Sylwadau barnwr yn achos Neil Foden yn 'anghywir' - CPS
- Cyhoeddwyd
Roedd y barnwr yn achos y pedoffeil a'r cyn-brifathro Neil Foden yn anghywir i ddweud y byddai'n treulio o leiaf 11 mlynedd yn y carchar, yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mewn llythyr a gafodd ei anfon at AS Plaid Cymru Liz Saville Roberts, mae'r CPS yn dweud y gall Mr Foden gael ei ryddhau ar ôl treulio hanner ei ddedfryd yn unig dan glo.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf am gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Mae Ms Saville Roberts wedi gofyn i Lywodraeth y DU edrych ar yr achos, gan ddweud bod dioddefwyr yn "byw mewn ofn" y bydd yn cael ei ryddhau'n gynnar.
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd
- Cyhoeddwyd15 Hydref
Mewn llythyr at Ms Saville Roberts, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, mae dirprwy brif erlynydd y Goron yng Nghymru, Huw Rogers, yn dweud: "Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu, dywedodd y barnwr y byddai Mr Foden yn treulio dwy ran o dair o'i ddedfryd yn y ddalfa cyn iddo gael ei ryddhau.
"Roedd hyn yn anghywir.
"Bydd Mr Foden yn treulio hanner ei ddedfryd yn y ddalfa, ac ar yr adeg honno bydd yn cael ei ryddhau ar drwydded."
Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i egluro mai dim ond troseddau gyda dedfryd uchaf o garchar am oes sy'n cael eu cadw yn y carchar am ddwy ran o dair o'u dedfryd, tra bod "diffynyddion sy'n cael eu dedfrydu am droseddau sydd ag uchafswm dedfryd yn llai na charchar am oes yn cael eu rhyddhau ar ôl hanner eu dedfryd".
Galw am 'ddiogelu'r dioddefwyr'
Cafwyd Neil Foden, 66, o Hen Golwyn yn Sir Conwy, yn euog o 19 cyhuddiad i gyd, gan gynnwys 12 cyhuddiad o weithgaredd rhyw gyda phlentyn a dau gyhuddiad o weithgaredd rhyw gyda phlentyn tra roedd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth.
Ymunodd yr athro ag Ysgol Friars ym Mangor, Gwynedd, fel dirprwy bennaeth yn 1989, gan ddod yn brifathro yn 1997.
Bu hefyd yn bennaeth strategol Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Gorffennaf, dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod Foden yn "fwli" a oedd yn "cuddio cyfrinach erchyll... obsesiwn gyda merched ifanc".
- Cyhoeddwyd8 Hydref
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
Wrth godi'r mater yn San Steffan ddydd Mawrth, gofynnodd Ms Saville Roberts i'r Gweinidog Cyfiawnder, AS Pontypridd Alex Davies Jones, a fyddai "yn cwrdd â mi i drafod sut i ddiogelu'r dioddefwyr, oherwydd maen nhw'n byw dan ofn ei ryddhau yn gynnar".
Wrth ymateb ar ran Gweinyddiaeth Cyfiawnder Llywodraeth y DU, dywedodd Ms Davies-Jones ei bod yn ymwybodol o'r achos "gwarthus" a bod "dedfrydu yn fater i'r farnwriaeth annibynnol, ond byddaf yn edrych ar yr achos ac yn cyfarfod â hi i'w drafod ymhellach".
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Farnwriaeth y Llysoedd a Thribiwnlysoedd, a'r CPS am ymateb.
'Eisiau gwneud y peth cywir ar gyfer y dioddefwyr'
Yn y cyfamser, mae arweinydd newydd Cyngor Gwynedd yn dweud ei bod eisiau i'r cyngor "wneud y peth cywir ar gyfer dioddefwyr" Foden a'i fod "yn wir ddrwg" ganddi am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw.
"Fel yr arweinydd newydd, dwi yn teimlo pwysa' mawr ar fy 'sgwydda, pwysa'r cyfrifoldeb i gael hyn yn iawn, nid dim ond i'r rhai sydd wedi eu heffeithio'n uniongyrchol ond pawb sydd wedi eu heffeithio," dywedodd Nia Jeffreys wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol.
"Dwi'n sefyll gyda'r dioddefwyr, fel mae pawb yn siambr y cyngor... dwi'n meddwl amdanyn nhw'n aml.
"Mae'n sefyllfa heriol iawn, ond dwi'n gobeithio gallwn ni ddysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd a gwneud popeth o fewn ein gallu i drio sicrhau bod dim byd fel hyn yn digwydd eto."
Ychwanegodd bod y sefyllfa wedi cael "effaith anferthol" ar y gymuned ac ar ddisgyblion, a bod y cyngor yn darparu gwasanaethau i'w cefnogi, gan gynnwys cwnsela.