Lleihau dirwy Dŵr Cymru o dros £1m ar ôl apêl yn y llys

Mae Dŵr Cymru'n gyfrifol am hunan-fonitro ansawdd y dŵr yn eu gweithfeydd a chyflwyno eu canlyniadau i Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru'n dweud bod dirwy a gawson nhw am fethu â montiro ansawdd dŵr wedi ei lleihau'n sylweddol yn dilyn apêl llwyddiannus.
Ym mis Mai, fe gafodd Dŵr Cymru ddirwy o £1.35m ar ôl pledio'n euog i 15 cyhuddiad sy'n ymwneud â channoedd o droseddau yn 2021 a 2021.
Mae'r dirwy nawr wedi cael ei lleihau i £120,000.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru eu bod yn falch bod eu hapêl yn erbyn maint y dirwy wedi llwyddo yn Llys y Goron Caernarfon.
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd3 Mai
- Cyhoeddwyd21 Ebrill
Roedd y troseddau'n ymwneud â thorri amodau trwydded amgylcheddol oherwydd bod samplau'n anghyflawn, yn cael eu cyflwyno'n hwyr neu ddim o gwbl, a ddim yn cael eu cymryd mewn modd amserol.
Roedd hyn yn golygu na fyddai unrhyw niwed posibl i ansawdd dŵr, bywyd gwyllt na chyfleusterau eraill wedi bod yn hysbys.
Dywedodd y cwmni nad oedd "unrhyw niwed amgylcheddol yn gysylltiedig â'r achos hwn ac roedd y methiannau o ran monitro'n cynrychioli nifer fach iawn (tua 1%) o enghreifftiau mewn rhaglen a oedd yn cynnwys degau o filoedd o achosion bob blwyddyn".
Ychwanegon nhw eu bod yn cydnabod nad oedd hyn yn ddigon da "yn enwedig yn ytsod 2020/21 pan effeithiodd Covid ar gymaint".
Mae Dŵr Cymru yn gyfrifol am hunan-fonitro ansawdd eu dŵr yn eu gweithfeydd a chyflwyno eu canlyniadau i'r rheolydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
"Fel cwmni di-elw, ein hunig ffynhonnell incwm yw cwsmeriaid", meddai Dŵr Cymru.
"Drwy leihau'r swm sy'n cael ei wario ar ddirwyon gallwn gynyddu ein buddsoddiad mewn gwasanaethau a diogelu'r amgylchedd i'r eithaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.