Gallai achubwr bywyd ar shifft fod wedi atal bachgen rhag boddi

Dywedodd teulu David Ejimofor bod ganddo "wên heintus, natur ofalgar a brwdfrydedd diddiwedd"
- Cyhoeddwyd
Fe allai cael achubwr bywyd ar ddyletswydd fod wedi bod yn ddigon i atal bachgen rhag marw ar y noson pan fu foddi, yn ôl crwner.
Bu farw David Ejimofor, 15, ar draeth Aberafan, Castell-nedd Port Talbot ar 19 Mehefin 2023, ar ôl neidio i'r môr wrth ddathlu diwedd ei arholiadau gyda'i ffrindiau.
Dywedodd y crwner cynorthwyol, Ed Ramsey, pe byddai achubwr bywyd wedi bod yn gweithio ar y pryd "mae'n bosib na fyddai David wedi neidio i'r dŵr a boddi".
Ar ddiwedd y cwest i'w farwolaeth a barodd dridiau yn Abertawe, dywedodd Mr Ramsey bod David wedi "mynegi pryder ynglŷn â neidio i'r dŵr, felly, mae'n bosibl y byddai achubwr bywyd wedi bod yn ddigon i'w atal".
Wrth gofnodi casgliad naratif, ychwanegodd: "Rydym wedi clywed tystiolaeth bod achubwr bywyd ar y morglawdd wedi gweithio yn y gorffennol."

Dywedodd teulu David Ejimofor bod ganddo "wên heintus, natur ofalgar a brwdfrydedd diddiwedd"
Dywedodd Mr Ramsey nad oedd yn glir a allai David fod wedi cael ei achub am ei fod yn "15 oed, yn fawr ac yn dal, a fyddai wedi gwneud y dasg o'i achub yn un anodd".
"Byddai gallu nofio David hefyd wedi bod yn ffactor, ac yn ddigon posib bod y sioc dŵr oer a'r panig wedi chwarae rhan yn yr achos yma am nad oedd ei allu nofio yn ddigonol," meddai.
Ond daeth Mr Ramsey i'r casgliad nad oedd digon o rwystrau yn y pier i atal y farwolaeth.
"Doedd dim rhwystr, diffyg arwyddion ac yn fwy allweddol, dim achubwr bywyd i atal David a'i ffrindiau," meddai.

Roedd David ar y traeth gyda'i ffrindiau fel rhan o ddathliadau diwedd arholiadau TGAU a Safon Uwch
Fe neidiodd David i'r môr tua 19:00 gydag unigolyn arall yn ei arddegau, ac fe wnaeth foddi o fewn munudau.
Fe wnaeth padlfyrddiwr - heddwas nad oedd yn gweithio ar y pryd - gyrraedd o fewn dau funud ar ôl i David ddiflannu o dan y dŵr, gan helpu i adfer y corff o waelod y môr.
Mae'r teulu yn dweud fod diffyg arwyddion yn y pier yn broblem, er bod yna un arwydd o rybudd ar y pryd.
Dywedodd Rebecca Mansell, a oedd yn cynrychioli'r teulu, nad oedd David wedi gweld yr arwydd ac iddo fentro i'r dŵr ymhellach i lawr o'r arwydd.
Clywodd y cwest bod mwy o arwyddion wedi eu gosod ers marwolaeth David.
Dywedodd Ms Mansell pe byddai achubwr bywyd wedi bod yn bresennol ar y pier, y byddai "diwedd gwahanol iawn wedi bod i stori David am mai eu prif rôl yw atal".
Bydd adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol hefyd yn cael ei gyhoeddi gan y crwner cynorthwyol.
'Methu bod ym mhob man'
Mewn ymateb, cydymdeimlodd yr RNLI gyda ffrindiau a theulu David, gan ychwanegu fod y "digwyddiad trasig hwn wedi digwydd ar dir preifat".
Mae'r elusen, meddai, yn "bodoli er mwyn atal boddi, fel nad oes neb yn dioddef colli rhywun annwyl yn y modd dinistriol hwn".
"Mae darparu gwasanaeth achubwr bywyd yn un o ystod o fesurau diogelwch y gall perchennog tir neu Gyngor eu rhoi ar waith i leihau risg," meddai.
"Mae mesurau eraill fel arwyddion parhaol neu addysg diogelwch ar y traeth yn bwysig - gan na all achubwyr bywyd fod ym mhob man trwy'r amser.
"Mae patrolau achubwyr bywyd yr RNLI yn gweithredu yn gyson rhwng 10:00 a 18:00 - oherwydd dyma'r cyfnod amser y mae data digwyddiadau yn dweud wrthym yw'r cyfnod prysuraf, a'r risg uchaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023