Peidiwch enwi perthnasau ASau sy'n gweithio yn y Senedd - adroddiad

- Cyhoeddwyd
Dylai enwau pobl sy'n gweithio yn y Senedd sy'n perthyn i wleidyddion gael eu cadw'n gyfrinachol rhag y cyhoedd, yn ôl corff safonau mewnol y sefydliad.
Er bod Aelodau o'r Senedd (ASau) wedi'u gwahardd rhag cyflogi eu teulu eu hunain, mae eu teuluoedd yn gallu cael eu cyflogi gan gydweithwyr, cyn belled â bod hynny yn cael ei ddatgan yn gyhoeddus yn y gofrestr buddiannau.
Er y byddai natur y berthynas yn dal i gael ei hadrodd, dywedodd pwyllgor safonau'r Senedd na ddylid datgelu enwau pobl yn gyhoeddus am resymau diogelwch.
Dywedwyd wrth BBC Cymru fod y pwyllgor yn ymwybodol o "sawl achos o aelodau'r teulu yn derbyn e-byst a negeseuon cyfryngau cymdeithasol diangen oherwydd eu bod yn perthyn i wleidyddion".
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd7 Mai
Mae gan ddau o'r pedwar person ar y pwyllgor safonau - cadeirydd y Blaid Lafur, Hannah Blythyn, a Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru - bartneriaid sy'n gweithio i ASau eraill.
Fe wnaeth y ddau ddatgan buddiant yn ystod y trafodion, ond gan barhau i gymryd rhan yn y trafodaethau.
Dywedodd llefarydd ar ran y pwyllgor, mewn datganiad: "Wrth wneud yr argymhelliad hwn, ceisiodd y pwyllgor gydbwyso yr angen i fod yn agored â'r angen i amddiffyn diogelwch anwyliaid.
"Dyma un argymhelliad ymhlith sawl un a fwriadwyd i wella tryloywder ynghylch datgan buddiannau gan aelodau."
Byddai angen i wleidyddion y Senedd, sydd ar doriad yr haf ar hyn o bryd, gytuno ar y mesur.
Daeth yr argymhelliad wedi ymchwiliad i sut mae ASau yn cofrestru ac yn datgan buddiannau.
Rhoddion
Mae'r argymhellion yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i ASau roi pris ar unrhyw roddion maen nhw'n eu derbyn ac ar ymweliadau tramor, a chofrestru faint o arian maen nhw'n ei dderbyn am waith y tu allan i'r Senedd.
Mewn rhagarweiniad i adroddiad ar yr ymchwiliad, dywedodd Hannah Blythyn y byddai'r newidiadau yr oedd yn eu cynnig "yn annog tryloywder a chysondeb".
Ymhlith yr 14 o argymhellion mae cael "eithriad" ar gyfer cyhoeddi enw aelodau'r teulu, lle maen nhw'n cael eu cyflogi gan ASau eraill.
"Yn ogystal â chynyddu tryloywder, roedd y pwyllgor yn ymwybodol o'r angen i leihau rhyddhau gwybodaeth am aelodau'r teulu, dim ond am fod yn perthyn i aelod etholedig," ysgrifennodd Ms Blythyn.
"I'r perwyl hwnnw, cytunwyd bod cyhoeddi enwau aelodau'r teulu a gyflogir gan aelodau eraill ar y gofrestr yn risg ddiangen i'w diogelwch, a byddwn yn dileu'r gofyniad hwn o'r seithfed Senedd ymlaen."
Mewn llythyr at y pwyllgor, ysgrifennodd y grŵp Llafur: "Nid yw aelodau o'r teulu sy'n cael eu cyflogi gan Aelodau o'r Senedd yn ffigurau cyhoeddus ac mae'r grŵp yn credu'n gryf bod angen mesurau ychwanegol bellach i amddiffyn eu hunaniaeth fel rhan o ymrwymiad ehangach y Senedd i amddiffyn staff ac aelodau rhag cam-drin a bygythiadau i'w diogelwch personol."
Datganodd Hannah Blythyn a Peredur Owen Griffiths fuddiant mewn cyfarfod ym mis Ebrill 2025 gan fod partneriaid y ddau yn gweithio i'w grwpiau plaid.
Mae gwraig Ms Blythyn yn gweithio i'r Prif Weinidog Eluned Morgan, tra bod gwraig Peredur Owen Griffiths yn gweithio i AS Plaid Cymru Sioned Williams.
Cafodd y datganiad ei hepgor mewn fersiwn gynharach o adroddiad yr ymchwiliad, a gyhoeddwyd ar wefan y Senedd.
Dywedodd y Senedd mai "camgymeriad gweinyddol" oedd hyn.