe ddaeth y broses ymgynghori i ben heb i'r ysgol orfod diswyddo staff, ar ôl i 17 o weithwyr adael yn wirfoddol.
Mae'r llywodraethwyr a Chyngor Gwynedd yn dweud fod yr ysgol bellach mewn sefyllfa "ariannol gadarn" a'u bod yn cydweithio ar reolaeth gyffredinol ac ariannol yr ysgol wrth symud ymlaen.
'Polisïau yn cael eu hadolygu'
Mewn datganiad, fe ddywedodd llywodraethwyr yr ysgol fod yna "aneglurder" am y "prosesau hysbysebu a phenodi" gafodd eu gwneud gan Neil Foden "yn ystod ei 26 mlynedd fel pennaeth".
Noda'r datganiad hefyd nad oedd trefniadau recriwtio'r gorffennol yn "ddigon agored a thryloyw."
Mae "polisïau a gweinyddiaeth yr ysgol" yn cael eu hadolygu, fel eu bod yn "cyd-fynd â phob gofyn statudol a pholisi'r Ysgol a'r Cyngor".
Mae datganiad gan Gyngor Gwynedd yn nodi nad oedd pob un o'r 94 penodiad yn rhai o'r newydd, a bod yna gyfuniad o swyddi dros dro, dyrchafiadau a newidiadau mewnol.
Mae'r awdurdod yn "cefnogi llywodraethwyr ac arweinyddiaeth newydd yr ysgol i wneud yn siŵr fod eu prosesau hysbysebu a phenodi staff, yn gadarn ac effeithiol i'r dyfodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd
- Cyhoeddwyd6 Awst
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf