Gobaith am filoedd o swyddi o ddenu cwmnïau tramor i Gymru

ArianFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan wedi dweud ei bod hi'n gobeithio y bydd cwmnïau tramor yn gwario biliynau o bunnoedd ac yn creu miloedd o swyddi yng Nghymru o ganlyniad i uwchgynhadledd buddsoddi ryngwladol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghasnewydd ar 1 Rhagfyr.

Tyfu'r economi yw ei "phrif flaenoriaeth", meddai'r prif weinidog, gan addo "pwyslais gwahanol" i gyn-arweinwyr Llafur Cymru.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod Llafur, sydd wedi arwain Llywodraeth Cymru ers datganoli yn 1999, wedi "rhwystro" yr economi tra dywedodd Plaid Cymru bod yr uwchgynhadledd yn "gimig sy'n ceisio cuddio diffyg gweledigaeth Llywodraeth Lafur Cymru".

170,000 o bobl

Mae mwy na 170,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio i gwmnïau sy'n eiddo dramor, ond dywedodd Eluned Morgan wrth BBC Cymru: "Rwy'n meddwl y gallwn gael mwy o hynny."

Ychwanegodd: "Rwy'n uchelgeisiol iawn o ran yr hyn rwy'n gobeithio ei gael allan [o'r uwchgynhadledd].

"Rwy'n edrych am biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i ddod i mewn a miloedd o swyddi i'w cyflawni."

Dywedodd y byddai'n cymryd "nifer o flynyddoedd" i ddigwydd ond bod y llywodraeth wedi dechrau siarad â chwmnïau yn barod.

Dywedodd Ms Morgan, a gymerodd yr awenau ar ôl ymddiswyddiad Vaughan Gething yr haf diwethaf, fod pleidleiswyr wedi dweud wrthi eu bod nhw eisiau mwy o swyddi o safon.

"Rwy'n cymryd fy arweiniad gan y cyhoedd oherwydd dyna beth maen nhw eisiau ei weld," meddai.

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tyfu'r economi yw ei "phrif flaenoriaeth", meddai'r prif weinidog, gan addo "pwyslais gwahanol" i gyn-arweinwyr Llafur Cymru

Bydd yr uwchgynhadledd yn cael ei chynnal yng nghanolfan cynhadledd ryngwladol ICC Cymru a Gwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwario £2.5m i helpu cwmni technoleg o'r Unol Daleithiau, Cadence Design Systems, agor canolfan newydd yng Nghaerdydd, gan greu 100 o swyddi.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr dros yr economi, Samuel Kurtz: "Tra bod Llafur Cymru a'r Deyrnas Unedig yn rhwystro busnesau gyda llu o drethi newydd o ddau ben yr M4, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo i drwsio economi Cymru, drwy ddarparu addysg o ansawdd uchel, sgiliau o'r radd flaenaf a chefnogaeth ystyrlon i fusnesau."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr economi ac ynni, Luke Fletcher, bod yr uwchgynhadledd yn "gimig sy'n ceisio cuddio diffyg gweledigaeth Llywodraeth Lafur Cymru ar gyfer economi Cymru ac o ran cefnogi busnesau Cymreig".

"Ni fydd digwyddiad untro yn trwsio hyn".

Ychwanegodd bod "angen siop un stop newydd i fuddsoddwyr a busnesau domestig Cymreig gael mynediad at y wybodaeth, y cymorth a'r cyllid sydd eu hangen arnynt i dyfu."